DNA, genynnau a chromosomau
Termau allweddol a ddefnyddir mewn geneteg
- Cell rhyw yw gametCell rhyw (sberm mewn gwryw, ofa (wyau) mewn benyw). Mewn bodau dynol, sberm ac wyau yw gametau. Polymer mawr a chymhleth yw DNAAsid deocsiriboniwcleïg. Y deunydd y tu mewn i gnewyllyn celloedd, sy’n cludo gwybodaeth enetig organebau byw. sydd wedi’i wneud o ddau edefyn sy’n ffurfio helics dwbl. DNA sy’n pennu nodweddion organebBod byw yw organeb - planhigyn, anifail, ffwng neu bacteriwm. byw. Ac eithrio gefeilliaid unfath, mae DNA pob un yn unigryw.
- Y tu mewn i cnewyllynMae’r cnewyllyn yn rheoli’r hyn sy’n digwydd y tu mewn i gell. Cromosomau sydd i’w gweld yng nghnewyllyn y rhan fwyaf o gelloedd yw strwythurau. Cnewyll yw lluosog cnewyllyn. y gell mae’r cromosomYr adeiledd sydd wedi ei wneud o DNA sy’n codio ar gyfer holl nodweddion organeb.. Ceir cromosomau yn barau yng nghnewyllyn cell corff. Bydd un cromosom wedi’i etifeddu gan y fam, a’r llall gan y tad. Edafedd hir o DNA yw’r rhain, wedi’u ffurfio o lawer o enynnau.
- Darn bach o DNA ar gromosom yw genynUned sylfaenol o ddefnydd genetig sy'n cael ei etifeddu oddi wrth ein rhieni. Mae'n ddarn o DNA sy'n rheoli rhan o gemeg cell - yn enwedig cynhyrchu protein., sy’n codio ar gyfer dilyniant penodol o asidau amino, i wneud protein penodol. Dyma uned etifeddiad, a gellir ei gopïo a’i basio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
- Mae’r cromosom ym mhob pâr yn cario’r un genyn yn yr un lleoliad. Gallai’r genynnau hyn fod yr un fath, neu’n fersiynau gwahanol o’r un genyn.
- Fersiynau gwahanol o’r un genyn yw alelau. Er enghraifft, mae gan y genyn lliw llygaid alel ar gyfer llygaid glas ac alel ar gyfer llygaid brown. Yn unrhyw enyn, gall rhywun fod â dau alel yr un fath, sef alelau homosygaidd, neu ddau alel gwahanol, sef alelau heterosygaidd.
- Y genoteipYr alelau sydd gan organeb ar gyfer nodwedd benodol, sy’n cael eu hysgrifennu fel llythrennau fel arfer. yw’r casgliad o alelau sy’n pennu nodweddion, a gellir ei fynegi fel ffenoteipNodweddion gweledol organeb sy’n digwydd o ganlyniad i’w enynnau..
- Y ffenoteip yw nodweddion gweladwy organeb sy’n ganlyniad i’w genynnau. Er enghraifft, llygaid glas neu wallt brown.
- Bydd alel trecholAlel sy’n mynegi ei hun drwy’r adeg, waeth a ydy e’n bartner i alel enciliol neu alel arall tebyg iddo ei hun. wedi’i fynegi yn yr heterosygot. Cynrychiolir alelau trechol gan briflythyren, er enghraifft, A. Mae alel llygaid brown yn drechol. Does dim ond angen un copi o’r alel hwn i gael llygaid brown. Bydd dau gopi yn rhoi llygaid brown hefyd.
- Bydd alel enciliolFfurfiau amgen ar enyn sydd ond yn digwydd os nad ydy alel trechol y genyn hwnnw’n bresennol. Rhaid i organeb gynnwys dau gopi o alel enciliol er mwyn i’r alel hwnnw ymddangos. ei fynegi dim ond pan fydd gan yr unigolyn ddau gopi ohono, a heb gopi o alel trechol y genyn hwnnw. Cynrychiolir alelau enciliol gan lythyren fach, er enghraifft, a. Mae alel llygaid glas yn enciliol. Mae angen dau gopi o’r alel hwn i gael llygaid glas.
- Mae alelau homosygaiddMae hyn yn disgrifio genoteip lle mae’r ddau alel ar gyfer y nodwedd yn union yr un fath. yn ddau alel yr un fath ar gyfer yr un nodwedd, er enghraifft, AA neu aa.
- Mae alelau heterosygaiddMae hyn yn disgrifio genoteip lle mae’r ddau alel ar gyfer nodwedd benodol yn wahanol. yn ddau alel gwahanol ar gyfer yr un nodwedd, er enghraifft, Aa.