Fe gurodd ddegau o bobl eraill i ddod yn gyflwynydd teledu yn Eisteddfod Casnewydd 2004. Roedd Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi bod yn chwilio led led Cymru am gyflwynwyr addawol i'w datblygu, a daeth Owain ynghyd â thri arall i'r brig gan ennill y cyfle i gyflwyno ar raglenni Â鶹ԼÅÄ Cymru o'r 'Steddfod, ochr yn ochr â chyflwynwyr sefydledig fel Huw Llywelyn Davies a Lisa Gwilym. "Roedd yn grêt", meddai'r crwt byrlymus, a roddodd ei enw ymlaen ar gyfer cystadleuaeth Talent Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Eisteddfod yr Urdd, am nad oedd ganddo 'ddim gwell i'w wneud'. Roedd rhaid iddo gyflawni gwahanol bethau, gan gynnwys cyfweld Dafydd Du a rhoi tro ar gyflwyno, cyn cael ei ddewis i gyflwyno o'r Eisteddfod Genedlaethol. "Mi wnes i gyflwyno eitem ar yr holl wyliau a digwyddiadau sydd ar ôl yr haf yma a cheisio cael pobol i fynd draw iddyn nhw". O'i holi am ei ddiddordebau, mae'n dod yn amlwg bod Owain yn ddifrifol a brwdfrydig am ei ddiddordeb yn y cyfryngau. "Fi wedi bod yn gweithio i Gwmni Telesgop ers tua dwy flynedd, i gael profiad, a roeddwn i'n gweithio yn y Sioe Frenhinol fel rhedwr ac yn ceisio cael gymaint o 'dips' ag y gallwn i, gan bobol fel Amanda Protheroe-Thomas a Nia Ceidiog. "Roedd y cyfle roddodd Talent Â鶹ԼÅÄ Cymru i fi, yn gyfle hollol grêt i fynd o flaen y camera, sy'n gweddu'n well i fi achos sai'n gallu stopio siarad. Dyna pam mae'n well 'da fi o flaen y camera. "Mae'r profiad wedi dysgu llawer i fi am bethau fel y derminoleg sy'n cael ei defnyddio, a llwyth o bethau technegol". Ond er ei frwdfrydedd, ac yn awr ei brofiad, fe fydd Owain (adawodd Ysgol Bro Myrddin yr haf hwn) yn cymryd hoe o'r cyfryngau am ychydig, i wneud gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Warwick. Ond wedi iddo raddio, pwy a ŵyr ... Cyfreithiwr y cyfryngau ?
|