Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Disgyblion olaf i fynychu Ysgol henllan Amgoed yng nghwmni'r staff cyn i'r ysgol gau ddiwedd tymor Diwedd cyfnod
Gorffennaf 2004
Ysgol Henllan Amgoed (1835 - 2004) ac Ysgol Llanboidy (1863 - 2004) yn dathlu addysg yn yr ysgolion ar hyd y blynyddoedd, wrth i'r ddwy ysgol gau eu drysau am y tro olaf cyn gwyliau'r haf.
Ysgol Henllan Amgoed 1835 - 2004
Dathlu Addysg yn Henllan Amgoed
Dydd Sadwrn Gorffennaf l0fed cynhaliwyd prynhawn o ddathlu dros 160 o flynyddoedd o addysg yn Ysgol Henllan Amgoed. Mynychwyd yr achlysur gan dyrfa gref o gyn aelodau o staff a chyn ddisgyblion ynghyd â ffrindiau'r ysgol i fwynhau cyfle i gymdeithasu, cofio ac ymweld â'r adeilad.

Bu disgyblion presennol yn cymeryd rhan gyda'r babanod yn sôn am beth oeddent yn hoffi am yr ysgol a'r adran iau yn mynd yn ôl â ni i 1881 i gyfarfod â rhai o gymeriadau'r ardal megis David Phillips, Gosen ynghyd â John Samson- y "pupil teacher" - un a ddaeth yn brifathro ar yr ysgol yn ddiweddarach.

Paratowyd cacen y dathlu gan Wendy, un o gyn ddisgyblion yr ysgol ac fe'i torrwyd gan Lloyd Jackson, disgybl ifancaf yr ysgol a Mrs Eluned Thomas, un o'r cyn ddisgyblion hynaf. Yna cafwyd cyfle i gymdeithasu edrych ar y casgliad helaeth o hen luniau oedd yn dyddio o 1905 - 2004. Diwrnod i'w gofio yn wir!

Ysgol Llanboidy 1863 - 2004
Dathliad Ysgol Llanboidy

Disgyblion a Staff ar ddiwedd y tymor  ac oes Ysgol llanboidyBu Ysgol Llanboidy yn dathlu ei bodolaeth ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 3ydd. Cyn i bawb ymgynnull yn Neuadd y Farchnad, dadorchuddiwyd plac ar far yr ysgol newydd, sy'n dangos yr enw newydd, sef Ysgol Bro-Brynach.

Yn y Neuadd cafwyd rhaglen amrywiol o eitemau ac anerchiadau o dan arweinyddiaeth Mr. John Gibbin, fel a ganlyn:

Anerchiad a chroeso gan Mr. Ken Kendall (Cadeirydd y Llywodraethwyr). Sioe arbennig iawn gan blant yr ysgol, "Trechu Pob Twyll" a'r gynulleidfa wrth ei bodd. Hanes yr Ysgol gan Mrs. Norah Heseltine. Deuawd gan Gwenllian Young a Megan Bentley. Parti unsain a ddaeth yn 3ydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Grŵp Offerynnol disgyblion Blwyddyn 3. Cân yr Ysgol gan ddisgyblion hen a newydd. Araith gan Mr. Huw Watkins (ymgynghorydd Cynradd yr Awdurdod Addysg).Araith gan Brifathrawes yr ysgol, Mrs. Ceirios Jenner. Hefyd, darllenodd englyn o waith Wyn Owens, Mynachlogddu.

Yn ystod y dydd, torrwyd cacen y dathlu (o waith Marian Anthony) gan Mr. Killa Jones, un o gyn ddisgyblion Ysgol Llanboidy.

Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu a hel atgofion am y dyddiau fu dros gwpaned o de a danteithion. Diwrnod o dristwch a llawenydd, gyda'r gobeithion yn uchel wrth ddechrau pennod newydd yn yr ardal, yn Ysgol Bro Brynach.

Mwy am hanes y dathlu, atgofion a cherdd gan Alice Evans (Richards) am Ysgol Henllan Amgoed yn rhifyn mis Gorffennaf o'r Cardi Bach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý