Y system imiwnedd
Os aiff pathogenMicro-organeb sy’n achosi clefyd. heibio i’r amddiffynfa gyntaf amhenodol, byddant yn achosi haint. Ond mae gan y corff ail amddiffynfa i atal neu leihau’r haint hon, sef y system imiwneddSystem amddiffyn y corff rhag clefydau a heintiau., sydd wedi’i gwneud yn bennaf o ddau fath o gell wen y gwaed, sef ffagocytauCelloedd, megis celloedd gwyn y gwaed, sy’n amlyncu ac amsugno deunydd gwastraff, micro-organebau gwastraff, neu gorffynnau estron eraill yn llif y gwaed ac mewn meinweoedd. a lymffocytauCelloedd gwyn y gwaed sy’n ymosod ar bathogenau drwy gynhyrchu gwrthfiotigau..
Ffagocytau
Caiff ffagocytau eu hatynnu at bathogenau yn y gwaed ac maent yn glynu wrthynt. Mae pilen y ffagocyt yn amgylchynu’r pathogen ac yn ei amlyncu. Wedyn bydd ensymau a geir y tu mewn i’r gell yn dadelfennu’r pathogen er mwyn ei ddifa. Gan fod ffagocytau’n gwneud hyn i bob pathogen a ddaw ar eu traws, cânt eu galw’n amhenodol.
Lymffocytau
Math arall o gell wen y gwaed yw lymffocytau. Maen nhw’n adnabod proteinau ar wyneb pathogenau a elwir yn antigenOrganeb estron sy’n cyrraedd y corff ac sy’n sbarduno adwaith imiwn.. Mae lymffocytau’n synhwyro bod y rhain yn estron, hynny yw, ddim yn digwydd yn naturiol yn y corff, a chynhyrchant gwrthgorffProtein sy’n cael ei gynhyrchu gan system imiwnedd y corff sy’n ymosod ar organebau estron (antigenau) sy’n cyrraedd y corff.. Gall hyn gymryd ychydig o ddyddiau, ac yn y cyfamser gelli deimlo’n sâl. Mae’r gwrthgyrff yn achosi i’r pathogenau lynu â’i gilydd i’w gwneud yn haws i’r ffagocytau eu hamlyncu.
Mae rhai pathogenau’n cynhyrchu tocsinMath o wenwyn naturiol sy’n cael ei gynhyrchu gan organeb, yn aml fel math o amddiffyniad. sy’n gwneud i ti deimlo’n sâl. Gall lymffocytau gynhyrchu gwrthdocsinau hefyd i niwtraleiddio’r tocsinau hyn. Mae’r gwrthgyrff a’r gwrthdocsinau hyn yn benodol iawn i’r antigen ar y pathogen, felly dywedir bod y lymffocytau sy’n eu cynhyrchu yn rhai penodol.
Os daw antigen penodol i dy gorff, gallai dy lymffocytau ei adnabod. Os felly, byddant yn clonio’u hunain i greu digon o wrthgyrff i ddifa’r pathogen. Crëir celloedd cof hefyd sy’n aros yn dy lif gwaed er mwyn ymateb yn gyflym os daw’r un antigen yn ôl eto. Dywedir wedyn dy fod di'n imiwn.
Daw’r imiwnedd gorau o fod wedi ymladd yn erbyn clefyd a’i drechu. Ond mewn rhai achosion, fel clefyd difrifol a allai dy ladd ar yr heintiad cyntaf, nid yw hyn yn opsiwn. Yn lle hynny, defnyddir brechiad.