Â鶹ԼÅÄ

Achosion amrywiad

Mae unigolion mewn poblogaeth fel arfer yn debyg i’w gilydd, ond nid yn unfath. Mae rhywfaint o’r hwn o fewn yn , mae rhywfaint yn amgylcheddol, ac mae rhywfaint yn gyfuniad o’r ddau.

Achosion genetig amrywiad

Fel arfer bydd plant yn edrych yn debyg i’w mam a’u tad, ond ni fyddant yn union yr un fath â’r naill na’r llall, a hynny oherwydd eu bod yn cael hanner eu nodweddion etifeddol oddi wrth y naill riant a’r llall.

Mae pob cell sberm a chell wy yn cynnwys hanner y wybodaeth enetig sydd ei hangen ar gyfer unigolyn. Mae pob un yn , hynny yw, mae ganddi hanner y nifer arferol o . Wrth i’r rhain uno mewn , ffurfir cell newydd. Mae gan y hwn yr holl wybodaeth enetig angenrheidiol ar gyfer unigolyn. Mae’n ddiploid, hynny yw, mae ganddo’r nifer arferol o gromosomau.

Ymhlith enghreifftiau o amrywiad genetig mewn bodau dynol mae grŵp gwaed, lliw croen a lliw llygaid.

Diagram yn dangos y gwahaniaeth rhwng clust â llabed a chlust heb labed
Figure caption,
Achosion genetig sy’n penderfynu a oes gennych glustiau llabedog neu ddi-labed

Amrywiad etifeddol yw rhyw hefyd – y genynnau a etifeddaist gan dy rieni sy’n penderfynu a ydych yn wryw neu’n fenyw.

Achosion amgylcheddol amrywiad

Gellir effeithio ar nodweddion rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion gan ffactorau fel hinsawdd, deiet, damweiniau, diwylliant a ffordd o fyw. Er enghraifft, os wyt ti'n bwyta gormod o fwyd fe roi di bwysau ymlaen, ac os nad wyt ti'n bwyta digon fe golli di bwysau. Enghraifft arall yw planhigyn sy’n tyfu yng nghysgod coeden fawr – bydd yn tyfu’n dalach er mwyn cyrraedd mwy o olau.

Dyma rai enghreifftiau eraill o nodweddion sy’n dangos amrywiad amgylcheddol:

  • craith ac acen
  • lliw blodau’r trilliw ar ddeg (hydrangea) – mae’r planhigion hyn yn cynhyrchu blodau glas mewn pridd a blodau pinc mewn pridd

Cyfuniad o achosion genetig ac amgylcheddol

Mae rhai nodweddion yn amrywio oherwydd cyfuniad o achosion genetig ac amgylcheddol. Er enghraifft, mae gefeilliaid unfath yn etifeddu’r un nodweddion yn union gan eu rhieni. Ond os yw gefell A yn bwyta mwy na gefell B (a bod pob amod arall yn aros yr un fath), yna mae gefell A yn debygol o dyfu’n drymach.