Â鶹ԼÅÄ

Defnyddiau meddygol i wrthgyrff monoclonaidd - Haen uwch yn unig

Imiwno-adnabod

Mae proses imiwno-adnabod yn defnyddio gwrthgyrff monoclonaidd i ganfod heintiau fel , malaria a chlamydia. Gall hyn ei gwneud yn llawer haws adnabod clefyd.

Mae gwrthgyrff monoclonaidd wedi’u creu ar gyfer antigenau a geir ar:

  • y bacteria Chlamydia trachomatis, sef achos y clefyd chlamydia
  • y Firws Diffyg Imiwnedd Dynol (HIV), sef achos AIDS
  • Plasmodium spp, y protist sy’n achosi malaria

Cafodd gwrthgyrff monoclonaidd eu clymu wrth lifynnau a fydd yn disgleirio’n dan olau uwchfioled neu pan ddefnyddir labeli ymbelydrol. O’u hychwanegu at hylifau’r corff a heintiwyd, bydd y gwrthgyrff monoclonaidd yn glynu wrth yr antigenau ac yn bwndelu ynghyd. O edrych arnynt dan olau uwchfioled neu gyda label ymbelydrol, bydd nid yn unig yn dangos a oes haint yn bresennol, ond hefyd faint yr heintiad ar sail maint y fflwroleuedd neu’r labelu ymbelydrol.

Pennu math meinwe

Os bydd angen trawsblaniad organ ar rywun, rhaid aros nes ceir cyfatebiad addas. Ystyr cyfatebiad addas yw bod math y feinwe’n cydweddu â meinwe organ y rhoddwr.

  • Pennir math y feinwe i benderfynu i ba raddau y bydd system imiwnedd derbynnydd organ a roddwyd yn adweithio yn erbyn antigenau’r organ a roddwyd. Gallai cyfatebiad gwael olygu gwrthod organ a roddwyd.
  • Datblygwyd gwrthgyrff monoclonaidd sy’n gallu sicrhau na wrthodir organ. Maent yn cyfuno â ac yn eu llonyddu. Heb weithgarwch y rhain wnaiff y lymffocytau sy’n cynhyrchu gwrthgyrff yn erbyn yr organ a drawsblannwyd ddim gweithio.

Monitro malaria

Gellir defnyddio proses imiwno-adnabod i ganfod presenoldeb antigenau malaria yn y gwaed, fel P. vivax a P. falciparum. Cymerir samplau gwaed o lawer o bobl a phrofi eu gwaed â gwrthgyrff monoclonaidd. Bydd y gwrthgyrff a labelwyd yn canfod Plasmodium byw neu farw yn y llif gwaed. Gall hyn ddangos effeithiolrwydd cyffuriau gwrth-falaria. Er enghraifft, os yw gwaed rhywun yn cynnwys yr antigen Plasmodium ond nad yw’r person hwnnw’n dioddef symptomau malaria, yna mae’r cyffuriau’n gweithio.