Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Eleri Mai Thomas Byd yr Ifan-c
Mawrth 2003
Anturiaethau Vincent y Fan Goch

Erbyn hyn mae Eleri Mai Thomas wedi gadael Portiwgal a Sbaen ac wedi cyrraedd Ffrainc. Dyma lythyr arall oddi wrthi, y tro hwn o wlad y coesau brogaid a'r malwod.

Prosiect Saesneg Grados
Holes! Na, sori, erbyn hyn Bonjour! i drigolion Llangynin a darllenwyr Y Cardi Bach.

Felly, ar ôl dathlu'r flwyddyn newydd ym Madrid, rhaid oedd bwrw draw i Bortiwgal gan fy mod mor agos, a threulio pythefnos yno yn ymweld â Lisbon a'r trefi bychain o gwmpas y brifddinas. Yna, pan es i ar y we rhyw ddydd:
"Speak English all day and get 10 nights accommodation and three meals a day FREE!"

Nawr, fel arfer fyddai'r syniad o siarad Saesneg drwy'r dydd ddim yn apelio ata i, ond pan ych chi'n deithwraig dlawd fel fi mae'r gair "FREE!" yn codi whant arnoch chi i ymchwilio ymhellach. Felly rhwng yr l7eg a'r 26ain o Ionawr treuliais i ddeng niwrnod yn y Gwesty Puerto Del Gredos yn Barco de Avila (tua dwy awr o'r gorllewin o Fadrid) yn siarad Saesneg o fore gwyn tan nos!!! Prosiect neu gwrs oedd hwn wedi'i greu gan Vaughan Systems, un o'r cwmnïau mwyaf sy'n darparu athrawon i ddysgu Saesneg i bobl fusnes Sbaen. Mae ganddyn nhw dros 20 o athrawon yn dysgu Saesneg dros Sbaen benbaladr, a dim ond rhan fechan o'u gwaith oedd y cwrs hwn. Dyma drydedd ddydd y cwrs, ac roeddwn i'n aelod o Dream Team 19".

Roedd rhaid i'r Sbaenwyr ar y cwrs gyrraedd rhyw lefel arbennig yn yr Saesneg cyn dod ar y cwrs, a'r bwriad iddynt gael 10 niwrnod i ymarfer a gwella eu sgiliau cyfathrebu yn yr iaith. Doedd ganddyn nhw ddim hawl i siarad gair o Sbaeneg am y 10 niwrnod. A dyna ble roedd pobl fel fi yn dod i mewn i'r prosiect roedd rhaid i'r trueiniaid gyfathrebu â phobl fel fi am 10 niwrnod!!

Roedd tua 20 o Sbaenwyr a 20 o Anglos (dyma derm y cwmni amdanom ni oedd yn siarad Saesneg). Roeddwn i wedi rhagweld y byddai pob un o'r Anglos yn dod o Brydain, ond roedd hanner y grwp yn Americanwyr a dwy ferch o Awstralia. Roedd dynion a merched yno, a thrawsdoriad eang o ran cefndir, oed a bywoliaeth nifer o athrawon Saesneg, athrawes ymarfer corff, cyfieithwyr a chyfreithwyr. Roedd nifer o deithwyr ar y prosiect hefyd, fel fi, yn manteisio ar y cyfle i ymlacio mewn gwesty pedair seren a chael blasu bwyd a diwylliant Sbaen. Dwy ar hugain oed oedd yr ienga, ac un o America oedd yr hyna yn 72 oed!!

Roedd lleisiau'r Americanwyr wedi mynd ar fy nerfau o'r eilid gyntaf, a do'n i ddim yn siwr a allwn i ymdopi gyda'u sgrechfeydd am 10 niwrnod:
"We haven't met yet. I'm Kathleen from Hawaii, sorry but um.... How do you say your name?"
"It's Eleri, E L E R I. "
"Oh, how unusual Elliriy. "
"No, it's ELERI. It's a Welsh name." "OK Ellirry. "

Ond dw i wedi hen arfer â'r broblem hon - fel arfer dwi i'n cael fy ngalw'n Cellery, Mary neu Hilary!

Dechreuai'r diwrnod am 9 gyda brecwast. Y syniad oedd i ni eistedd gyda gwahanol bobl ar gyfer pob pryd o fwyd - dau Sbaenwr a dau Anglo i bob bwrdd. Rhwng 10 a 2 roedden ni ar system rota, yn sgwrsio am awr gyda phartner ac yna newid. Cinio o 2 tan 3.30, amser rhydd o 3.30 tan 5, yna rhagor o sgwrsio o 5 tan 8, ac yna o 8 tan 9 ro'n ni'n cael cyfle i wylio perfformiadau neu cyflwyniadau gan aelodau o'r grwp. Swper rhwng 9 a 10.30, yna amser rhydd, ond fel arfer bydden ni'n cymdeithasu yn y bar!

Ymysg yr holl sgwrsio fe gawson ni nifer o weithgareddau eraill hefyd, i gadw pawb yn hapus. Cafwyd noson o yfed Kimera (sa i'n gwybod y sillafiad cywir), sef traddodiad sy'n tarddu o ardal Galicia yng ngogledd Sbaen. Cyn i bawb gymryd diferyn o'r diod roedd rhaid mynd drwy ryw fath o seremoni a oedd yn fy atgoffa i o hen wrachod yn gwneud hud a lledrith.

Trefnwyd noson paella a flamenco a ches i gyfle i ddysgu'r flamenco ar marenga (?) - tipyn bach yn wahanol i'r hyn dw i wedi arfer ei ddysgu i'r Bois Bach! A hefyd taith i'r dref nesaf saf Avila, ond lle gwrando ar ein tour guide swyddogol, fe berswadiodd tri o'r Sbaenwyr fi i fynd gyda nhw ar Daith Tapas o gwmpas y dref. Felly yn lle gwrando ar hanes y dref, fe ges i fy nhaith bersonol o gwmpas bwytai Avila, yn blasu gwahanol Tapas.

Yn ogystal â dysgu am ddiwylliant Sbaen, fe wnes i fy ngorau i'w dysgu nhw am Gymru fach. Esboniais iddyn nhw fod y prosiect hwn yn eitha anodd i mi hefyd gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf wrth gwrs, a mod i heb siarad Saesneg ers wn i ddim pryd:
"What- you have your own language in Wales?"
"You speak what - Welsh? "

Sa i'n gwybod faint o weithiau ddwedais i Llanfairpwllgwyngyll........

Roedd y Sbaenwyr i gyd yn fy edmygu am deithio o gwmpas Ewrop yn Vincent, ac yn methu credu faint o Sbaen roeddwn i wedi'i weld dros y misoedd diwethaf, ac yn genfigennus iawn o'm taith.

Er yr amheuon oedd gen i ar ddechrau'r prosiect, mwynheais i'r profiad ma's draw ac roedd hi'n drist iawn ffarwelio â phawb ar y diwrnod olaf. Yn sicr byddaf yn cadw mewn cysylltiad â'm ffrindiau newydd o Gredos.

A nawr dw i nôl yn Vincent ac wedi cyrraedd Ffrainc, a'r eira!!! Roedd hi'n od iawn ffarwelio â Sbaen, ei bobl a'i diwylliant ar ôl treulio tri mis yn teithio'r wlad. Felly Adios Sbaen a Bonjour Ffrainc!

Tan y tro nesaf, pan gewch chi fy hanes yn teithio drwy Ffrainc, y Swisdir, De'r Almaen ac Awstria (os gyrhaedda i rywle i sgwennu drwy'r holl eira ma!) Pob hwyl i drigolion Llangynin a darllenwyr y Cardi Bach!
Cariad
Eleri. Xxx


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý