Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Mike Phillips gydag Elizabeth a Dyfrig Davies Crefftwyr lleol yn helpu i wireddu'r freuddwyd
Mai 08
Wedi bron i ddwy flynedd o waith agorodd Clwb Hamdden Llety Cynin yn Sanclêr ei ddrysau am y tro cyntaf.

Cafodd Clwb Hamdden Llety Cynin ei lansio'n llwyddiannus pan ddaeth seren y Gweilch, Mike Phillips, i berfformio'r seremoni agoriadol ddydd Sadwrn, Mai 3ydd, o flaen cynulleidfa o gannoedd o ymwelwyr. Trefnwyd dau ddiwrnod agored gan y cIwb hamdden, sy'n sefyll ar safle Fferm Penycoed yn Sanclêr, dros benwythnos Calan Mai.

Y clwb hamdden yw'r cam cyntaf o ddatblygiad dau gam ac mae'n cynnwys pwll nofio dan do deugain troedfedd o hyd gyda gwrthlif, sba, sauna, campfa arloesol a lolfa goffi. Mae Cam 2 yn cynnwys cyfleusterau Ilety ar gyfer hyd at 24 o westeion a chanolfan gynhadledd, a bydd yn agor yn ddiweddarach ym mis Mai.

Tŷ coets sydd wedi'i drosi yn ddiweddar yw Llety Cynin ac mae'n rhan o brosiect arallgyfeirio ar gyfer y fferm laeth weithredol; ariannir y prosiect yn rhannol gan Grant Trosi Gwledig o Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae 300 o wartheg godro ar y fferm ac mae'r perchnogion, Elizabeth a Dyfrig Davies wedi bod yn rhan o deuluoedd ffermio erioed. Roedd rhieni Elizabeth yn dod o deuluoedd o ffermwyr a daethant i ffermio yn Sir Gaerfyrddin o Benrhyn Gŵyr yn y 1960au. Daeth teulu Dyfrig hefyd i ffermio yn yr ardal yn ystod y 1960au, yn Wernmackwith, Llanfihangel-ar-arth.

Cymerwyd 18 mis i gwblhau Llety Cynin a lle bo hynny'n bosib mae Elizabeth a Dyfrig wedi defnyddio crefftwyr a defnyddiau lleol i greu'r cyfadeiladau ac mae Elizabeth yn hael ei chanmoliaeth i bob un sydd wedi helpu. "Mae yna gymaint o bobl y mae'n rhaid i ni ddiolch iddyn nhw am wireddu ein breuddwyd,o'r cymorth i ariannu'r prosiect trwy Fanc y Nat West a'r Grant Trosi Gwledig hyd at yr holl grefftwyr lleol sydd wedi rhoi o'u hamser a'u sgiliau; rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw i gyd. 0 wranda ar yr holl sylwadau ffafriol dderbynion ni yn ystod y penwythnos agored, rydyn ni'n gwybod ei fod e wedi bod yn werth chweil."

Bydd Llety Cynin yn rhoi hwb mawr i'r economi leol a rhagwelir y bydd yn cyflogi 9 - 15 o staff yn ystod y flwyddyn gyntaf i wasanaethu'r clwb hamdden, y caffi a'r cyfleusterau lletya a chynadledda.

Yn ystod y penwythnos agored roedd croeso i rai oedd, o bosib, am ymaelodi i ddod i brofi'r cyfleusterau ac roedd Elizabeth a Dyfrig wrth eu bodd gyda'r ymateb, fel y dywedodd Elizabeth: "Roedd y penwythnos agored yn gyfle i rai oedd o bosib am ymaelodi ddod i weld y cyfleusterau ardderchog sydd gyda ni yma yn Llety Cynin. Roedd Mike Phillips yn ffantastig; roedd e'n hapus i roi ei lofnod a chael tynnu ei lun gyda'n gwesteion. Roedden at wrth ein bodd hefyd gyda sylwadau positif yr ymwelwyr ynglŷn â'r adeilad. Roedd yr hyn sydd gennym ni i'w gynnig wedi gwneud cymaint o argraff ar rai pobi nes iddyn nhw ymaelodi ar unwaith."

Mae ystod o opsiynau aelodaeth ar gael o hyd ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau corfforaethol ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn sydd gan Llety Cynin i'w gynnig i ddod i weld y cyfleusterau neu i ddod am goffi a byrbryd yn y clwb. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y cyfleusterau sydd ar gael yn y clwb hamdden, neu am y cyfleusterau Iletya neu gynadledda yn Llety Cynin, cysylltwch ag Elizabeth neu Dyfrig Davies ar 01994 231516.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý