Â鶹ԼÅÄ

Brechu - Haen uwch yn unig

Mae yn caniatáu cyflwyno ffurf farw neu addasedig o’r pathogen sy’n achosi clefyd, sy’n cynnwys penodol, i’r corff. Bydd hyn yn peri i’r system imiwnedd, sef yn benodol, , gynhyrchu cyflenwol. Bydd y gwrthgyrff yn targedu’r antigen ac yn glynu wrtho er mwyn creu celloedd cof. Bydd y rhain yn ymateb yn gyflym i’r antigen os daw i’r fei eto.

Gwylia'r Athro Robert Winston yn egluro rôl celloedd gwyn y gwaed yn system imiwnedd y corff (cynnwys Saesneg).

Gwneir y rhan fwyaf o frechiadau yn ystod plentyndod, felly mater i’r rhieni yw penderfynu a ddylid brechu ai peidio. Mae brechu’n gymharol ddiogel, gan achosi dim ond symptomau ysgafn o dwymyn a chwyddo yn y fan lle rhoddwyd y brechiad, ond weithiau gellir cael adweithiau alergaidd. Hefyd, mae honiadau wedi cysylltu brechiadau â chymhlethdodau difrifol. Mae’r honiadau hyn wedi’u tanseilio, ond mae’r ofn yn parhau ymysg rhieni.

Rhaid i rieni ystyried sawl peth wrth benderfynu a ddylid brechu ai peidio.

  • Mae perygl ynghlwm wrth unrhyw frechiad. Ond mae’r risg o ddal clefyd difrifol yn llawer mwy.
  • Mae imiwneiddio’n cynyddu imiwnedd poblogaeth, hynny yw, bydd y rhai sy’n methu cael eu brechu yn cael eu gwarchod wrth i achosion o’r clefyd gael eu hatal oherwydd bod eraill wedi cael eu brechu ac felly’n imiwn.

Sut mae brechiadau'n gweithio

Diagram yn dangos sut mae brechiadau yn gweithio

Yn ystod yr , mae’r gwrthgyrff yn cynyddu’n araf, yn cyrraedd anterth ymhen rhyw ddeg diwrnod, ac wedyn yn lleihau’n raddol.

Bydd ail gysylltiad â’r un yn achosi i gelloedd gwynion y gwaed ymateb yn gyflym er mwyn cynhyrchu llawer o’r gwrthgyrff perthnasol, fydd yn atal heintiad.

Graff llinell yn dangos faint o wrthgyrff sydd yn llif y gwaed (echelin-y) wrth Diwrnodau ar ôl yr haint (echelin-x)

Hanes byr Edward Jenner a brechu. Caiff hyn ei ddilyn gan edrych yn fwy manwl ar y modd y mae'r corff yn datblygu imiwnedd i heintiau.