Â鶹ԼÅÄ

Dosbarthiad

Mae miliynau o wahanol rywogaethau ar y blaned. Mae gwyddonwyr yn ceisio grwpio rhywogaethau tebyg gyda'i gilydd fel ei bod hi'n haws eu hadnabod nhw. Mae'r grwpiau'n dechrau'n fawr, a dim ond rhai pethau sy'n debyg rhwng yr organebau ynddynt. Wrth symud i lawr y grwpiau maen nhw'n mynd yn llai ac mae mwy o nodweddion yn gyffredin rhwng yr organebau.

Enw'r grwpiau mwyaf yw'r teyrnasau. Y pum teyrnas yw:

  • Anifail
  • Planhigyn
  • Ffyngau
  • organebau ungellog (Protoctists)
  • Bacteria

Teyrnas yr Anifail

Gallwn ni rannu teyrnas yr Anifail eto:

(Clocwedd top-chwith): Broga; gwiwer lwyd yn bwyta cnau; peithon yn gorwedd yn dorch; haig o clownfish.

Fertebratau - anifeiliaid ag asgwrn cefn. Mae’r rhain yn cynnwys amffibiaid, mamaliaid, ymlusgiaid, pysgod esgyrnog ac adar.

(Clocwedd top-chwith) Broga, gwiwer, neidr, clownfish.

(Clocwedd top-chwith): Broga; gwiwer lwyd yn bwyta cnau; peithon yn gorwedd yn dorch; haig o clownfish.
(Clocwedd top-chwith) Cregyn bylchog, pryf genwair, tarantwla, Caenorhabditis elegans.

Infertebratau - anifeiliaid heb asgwrn cefn. Mae’r rhain yn cynnwys molysgiaid, anelidau, arthropodau a nematodau.

(Clocwedd top-chwith) Cregyn bylchog, pryfed genwair, tarantwla, Caenorhabditis elegans.

(Clocwedd top-chwith) Cregyn bylchog, pryf genwair, tarantwla, Caenorhabditis elegans.

Teyrnas y Planhigyn

Gallwn ni rannu teyrnas y Planhigyn:

Blodau haul a phlanhigion gwenith.

Planhigion blodeuol sy'n cynhyrchu blodau ar gyfer atgenhedlu, ee blodau haul a phlanhigion gwair.

Blodau haul a phlanhigion gwenith.
Rhedyn a mwsoglau.

Planhigion anflodeuol sy'n defnyddio sborau i atgenhedlu, ee rhedyn a mwsoglau.

Rhedyn a mwsoglau.