Â鶹ԼÅÄ

Micro-organebau

Mae micro-organebau ym mhobman. Nid yw’r rhan fwyaf yn achosi unrhyw niwed i ni, ac mae rhai hyd yn oed yn llesol. Maen nhw’n byw yn ein coluddion ac yn helpu treulio bwyd, neu ailgylchu maetholion trwy bydru organebau marw.

Ond mae yna rai micro-organebau sy’n gallu achosi niwed. yw’r enw ar y rhain.

Mae pedwar prif fath o bathogen.

PathogenEnghraifft
FirwsHIV, a allai arwain at AIDS
BacteriwmSalmonela
FfwngTarwden y traed
ProtistMalaria
PathogenFirws
EnghraifftHIV, a allai arwain at AIDS
PathogenBacteriwm
EnghraifftSalmonela
PathogenFfwng
EnghraifftTarwden y traed
PathogenProtist
EnghraifftMalaria

Cylch bywyd syml sydd gan bob math o bathogen. Maen nhw'n heintio , yn atgynhyrchu eu hunain (neu’n dyblygu, yn achos firws), yn ymledu o’u horganeb letyol, ac yn heintio eraill.

Mae ganddyn nhw strwythurol hefyd sy’n sicrhau eu bod yn cwblhau eu cylch bywyd yn llwyddiannus, sy’n eu galluogi i achosi clefyd pellach.

Gelwir clefydau a achosir gan bathogenau yn . Mae hyn yn golygu y gellir eu trosglwyddo o un person i un arall.

Celloedd bacteriol

Mae gan bob cell facteriol y nodweddion canlynol:

  • dim cnewyllyn
  • cellfur wedi’i wneud o fwrein, nid cellwlos fel yng nghelloedd planhigion
  • cellbilen a chytoplasm
  • cromosom sy’n rhydd yn y cytoplasm mewn dolen hir
  • gall gynnwys dolenni bach o DNA a elwir yn blasmidau
  • dim cloroplastau na mitocondria
  • bodoli fel celloedd unigol
  • weithiau mae capsiwl llysnafedd o gwmpas y cellfur i’w atal rhag sychu
  • rhannu trwy ymholltiad deuaidd, rhannu’n ddwy cyn tyfu i’w llawn faint ac ailadrodd y broses
  • gall fod pili ganddynt i lynu wrth arwynebau, neu fflagela i ganiatáu iddynt symud
Diagram o gell bacteria: Blew, Ribosomau, DNA, Capsiwl, Plasmidau, Cytoplasm, Cellfur, Pilen blasmaidd, Flagellum bacteriol

Gronyn firws

Nid yw yn cael eu cyfrif yn bethau byw am nad ydynt yn cwblhau pob un o saith proses bywyd, sef symud, resbiradu, sensitifrwydd, maethiad, ysgarthu, atgenhedlu a thwf.

Cyfeiriwn at straeniau o firws, nid rhywogaethau. Maent wedi’u ffurfio o ddarn cymharol gwta o ddeunydd genynnol wedi’i amgylchynu â chôt protein.

Diagram o ronyn firws: Amlen pilen, Côt protein, Asid niwclëig, Sbigynnau