鶹Լ

Gwrthgyrff monoclonaidd – Haen uwch yn unig

Cynhyrchu gwrthgyrff monoclonaidd

Ystyr ‘mono’ yw un ac ystyr ‘clôn’ yw copi unfath. Felly, mae gwrthgyrff monoclonaidd yn gopïau unfath o un math o wrthgorff.

Proteinau a gynhyrchir gan fath o gelloedd gwyn y gwaed a elwir yn yw . Mae gan broteinau ar eu harwyneb a elwir yn . Pan fydd pathogen yn heintio’r corff, mae’r lymffocytau’n adnabod yr antigenau hyn fel rhai estron ac yn ymosod arnynt drwy gynhyrchu gwrthgyrff.

Mae gwrthgyrff yn glynu wrth antigenau penodol ar bathogenau, hynny yw, dim ond un math o wrthgorff wnaiff lynu wrth antigen cyfatebol. Darganfu gwyddonwyr y gallent wneud gwrthgyrff i lynu wrth antigenau ar sylweddau eraill, ac nid y rhai sydd ar bathogenau’n unig. Unwaith y maent wedi glynu, caiff yr antigenau – a’r sylweddau y ceir nhw arnynt – eu huno’n dynn â’i gilydd. Mae hyn yn eu gwneud yn haws eu canfod a’u trin.

Ffurfio gwrthgyrff monoclonaidd

  1. Chwistrellir brechiad sy’n cynnwys antigen i lygoden.
  2. Mae’r llygoden yn cynhyrchu lymffocytau'n naturiol, sy’n cynhyrchu gwrthgyrff penodol i’r antigen.
  3. Tynnir celloedd y ddueg sy’n cynhyrchu’r lymffocytau yn ystod llawdriniaeth fach.
  4. Caiff celloedd y ddueg eu huno â chelloedd gwyn canseraidd y gwaed sef i ffurfio sy’n rhannu’n ddiderfyn.
  5. Mae’r celloedd hybridoma hyn yn rhannu ac yn cynhyrchu miliynau o wrthgyrff monoclonaidd penodol i’r antigen gwreiddiol.
Diagram yn dangos sut mae gwrthgyrff yn cael eu cymryd o lygod i greu celloedd hybridoma
Figure caption,
Gwrthgyrff monoclonaidd yn cael eu ffurfio

Defnyddiau i wrthgyrff monoclonaidd

Diagnosis a thriniaeth canser

Mae gan rai mathau o gelloedd antigenau penodol ar eu harwyneb, sef . Gellir cynhyrchu gwrthgyrff monoclonaidd i lynu’n benodol at yr antigenau hyn. Wrth gael eu chwistrellu i mewn i gorff rhywun, bydd y gwrthgyrff monoclonaidd yn glynu at y celloedd canser hyn ac yn eu bwndelu gyda’i gilydd. Mae hyn yn ei gwneud yn haws canfod canseraidd, a all gael ei drin neu ei dynnu wedyn. Os cysylltir y rhain â chyffuriau gwrth-ganser, fe wnânt gyfeirio’r cyffur yn uniongyrchol i’r celloedd canser.

Gall gwrthgyrff monoclonaidd drin canser drwy:

  • gario cyffuriau sydd wedi’u clymu arnynt i’r tiwmor
  • annog dy i ymosod ar y celloedd canser yn uniongyrchol