Â鶹ԼÅÄ

Celloedd, systemau organau ac ecosystemau

  • Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni

    Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.

  • Y system resbiradol mewn bodau dynol

    Adwaith cemegol sy’n rhyddhau egni o fwyd yw resbiradaeth. Mae’r system resbiradol yn cyfnewid y nwyon sy’n cymryd rhan yn adwaith resbiradaeth.

  • Y system dreulio mewn bodau dynol

    Dylid bwyta deiet cytbwys sy’n addas i’n hoedran a’n ffordd o fyw. Gall bwyta gormod arwain at ordewdra. Rhaid treulio maetholion cyn y gallwn eu hamsugno a’u defnyddio.

  • Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynol

    Mae’n hanfodol i iechyd bod y system cylchrediad yn gweithio’n iawn. Mae gwaed yn cludo sylweddau o gwmpas y corff ac yn cael gwared ar wastraff gwenwynig. Mae hefyd yn amddiffyn rhag clefydau.

  • Adeiledd planhigion

    Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.

  • Ffotosynthesis

    Cyflawna blanhigion ffotosynthesis i wneud bwyd o’r defnyddiau crai o’u hamgylchedd. Ymchwiliwn yr amodau sydd eu hangen ar gyfer y broses hon a’r ffactorau sy’n effeithio ar ei chyfradd.

  • Ecosystemau – trosglwyddo egni

    Mae cadwynau bwyd a gweoedd bwyd yn dangos sut mae egni'n cael ei drosglwyddo rhwng organebau. Gallwn ni gynrychioli gwe fwyd fel pyramid rhifau neu fel pyramid biomas.

  • Ecosystemau – llygredd a chylchredau maetholion

    Mae llygredd yn gallu cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Gall bodau dynol gyflwyno cemegion i'r amgylchedd drwy cadwynau bwyd, gan achosi problemau fel biogynyddiad ac ewtroffigedd.

Amrywiad, homeostasis a micro-organebau

  • Dosbarthiad a bioamrywiaeth

    Bioamrywiaeth yw cyfanswm nifer ac amrywiaeth o rywogaethau mewn ardal benodol. Gellir ei hastudio trwy ddefnyddio technegau samplu, a gall organebau gael eu dosbarthu yn ôl nodweddion morffolegol.

  • Cellraniad a chelloedd bonyn

    Mae celloedd yn rhannu trwy fitosis er mwyn tyfu ac atgyweirio. Maen nhw'n rhannu drwy feiosis i greu gametau ar gyfer atgenhedlu rhywiol. Mae celloedd bonyn yn gwahaniaethu’n gelloedd arbenigol.

  • DNA ac etifeddiad

    Beth yw DNA a sut mae strwythur y moleciwl etifeddol hwn yn gyfrifol am ei swyddogaeth? Mae gwyddonwyr yn defnyddio’u gwybodaeth am DNA i greu a defnyddio proffiliau genynnol.

  • Amrywiad

    Amrywiad yw’r gwahaniaethau sydd i’w gweld o fewn yr un rhywogaeth. Gall gael ei achosi gan atgenhedlu rhywiol neu gan ddylanwadau amgylcheddol.

  • Mwtaniad

    Sut all genynnau newid? Achosir mwtaniadau gan sawl ffactor, a gallant achosi anhwylderau genetig. Sut all therapi genynnau helpu i drin yr anhwylderau hyn?

  • Esblygiad

    Esblygiad trwy ddetholiad naturiol oedd y ddamcaniaeth a gynigiwyd gan Darwin a Wallace. Pa dystiolaeth sydd yna yn y byd heddiw i awgrymu bod rhywogaethau’n esblygu trwy’r dull hwn?

  • Y system nerfol

    Mae ein system nerfol yn ein galluogi ni i ganfod newidiadau i’r amgylchedd ac ymateb iddynt. Mae organau synhwyro yn canfod newidiadau ac mae'r brif system nerfol yn cyd-drefnu'r ymateb.

  • Â鶹ԼÅÄostasis

    Mae angen cadw’r amodau y tu mewn i’n corff yn gyson, ee mae lefel y siwgr yn y gwaed a’r tymheredd yn cael eu rheoleiddio’n ofalus. Mae ffordd o fyw yn gallu effeithio ar yr homeostasis hwn.

  • Swyddogaeth yr aren mewn homeostasis

    Mae’r arennau’n rheoli crynodiad y dŵr yn ein gwaed ac yn gweithio i ysgarthu gwastraff gwenwynig. Pan nad ydynt yn gweithio’n iawn, mae angen triniaeth dialysis neu drawsblaniad.

  • Micro-organebau a'u cymwysiadau

    Mae angen defnyddio technegau penodol i drafod micro-organebau’n ddiogel. Wrth dyfu ac astudio micro-organebau cawn wybodaeth hanfodol am eu twf cyflym a’u defnyddiau posibl.

  • Clefyd, amddiffyniad a thriniaeth

    Achosir clefydau trosglwyddadwy trwy ymlediad micro-organebau. Sut maen nhw’n ymledu, a pha ddatblygiadau a ddaw yn y dyfodol o astudio’r system imiwnedd a thriniaeth clefydau?

Sgiliau ymarferol

  • Casglu, dadansoddi a gwerthuso canlyniadau

    Dan y manylebau TGAU newydd yng Nghymru, bydd gwaith ymarferol Gwyddoniaeth nawr yn cael ei arholi. Bydd yr uned hon yw cynorthwyo disgyblion i baratoi am yr arholiad ymarferol.

Links