Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Dave Petersen (Cadeirydd y Ganolfan), Shelagh Hourahane (Trefnydd yr Arddangosfa), Nick Ainger A.S, Jenny Randerson A.C, Maer San Clêr, Y Cyng. Jane Rees, Mr Tom Rees a'r Cyng. David Thomas, Trelech yn agoriad swyddogol Canolfan Grefft Gorllewin Cymru Prosiect cyffrous newydd
Hydref 2002
Mae hen adeilad cyfarwydd y Farmers Co-op yng nghanol pentref San Clêr wedi cael ei drawsnewid yn Ganolfan Grefftau fodern.
Cynhaliwyd y seremoni agoriadol swyddogol gan Jenny Randerson AC, ar nos Wener, Hydref 4, 2002.

Mae'r Ganolfan, sy'n cynnwys 12 o weithdai crefft, neuadd arddangos a bwyty, eisoes wedi denu nifer o grefftwyr ac arlunwyr lleol, ac yn eu plith mae Llinos Mair o gwmni Celtes.

Hyd yn ddiweddar, cynnig gwasanaeth dylunio ffrilans i gwmnïau dwyieithog yn Sir Gaerfyrddin oedd Llinos Mair, a hynny o'i chartref yn Llangynin.

Creu anrhegion Cymreig
Erbyn hyn mae ganddi gasgliad o anrhegion Cymreig yn seiliedig ar ferched chwedlonol Cymru. Mae'r anrhegion, sy'n cynnwys pot pourri, canhwyllau, cardiau, a dillad, yn rhoi cyfle i eraill ddysgu am y chwedlau ac am gymeriadau fel Arianrhod, Blodeuwedd a Rhiannon - merched arwrol, merched hudolus. merched prydferth.

Mae'n defnyddio dulliau traddodiadol i greu cefndir pob llun. Wedi i hwnnw gael ei sganio mae'r cymeriad yn cael ei ychwanegu yn ddigidol.

Fe wnaeth arddull drawiadol Llinos Mair ddal sylw Mairwen Prys-Jones, Cyfarwyddwr Cyhoeddi, Gwasg Gomer, ac o ganlyniad cyhoeddwyd Celtic Heroines, llyfr sy'n cynnwys deg o ddarluniau Celtes.


Llinos Mair a'i chwaer Jennifer ar stondin Celtes yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Tyddewi
Llinos Mair a'i chwaer Jennifer ar stondin Celtes yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Tyddewi
Eleni, am y tro cyntaf erioed, roedd gan Celtes stondin ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.

Bu'n wythnos brysur ac yn un llwyddiannus iawn i'r cwmni. Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr nifer fawr o gwmnïau Cymreig.

"Mae cwmni fel Celtes yn dibynnu ar siaradwyr Cymraeg i brynu ei nwyddau, felly mae'r 'Steddfod yn fan delfrydol i hyrwyddo'r fusnes a hefyd i werthu," meddai Llinos Mair.

Ffair Nadolig
Os na chawsoch chi gyfle i brofi hud a rhamant y casgliad yn ystod wythnos yr Eisteddfod, beth am alw draw i Neuadd Arddangos Canolfan Grefftau San Clêr rhwng Tachwedd 18fed a Rhagfyr 6ed pan fydd Celtes yn cynnal ei Ffair Nadolig.

Bydd modd siopa rhwng 10.30 a 4.30 o ddydd Mawrth i ddydd Sul. Gyda'r hwyr bydd arddangosiadau amrywiol, megis addurno cacennau a gwneud addurniadau Nadolig yn cael eu trefnu. Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau yn un o gystadlaethau Celtes.

Bydd croeso twymgalon yn eich disgwyl ym mwyty Talents lle mae dewis eang o brydau ysgafn ar y fwydlen, ac mae'r cyfan yn cael eu paratoi gan ddefnyddio'r cynnyrch lleol gorau.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý