Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Geraint Lewis "Aussie" dros dro
Mai 2007
Gadewch i mi yn gyntaf gyflwyno fy hun. Geraint Lewis ydw i a dwi'n dod yn wreiddiol o 3, Llysycoed, Llangynin. Bydd sawl un yn f'adnabod fel Geraint Llangynin, Lewis neu Geraint mab Elfed.
Mae fy ngwraig Jen a minnau wedi symud i Perth, gorllewin Awstralia am ddwy flynedd i wneud ychydig o waith addysgu a gobeithio, rhywfaint o hyfforddi rygbi, fel y galla i ddysgu pobl y wlad (yr Aussies) sut i drechu'r Saeson. Roedden ni'n byw ac yn addysgu yn ardal Bryste ac wedi penderfynu symud allan yma ar ôl teithio o amgylch Awstralia yn ystod haf 2005 a gweld pa mor odidog oedd y wlad.

Pam Perth medde chi? Wel gyntaf oll mae'n rhatach na Sydney, ond y gwir reswm oedd bod tipyn o bopeth yma! Mae yma filltiroedd o draethau, digonedd o ardaloedd gwyrdd a phopeth sydd ei angen arnoch chi mewn dinas fach gryno. Ond ychydig y tu allan i'r ddinas rydych chi nôl ym mherfeddion cefn gwlad (neu'r Bush fel maen nhw'n dweud) tebyg iawn i Langynin ond heb siop Gwennie!

Rydyn ni wedi bod yma nawr am yn agos i 6 wythnos ac yn byw gyda'n ffrindiau Jamie a Louise a'u dau blentyn, Amy a Matthew. Jamie oedd y cyntaf i mi gwrdd ag e pan es i i'r Brifysgol ac rydyn ni wedi bod yn ben ffrindiau byth oddi ar hynny!

Rydyn ni wedi bod yn ddigon lwcus i gael ychydig o waith cyflenwi. Mae rhyw reolau dwl yma o ran addysgu, yn gyntaf mae'n rhaid i chi gofrestru fel athro, mae hyn yn cymryd tua 4 - 6 wythnos, Ond ar ôL mynd i'r brif swyddfa ar ein hail ddiwrnod a defnyddio ychydig o swyn y Cymro, cawson ni'n cofrestru cyn pen pythefnos. Roedd hyn yn golygu mai dim Ond mewn ysgolion preifat y gallem ni addysgu. Er mwyn addysgu yn ysgolion y wladwriaeth mae angen Rhif Adnabod, Ond ddwedodd y brif swyddfa ddim mo hynny wrthon ni (nid yr Awstraliaid yw'r bobl fwyaf trefnus) felly allwn ni ddim dysgu yn ysgolion y wladwriaeth am tua 8 wythnos.

Ond mae gweithio mewn ysgolion preifat wedi bod yn dda iawn hyd yn hyn er bod y system yn wahanol iawn i'r un nôl adref. Yma, mae llawer o'r ysgolion preifat yn ysgolion Catholig ac felly'n maen nhw'n rhoi cymhorthdal swmpus ar gyfer ffioedd blynyddol y plant. Un ysgol Gatholig rydyn ni wedi cael llawer o waith ynddi yw Mercy College sy'n ysgol ddigon anodd gyda LLawer o fyfyrwyr o sawl gwahanol gefndir diwylliedig sy' n dipyn o her.

Dim ond tua 1000.OOGBP y mae Mercy yn codi ar rieni er mwyn i'w plant fynychu ac ni fyddai hynny'n ddigon i dalu am wisg swyddogol rhai o'r ysgolion mwy crand. Fodd bynnag, mae rhai o'r ysgolion preifat rydyn ni wedi bod yn addysgu ynddyn nhw wedi bod yn anhygoel gyda chyfleusterau a fyddai'n cystadlu'n hawdd a Choleg Llanymddyfri.

Bu'r ddau ohonom ni'n cyflenwi ar gyfer Addysg Gorfforol am ddiwrnod yn un o ardaloedd moethus Perth mewn ysgol o'r enw Newman College, ac yno treuliodd y ddau ohonom ddiwrnod yn addysgu nofio ym mhwll nofio 50 metr awyr agored yr ysgol! ! Cofiwch chi, roedd y ffioedd i fynychu'r ysgol yn 9000.OOGBP y tymor, felly rydyn ni wedi cael profiad o drawsdoriad amrywiol iawn o ysgolion a disgyblion.

Er mai athrawon Ymarfer Corff yw'r ddau ohonom, wrth wneud gwaith cyflenwi, fel arfer, gofynnir i chi ddysgu pynciau eraill hefyd. Mae'r ddau ohonom wedi addysgu amrywiaeth helaeth o bynciau o Ddrama i Beirianneg, Addysg Grefyddol i Wyddoniaeth. Mae Jen wedi ymdopi'n well na fi yn hyn o beth, bydd unrhyw un o'm cyd athrawon sy'n darllen hwn yn siŵr o feddwl"Beth sy'n dod o'r byd gyda Lewis yn addysgu Ffiseg i ddosbarth TGAU!". Maen nhw'n i gyd yn gwybod nad fi oedd y gorau yn y dosbarth, ac y byddai'n well gen i fod allan yn cicio neu'n taflu pêl. Ond mae'r cyfan wedi bod yn brofiad da ond peidiwch a disgwyl i mi ddod 'nôl o Awstralia fel athro Addysg Grefyddol.

Y profiad gorau yn y dosbarth o bell ffordd hyd yma oedd fy ngwers Siapanaeg yr wythnos ddiwethaf. Nawr, dwi ddim yn dda iawn mewn ieithoedd tramor ac yn ystod fy nyddiau ysgol doeddwn i ddim yn ymdopi gyda Ffrangeg neu Almaeneg, roedd Cymraeg a Saesneg yn ddigon a doeddwn i ddim mor dda a hynny yn rheiny chwaith. Felly, ar ôl gweld beth oedd yn rhaid i mi ei addysgu i'r myfyrwyr 14 oed doedd gen i ddim syniad, felly dyma fi'n penderfynu addysgu iaith dramor arall iddyn nhw - Cymraeg. Erbyn diwedd y wers roedd y dosbarth cyfan bron yn gallu dweud y rhifau 1-10 yn Gymraeg yn ogystal â 'Shwmae', `Bore da' a 'Nos da'. Es i ati wedyn i roi cynnig ar Llanfairpwllgwyngychgogerych ac ati ond roedd hynny'n ormod iddyn nhw, ond dwi wedi gwneud fy rhan dros Fwrdd Croeso Cymru.

Rydyn ni wedi prynu car bach o garej leol. Hyundai Excel bach 10 mlwydd oed sydd â 100,000 milltir ar y cloc ond tra'i fod e'n mynd â ni o A i B mae popeth yn iawn. Gwyddel oedd perchennog y garej a oedd wedi symud yma 20 mlynedd yn ôl, ond prin y gallwn i ddeall yr un gair ganddo gan mor gryf oedd ei acen o hyd. Felly 'sdim angen i neb adref ofidio y bydda i'n dod nôl yn swnio fel Rolf Harris - mae'r Gwyddel yn brawf nad ydyn ni'r Celtiaid fyth yn colli'n hacen!

Rydyn ni wedi llwyddo i ddod o hyd i docynnau tymor tîm Rygbi'r Western Force Super 14's sydd wedi'i leoli yn Perth. Maen nhw'n chwarae'r holl brif dimau rygbi yn Awstralia, Seland Newydd a De Affrica. Rydyn ni wedi bod yn gwylio tair gêm ac mae'r awyrgylch yn wych gyda rhyw 30,000 o bobl yn gwylio. Cyn inni gyrraedd doedd y Force heb ennill un gêm gartref am dros flwyddyn, ond ers i ni fod yn gwylio dydyn nhw ddim wedi colli, felly rhaid mai ni sy'n dod â lwc dda iddyn nhw (wel dyna dwi' n ei ddweud with Jen ta beth, fel y gallwn ni fynd i'r gêm nesa!)

Dwi wedi bod yn hyfforddi gyda chlwb rygbi lleol o'r enw Cottlesloe. Mae refit wrth ymyl y cefnfor ac mae'n anodd canolbwyntio ar hyfforddi ar nos Fawrth a nos Iau gan fod y machlud ysblennydd sydd i'w weld dros Gefnfor yr India yn denu'ch sylw. Fel y bydd sawl un o'm cyn gyd-chwaraewyr yn cofio, doedd dim angen llawer i fi beidio a chanolbwyntio wrth hyfforddi. Bum yn chwarae mewn treial yr wythnos ddiwethaf am 3.30 y prynhawn a'r tymheredd yn 36 gradd canradd. Dwi ddim yn gwybod sut y gwnes i ymdopi, ond fe wnes i a dwi'n chwarae yn y treialon nesa'r penwythnos hwn, felly gobeithio y bydd hi damed yn oerach.

Mae'r tywydd wedi bod yn dwym iawn yma ers i ni gyrraedd ac mae wedi bod yn sioc i'r system. Rydyn ni bron yng nghanol yr hydref a dyma'r mis Mawrth cynhesaf ar gof a chadw yn Perth. Yn ystod yr ail wythnos, cyrhaeddodd y tymheredd 42 gradd canradd am 2 ddiwrnod o'r bron. Dydyn ni ddim wedi arfer â'r math hwn o wres a bues i'n dioddef o orludded gwres a gorfod treulio 2 ddiwrnod yn gorwedd ac yfed bob 30 munud ac yn teimlo'n sâl iawn. Doedd hynny ddim yn brofiad pleserus ond doedd dim ffordd na fyddai'r corff yn ymateb i'r fath newid enfawr mewn tymheredd. Yr unig fantais o fod yn sâl oedd i mi golli'r hanner stôn roeddwn ni wedi'i ennill yn ystod pythefnos o bartïon cyn gadael Prydain!

Gobeithio bod pawb yn iawn yn Llangynin a gaf i ddymuno `Pen blwydd Hapus' hwyr i Mam a Dad a hefyd 'Pen-blwydd Priodas Hapus' hwyr - 35 mlynedd o briodas, sut mae hi wedi ymdopi! ! Ta beth, gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael Pasg da ac wedi mwynhau darllen ein newyddion o ben arall y byd.

Bydda i'n gofyn i Wyn Wyau os bydd gwerthiant Y Cardi Bach wedi codi ac y bydd mwy o alw amdano pan anfona i'n newyddion y mis nesaf eto.

Pob Hwyl, Geraint.

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 2

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 3

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 4


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý