Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Elin Llwyd Llwyfan Elin Llwyd
Mai 2004
Yn actores a chantores, mae Elin Llwyd yn prysur wneud enw i'w hun fel perfformwraig dalentog.
Mae Elin, sydd â theulu yn byw yn Hendy-gwyn, newydd orffen ei hastudiaethau yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ac ar fin dechrau yn ei swydd gyntaf yn perfformio mewn cynhyrchiad Theatr mewn Addysg gyda Theatr Gwent.

Mae'n amlwg iawn bod Elin Llwyd wrth ei bodd yn canu - mae'n aelod o bedwar côr! Yn ogystal â bod yn aelod o Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, mae Ein hefyd yn perfformio gydag Aelwyd CF1 yng Nghaerdydd, côr Cywair dan arweinyddiaeth Islwyn Evans a chôr Cytgan, sef parti canu a sefydlwyd yn ddiweddar gan grŵp o aelodau'r Côr Ieuenctid Cenedlaethol.

"Dwi wrth fy modd yn canu," meddai Elin. "Dwi'n cael lot o hapusrwydd ma's o ganu a pherfformio ac yn joio mas draw!"

Mae Elin wedi bod yn perfformio ers yn blentyn. "Fe ddechreues i ganu yn yr Eisteddfodleol" meddai, "wedyn fe wnes i gystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol. Datblygodd y diddordeb wrth i'r blynyddoedd fynd mlaen, ac i fod yn onest dwi ddim yn credu byddai'n gwneud unrhyw beth arall nawr."

Pan ddaeth yr amser i benderfynu beth reodd hi am wneud ar ôl gadael y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, doedd dim angen iddi feddwl ddwywaith, a chafodd ei derbyn i Goleg Cerdd a Drama Cymru i ddilyn cwrs actio.

 hithau'n hen gyfarwydd â chamu ar y llwyfan, ydi Elin yn dal i deimlo'r nerfau cyn perfformio mwyach? "Na, ddim fel'ny" meddai, "dwi wedi bod yn perfformio ers cymaint fel bod e ddim yn poeni fi mwyach. Ond dwi'n meddwl bod e'n beth da cael tamaid bach o nerfau cyn perfformio hefyd."

Yn ddiweddar, bu'n actio un o'r prif rannau yng nghynhyrchiad y Coleg o Guys and Dolls, fel Miss Adelaide. "Roedd e'n grêt, 'nes i joio pob munud ohono, a 'nes i sylweddoli faint dw i'n gweld eisiau canu ac actio gilydd hefyd," meddai. Does dim syndod felly, mai canu caneuon sioeay cerdd sydd orau gan Elin.

Yn ogystal â chynyrchiadau llwyfan gyda'r coleg a'i swydd gyntaf gyda Theatr Gwent, mae Elin hefyd wedi bod yn recordio yn unigol a gyda'r côr ar gyfer rhaglenni teledu yn ddiweddar.

Mae hi wedi recordio darnau ar gyfer Noson Lawen, wedi cymryd rhan yn Emyn Heddwch Karl Jenkins ac wedi recordio darn i Con Passionate a fydd yn cael ei ddarlledu ym mis Hydref. Gyda chymysgedd o brofiad, mae'n amlwg bod Elin yn gallu troi ei llaw at pob math o berfformio ac at bob cyfrwng hefyd, ond dyw hi ddim yn hollol siŵr pa un yw ei ffefryn ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.

"Dwi ddim yn siwr iawn eto" meddai. "Dwi am geisio wneud gyrfa ma's o berfformio a dwi am aros yng Nghaerdydd am sbel. A bydden i'n joio gwneud sioe gerdd yn West End Llundain rhywbryd. Ond ar hyn o bryd, dwi jyst am gael gymaint o brofiad â phosib."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý