Â鶹ԼÅÄ

Gwrthfiotigau a gwrthsefyll gwrthfiotigau

Mae gwahanol fathau o feddyginiaeth ar gael i drin llawer o wahanol . Dim ond trin y symptomau a wna rhai meddyginiaethau, tra bydd eraill yn gwella’r clefyd drwy ladd y .

Gwrthfiotigau

Sylweddau yw gwrthfiotigau sy’n arafu neu’n atal twf . Maent yn foddion a gaiff eu rhagnodi’n gyffredin, ac mae enghreifftiau’n cynnwys penisilin ac amocsisilin. Gellir cymryd y rhain i wella’r clefyd drwy ladd y pathogen ond dim ond yn erbyn clefydau bacteriol, nid rhai firol, y maen nhw’n effeithiol.

Penisilin

Gwrthfiotig yw penisilin a ddarganfuwyd gan Syr Alexander Fleming yn 1928. Sylwodd fod bacteria yr oedd wedi’u gadael mewn wedi cael eu lladd gan y Penicillium oedd yn digwydd yn naturiol.

Penisilin trwy ficrosgop.
Image caption,
Penisilin yn difrodi cell facteriol

Sut mae gwrthfiotigau’n gweithio?

Mae gwrthfiotigau’n niweidio’r celloedd bacteriol heb niweidio’r celloedd lletyol. Mae ganddynt y gallu i wella rhai clefydau bacteriol a fuasai gynt wedi lladd llaweroedd o bobl. Ers eu cyflwyno, maent wedi chwarae rhan fawr yn gwella iechyd a lleihau cyfraddau marwolaeth dros y byd i gyd.

Mae gwahanol facteria yn achosi gwahanol glefydau. Hwyrach mai dim ond yn erbyn un neu ddau fath o facteria y bydd un gwrthfiotig penodol yn gweithio. Felly mae angen amrediad o wahanol wrthfiotigau i drin nifer o glefydau bacteriol.

Clefydau firol

Does dim modd gwella clefydau firol â gwrthfiotigau, oherwydd maen nhw’n atgenhedlu y tu mewn i’r celloedd lletyol.

Gwrthsefyll gwrthfiotigau

Ers darganfod penisilin yn 1928, cynyddu fwyfwy wnaeth y defnydd o wrthfiotigau i drin clefydau. O ganlyniad, gorddefnyddir gwrthfiotigau mewn amryw o ffyrdd yn ein byd ni heddiw.

Problemau gyda gwrthfiotigau

Mae gwrthfiotigau a ragnodir yn gyffredin yn mynd yn llai effeithiol am nifer o resymau:

  • gorddefnyddio gwrthfiotigau
  • peidio cwblhau’r cwrs llawn a ragnodwyd gan feddyg
  • defnyddio gwrthfiotigau wrth ffermio

Gall y rhain arwain at leihad yn effeithiolrwydd gwrthfiotigau, a chynnydd yn yr achosion o . Gelwir y bacteria hyn yn gyffredin yn arch-fygiau/superbugs.

Un o’r arch-fygiau hyn yw Staphylococcus aureus sy’n gwrthsefyll methisilin (MRSA). Mae’n bwysig sefydlu mesurau rheoli i atal lledaeniad y clefyd hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • golchi dwylo
  • glanhau wardiau ysbyty’n drwyadl
  • defnyddio geliau alcohol
  • sgrinio am MRSA