Â鶹ԼÅÄ

Yr arennau

Mae’r arennau wedi’u lleoli yng nghefn yr abdomen, ac maent yn gwneud dwy swyddogaeth bwysig yn y corff:

  • rheoleiddio faint o ddŵr sydd yn y gwaed
  • ysgarthu/gwaredu cynhyrchion gwastraff gwenwynig metabolaeth

Gwylia Dr Alice Roberts yn dyrannu aren mochyn ac yn egluro adeiledd a swyddogaeth yr aren a’r system droethol. (Cynnwys Saesneg).

Y system ysgarthu – adeiledd a swyddogaeth

Pibellau gwaed glas a choch. Mae'r rhai glas yn dangos gwaed yn mynd o'r arennau i'r galon. Mae'r rhai coch yn dangos gwaed yn mynd i'r arennau o'r galon. Mae pledren, wrethra ac aren wedi'u labelu.
  1. Mae gwaed yn cyrraedd yr aren drwy’r sy’n canghennu oddi ar yr .
  2. Mae’r aren yn rheoleiddio faint o ddŵr a halen sydd yn y gwaed ac yn cael gwared o .
  3. Mae’r dŵr dros ben sydd wedi’i hidlo, halwynau ac wrea yn ffurfio hylif o’r enw .
  4. Mae troeth/wrin yn cael ei gludo i’r ar hyd tiwbiau o’r enw .
  5. Mae’r bledren yn storio’r troeth/wrin tan y bydd hi’n gyfleus ei adael allan o’r corff drwy’r wrethra.
  6. Mae’r gwaed pur yn dychwelyd i’r cylchrediad drwy’r ac i’r galon drwy’r .

Yr aren

Mae’r diagram hwn yn dangos lle mae’r rhydweli arennol yn mynd i mewn i’r aren, a lle mae’r wythïen arennol yn gadael.

Diagram o aren yn dangos lle mae'r rhydweli arennol yn mynd i mewn i'r aren a lle mae'r wythïen arennol yn gadael. Mae'r cortecs, y medwla a'r wreter hefyd wedi'u labelu.

Mae’r aren yn cynnwys tua miliwn o ffurfiadau o’r enw . Mae’r neffronau hyn yn dechrau yn y cortecs yn yr aren ac yn dolennu i lawr i mewn i’r medwla ac yn ôl i’r cortecs.

Mae’r neffron yn rheoleiddio lefel y dŵr, a halwynau ac yn cael gwared wrea o’r gwaed.