Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Gwennie Cheerio i Cheerio Stores
Ebrill 2009
Mae'r unig siop ym mhentref Llangynin wedi cau am y tro olaf, ac mae Gwennie Rees wedi gorfod ymddeol.

Mae unig siop pentref Llangynin wedi cau ei drws am y tro olaf.

Wedi 44 mlynedd o wasanaeth, tristwch i Gwennie Rees yw gorfod ymddeol a chau Cheerio Stores, siop sydd wedi bod yn adnabyddus yn yr ardal ac yn ganolbwynt y pentref ers blynyddoedd lawer.

Daeth diwedd cyfnod hir yn hanes un teulu lleol wrth i ddrysau Cheerio Stores gau am y tro diwethaf ar Fawrth 30ain.

Mae teulu Gwennie Rees wedi bod yn gwasanaethau trigolion yr ardal am dros bedwar ugain mlynedd - ac wedi bod yn dystion i newidiadau mawr yn y ffordd o fyw.

Ymgartrefodd Ben ac Esther Anne Rees yn Cheerio Stores yn dilyn eu priodas ym 1926.

Yn ogystal â chadw fferm fechan, byddai Esther Anne yn gweithio yn y siop, a Ben yn dosbarthu nwyddau o amgylch y ffermydd ar ei gart a cheffyl.

Bryd hynny, roedd y siop yn gwerthu tipyn o bopeth, gan gynnwys nwyddau fferm.

Ym 1947, agorodd swyddfa bost ac erbyn hynny, roedd Mary Annie, merch hynaf Ben ac Esther Anne yn helpu ei rhieni gyda'r gwaith.

Wedi i Gwennie adael yr ysgol, ymunodd hithau â gweddill y teulu i gydweithio'n galed i gynnal y busnes.

Bu blynyddoedd yr ail ryfel byd yn rhai prysur dros ben ac roedd y siop yn hynod o boblogaidd ymysg plant yr ysgol gynradd a fyddai wrth eu bodd yn croesi'r stryd i wario'u ceiniogau prin ar Spanish, y licris du, a phob math o losin blasus.

Priododd Mary Annie â Tom Adams ym 1957 ac ymgartrefu ar fferm Plasydderwen.

Ym 1965 y trosglwyddwyd awennau'r siop a'r post i Gwennie.

Wedi marwolaeth ei mam ym 1967, bu Gwennie am dair blynedd yn gofalu am ei thad, yn rhedeg y post a'r siop, ac yn crwydro'r wlad mewn fan fechan yn dosbarthu nwyddau i'r ffermwyr lleol.

Wedi'r newidiadau yn y system talu pensiynau, nid oedd cymaint yn defnyddio'r Swyddfa Bost ac fe gaewyd honno yn 2003.

Daeth pennod arall i ben yn hanes pentref a phlwyf Llangynin wrth i'r siop gau.

Bu'r siop a'r post yn galon y gymuned, yn fan cyfarfod a'r lle i fynd am gwmnïaeth a chlonc.

Bydd colled fawr ar ei hôl.

Mae Gwennie yn diolch i bob un sydd wedi bod yn gwsmer rheolaidd ac wedi'i chefnogi dros y blynyddoedd.

"Dw i wedi mwynhau'r gwmnïaeth a'r sgyrsiau difyr gyda'r cwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd. Mae'r cwsmeriaid wedi bod yn ffyddlon iawn i mi. Fe fydda i'n gweld eisiau'r ffrindiau da sydd wedi bod yn galw yn y siop dros y blynyddoedd - gobeithio'n fawr y byddan nhw'n dal i alw heibio, er nad oes dim siop yma bellach."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý