Twf bacteria
Gall bacteriaMicro-organebau ungellog, gyda rhai yn bathogenaidd mewn pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Bacteriwm yw’r unigol. ddyblygu bob 20 munud yn fras drwy ymholltiad deuaiddBacteria yn atgenhedlu’n anrhywiol drwy gopïo eu DNA a’i rannu’n ddau., sy’n ffurf syml o cellraniadY broses o ddyblygu celloedd.. Bydd y lefel dyblygu hwn yn dibynnu ar argaeledd maetholion ac amodau addas eraill, fel tymheredd.
Mae sawl ffordd i dyfu, neu meithrinCael eu tyfu yn fwriadol gan fodau dynol., bacteria, ee:
- hydoddiant cawl maetholion
- cytrefClwstwr o facteria gweladwy. Cymerwn fod un gytref wedi deillio o un bacteria. ar blât agar
Mae hydoddiant cawl maetholion, neu gyfrwng meithrin, yn caniatáu i hylif neu gel ddarparu’r holl faetholion sydd eu hangen er mwyn i facteria dyfu’n llwyddiannus. Rhaid i’r rhain gynnwys carbohydradau er mwyn ynni, nitrogen er mwyn synthesis proteinCynhyrchu proteinau o asidau amino, sy’n digwydd yn ribosomau’r gell., a mwynau eraill.
°ä°ùë¾±°ù platiau agarDysgl petri sy’n cynnwys gel agar a rhywfaint o faethynnau fel arfer. Defnyddir platiau agar i feithrin (tyfu) bacteria a ffyngau yn y labordy. trwy dywallt agar tawdd poeth i dysgl PetriDysgl wydr neu blastig clir sy’n cael ei defnyddio i dyfu celloedd byw o organebau er mwyn gallu eu hastudio. di-haint, a’i adael i galedu. Gellir taenu bacteria ar y platiau, a chaniatáu iddynt ffurfio cytrefi unigol o’r bacteriwm penodol.
Meithriniadau heb eu halogi
Os am feithrin bacteriwm penodol, byddai bacteria halogedig yn cystadlu am faetholion yn y cawl neu’r agar. Gallai rhai bacteria fod yn niweidiol hefyd, fel pathogenMicro-organeb sy’n achosi clefyd., a byddent yn cymhlethu canlyniadau arbrofion i brofi effeithlonrwydd gwrthfiotigau neu gyfansoddion gwrth-ficrobaidd eraill.
Felly mae’n bwysig diheintio unrhyw ddysgl Petri neu agar cyn eu defnyddio, a defnyddio technegau aseptig i wrth-heintio’r platiau.
Defnyddio technegau aseptig i osgoi halogiad
Gellir defnyddio dolen frechu i drosglwyddo bacteria. Caiff ei diheintio trwy ei gwresogi’n boethgoch mewn fflam Bunsen, cyn ac wedi ei defnyddio.
I wrth-heintio’r agar, coda gaead y ddysgl Petri a’i ogwyddo. Paid â’i dynnu’n llwyr na’i roi ar y ddesg gan fod y caead yn atal micro-organebau o’r aer rhag halogi’r meithriniad, ac i’r gwrthwyneb.
Ar ôl gwrth-heintio, am resymau diogelwch, dylid cadw caead y ddysgl Petri yn ei le â stribedi tâp glynol. Dylid labelu a dyddio’r ddysgl.
Caiff platiau agar wedi’u gwrth-heintio eu magu ar 25°C yn labordy’r ysgol am ddim mwy na 24–48 awr. Mae hyn yn annog twf y meithriniad heb dyfu pathogenau dynol sy’n ffynnu ar dymheredd y corff (37°C).
Am resymau diogelwch, dylid diheintio platiau ac offer ar ôl eu defnyddio.
Cytrefi bacteria
Micro-organebau yw bacteria, ac ni ellir gweld celloedd unigol heb ficrosgop. Ond pan gânt eu tyfu ar agar mewn dysgl Petri, mae pob cell unigol yn rhannu sawl gwaith i ffurfio cytref weladwy.
Wrth gyfrif nifer y cytrefi unigol o facteria ar y platiau, mae’n bosibl amcangyfrif niferoedd y bacteria unigol yn y sampl wreiddiol.
Er mwyn gwneud cyfrifiad cywir o’r bacteria mewn sampl, bydd angen gwanedu’r sampl wreiddiol. Dim ond pan fydd y sampl wedi’i gwanedu ddigon y gellir gweld y cytrefi bacteria yn eglur fel cytrefi ar wahân, a hwythau heb ei clystyru â’i gilydd.