Amodau y tu mewn i’n corff
Rhaid rheoli’r amodau y tu mewn i’n corff yn ofalus iawn, oherwydd bod metabolaethPob adwaith cemegol mewn celloedd organeb, gan gynnwys resbiradaeth. yn gweithio o fewn ystod tymheredd a pH cul iawn.
Mae hormonNegesydd cemegol sy’n cael ei gynhyrchu mewn chwarennau ac sy’n cael ei gludo yn y gwaed i organau penodol yn y corff. yn cludo negeseuon o gwmpas y corff, ond maent yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i’r ffurfiadau yn y system nerfol.
Hormonau | System nerfol | |
Math o neges | Cemegol | Trydanol |
Cludo gan | Gwaed | Niwronau |
Buanedd trosglwyddo | Araf | Cyflym |
Math o neges | |
---|---|
Hormonau | Cemegol |
System nerfol | Trydanol |
Cludo gan | |
---|---|
Hormonau | Gwaed |
System nerfol | Niwronau |
Buanedd trosglwyddo | |
---|---|
Hormonau | Araf |
System nerfol | Cyflym |
Negesydd cemegol yw hormon, ac mae’n cael ei gynhyrchu yn y chwarennau endocrin a’i gludo yn y gwaed i organ darged. Mae hormon o'r enw inswlinHormon sy'n rheoli lefel y siwgr yn y gwaed. Mae'n cael ei gynhyrchu yn yr ynysoedd Langerhans yn y pancreas. yn ymwneud â rheoleiddio siwgr (glwcos) yn y gwaed.
Rheoleiddio glwcos yn y gwaed
Mae celloedd angen glwcosSiwgr syml sy'n cael ei wneud gan y corff o fwyd. Mae'n cael ei ddefnyddio gan gelloedd i wneud egni yn ystod resbiradaeth. ar gyfer resbiradaethAdwaith cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw, gan ddefnyddio glwcos ac ocsigen i ryddhau'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Carbon deuocsid a dŵr yw sgil gynhyrchion resbiradaeth.. Mae’n bwysig bod y crynodiad o glwcos yn y gwaed yn cael ei gynnal ar lefel gyson. Mae’r hormon inswlin yn brotein sy’n cael ei gynhyrchu yn y pancreasChwarren fawr yn yr abdomen wrth ymyl y stumog sy’n cynhyrchu ensymau treulio a’r hormon inswlin. . Mae’n rheoli lefelau glwcos yn y gwaed.
Effaith inswlin
Glwcos isel | Glwcos uchel | |
Effaith ar y pancreas | Dim inswlin yn cael ei ryddhau i’r gwaed | Inswlin yn cael ei ryddhau i’r gwaed |
Effaith ar yr afu/iau | Ddim yn trawsnewid glwcos yn glycogen | Yn trawsnewid glwcos yn glycogen |
Effaith ar lefel glwcos yn y gwaed | Yn cynyddu | Yn gostwng |
Effaith ar y pancreas | |
---|---|
Glwcos isel | Dim inswlin yn cael ei ryddhau i’r gwaed |
Glwcos uchel | Inswlin yn cael ei ryddhau i’r gwaed |
Effaith ar yr afu/iau | |
---|---|
Glwcos isel | Ddim yn trawsnewid glwcos yn glycogen |
Glwcos uchel | Yn trawsnewid glwcos yn glycogen |
Effaith ar lefel glwcos yn y gwaed | |
---|---|
Glwcos isel | Yn cynyddu |
Glwcos uchel | Yn gostwng |
Mae’r diagram yn dangos sut mae hyn yn gweithio.