Â鶹ԼÅÄ

Darganfod cyffuriau newydd

Mae newydd yn cael eu datblygu o hyd. Yn hanesyddol, deuai cyffuriau o ffynonellau naturiol gan echdynnu rhannau o blanhigion a micro-organebau.

Echdynnu o blanhigion

Mae rhai cyffuriau y gellir eu hechdynnu o ffynonellau naturiol yn hysbys ers amser maith. Er enghraifft, defnyddid rhisgl helyg gan yr hen Roegiaid i helpu gwella twymyn a phoenau. Canfuwyd yn ddiweddarach mai asid salisylig oedd y cynhwysyn gweithredol. Addaswyd hwn gan gemegwyr i’r sylwedd a alwn ni yn asbirin, sy’n llai llidus i’r stumog nag asid salisylig.

Digitalis purpurea (planhigion bysedd y cŵn).
Image caption,
Enghraifft arall yw digitalis, a echdynnir o blanhigyn bysedd y cŵn ac a ddefnyddir i drin cyflyrau ar y galon

Mae planhigion yn dal yn bwysig heddiw, ond caiff y rhan fwyaf o gyffuriau planhigion eu creu bellach mewn labordy gan wyddonwyr mewn cwmnïau . Erbyn hyn mae gan y cwmnïau hyn fersiynau o’r echdyniadau o blanhigion, a defnyddiant y rhain fel y man cychwyn i ddatblygu cyffuriau newydd.

Mae’n rhaid profi cyffuriau meddygol newydd i sicrhau eu bod yn gweithio, a’u bod yn ddiogel, cyn y gellir eu rhagnodi.

Camau profi cyffuriau

Camau cyn-glinigol a chlinigol yw prif gamau profi cyffuriau.

Profion cyn-glinigol

Profir y cyffuriau gan ddefnyddio modelau cyfrifiadur a chelloedd dynol wedi’u tyfu mewn labordy. Bydd llawer o sylweddau’n methu’r prawf hwn am eu bod yn niweidio celloedd neu ddim yn gweithio.

Caiff cyffuriau sy’n pasio’r cam cyntaf eu profi ar anifeiliaid. Ym Mhrydain, mae’n rhaid i feddyginiaethau newydd fynd drwy’r profion hyn. Ond mae’n anghyfreithlon profi cynhyrchion cosmetig a thybaco ar anifeiliaid. Mewn prawf nodweddiadol, rhoir swm penodol o’r sylwedd i’r anifeiliaid, a’u monitro’n ofalus wedyn am unrhyw sgil-effeithiau.

Profion clinigol

Caiff cyffuriau sydd wedi pasio profion ar anifeiliaid eu defnyddio mewn treialon clinigol. Cânt eu profi ar wirfoddolwyr iach i sicrhau eu bod yn ddiogel. Os ydynt yn ddiogel, caiff y sylweddau eu profi wedyn ar bobl sy’n dioddef o’r salwch i sicrhau eu bod yn gweithio.

Yn ystod profion clinigol mae angen penderfynu a yw’r cyffur yn fwy effeithiol na’r triniaethau cyfredol. Gall hyn olygu gofyn i’r claf a yw’n teimlo’n well ai peidio. I osgoi tuedd defnyddir sawl strategaeth.

  • Plasebo/Cymharu – Yn aml mewn treialon clinigol rhoddir y cyffur sy’n cael ei brofi i un grŵp o bobl, a phlasebo i grŵp cymharu. Tabled sydd heb gynnwys y cynhwysyn gweithredol yw plasebo, ac felly ni ddylai gael unrhyw effaith o gwbl ar y claf.
  • Profion dall – Ni ddywedir wrth y cleifion ai yn y grŵp prawf ynteu’r grŵp plasebo/cymharu y maen nhw.
  • Profion dall dwbl – Nid yw’r claf na’r meddyg sy’n rhoi’r cyffur yn gwybod ai’r cyffur ynteu’r plasebo sy’n cael ei roi, mewn ymgais i ddileu tuedd yn gyfan gwbl.