Â鶹ԼÅÄ

Y system nerfol ddynol

Mae'r system nerfol ddynol yn cynnwys:

  • y brif system nerfol – yr ymennydd a madruddyn y cefn
  • y system nerfol berifferol – nerfgelloedd sy'n cludo gwybodaeth i'r brif system nerfol neu ohoni
Diagram o'r brif system nerfol ddynol â'r ymennydd a madruddyn y cefn wedi'u labelu

Mae gwybodaeth yn cael ei chludo i'r brif system nerfol ac oddi wrthi gan nerfau, sef sypynnau o niwronau. Celloedd hir yw niwronau sy'n cludo signalau trydanol ar eu hyd. Lle mae dau niwron yn dod at ei gilydd, mae bwlch bach iawn o'r enw . Mae'r signal yn teithio'n gemegol ar draws y synaps i'r niwron nesaf lle mae'r ysgogiad trydanol yn parhau.

Mae'r diagram yn crynhoi sut mae gwybodaeth yn llifo o dderbynyddion i yn y system nerfol.

Diagram yn crynhoi sut mae gwybodaeth yn llifo o dderbynyddion i effeithyddion yn y system nerfol.