Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Cyngor i Fam Newydd
Y Ffoaduriaid
Cyn agor ‘drws i’r postmon
neu bicio lawr i’r siop
gwna’n siwr nad yw dy fronnau
yn hongian mas o’th dop.
Gwennan Evans – 8.5
Tanygroes
Bydd rhaid i ti ddysgu pan ddaw
Y grefft o gael gwared â baw,
Coginio sawl pryd
A golchi o hyd
A’i wneud e i gyd ag un llaw.
Philippa Gibson – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd ‘ni waeth’
Y Ffoaduriaid
Ni waeth be ddwedaist neithiwr
ti’m yn sant, mae hynny’n siwr!
Gruffudd Owen – 8.5
Tanygroes
Ni waeth am wae ein gaeaf
Pan gawn un prynhawn o haf.
Ann Richards – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe fûm i yn ciwio am achau’
Y Ffoaduriaid
Fe fûm i yn ciwio am achau
am sosej, nes clywed y geiriau
"Fydd e ddim yn hir"
atebais yn glir
"Os felly, gwell nad yw yn denau."
Gwennan Evans – 8.5
Tanygroes
Fe fûm i yn ciwio am ache
Yn y glaw yn sêls Abertawe.
Rhyw bethe diangen
A ges i, nid bargen,
Ac yn ben, ces y ffliw am wythnose.
Ann Richards – 8
Cywydd: Tai Mas
Y Ffoaduriaid
“Mae’r crwt yn ffarmwr o’r crud,
a’i fuarth yw ei fywyd.”
Mynnent mai un dymuniad
y dyn oedd dilyn ei dad.
Ni welent mono’n ‘nelu
bob bore tamp heibio’r tΕ·
i’r storom lenwai’r storws.
Awr celu’r drin, awr cloi’r drws;
ac wrth agor llifddorau
ei enaid, roedd rhaid sicrhau,
nad oedd gan ei fam na’i dad
yn eu henaint, ‘run syniad.
Gruffudd Owen - 10
Tanygroes
I’w cadw nhw, i’w mwynhau,
rhof fy haid o brofiadau
mewn sawl ’sgubor a’u storio
yn ddi-drefn yng nghefn fy ngho’.
Daw lliw gwell i ambell un
drwy’r rhwd yn ei droi wedyn.
Ac amser, â thynerwch
ei law, a gaiff daenu’i lwch
yn deg, er mwyn diwygio
rhai rhy groch - neu’u rhoi i’r gro.
Maen nhw’n hardd, caf eu mwynhau
o bori drwy’r ’sguboriau.
Phillipa Gibson – 9.5
Pennill ymson gweithiwr yr arwydd Stop a Go
Y Ffoaduriaid
Cyhuddwyd fi o fod yn llo
ond nawr, rwy’n swyddog stop and go
ac wrth fy ngwaith, mae’n bleser llwyr
cael gwneud athrawon Cymru’n hwyr.
Gwennan Evans – 9
Tanygroes
Fe fûm i yn ciwio am achau
Ar droli yr Adran Ddamweiniau
Pan es maes o law
I’r byd ochor draw
Roedd boi’r stop and go wrth y gatiau.
Arwel Jones – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yr Agoriad Swyddogol
Y Ffoaduriaid
“Mae’n llenyddiaeth ni yng Nghymru braidd yn ddiflas ac yn stêl”
medd ein harglwydd dros ddiwylliant a thwristiaeth, Dafydd Êl.
“Dyw Pantycelyn ddim yn secsi nac yn gwneud ryw fawr o les
os am ddenu ‘Mericanwyr dros y dΕµr i wario’u pres.
Mae’n bryd dathlu bri llenyddol ein tywysogaeth ni
mi ail-frandiwn dre Llandudno yn Wonderland-on-sea.
William Shakespeare a Jane Austin oedd yn Gymry, mwy neu lai
ac roedd gan gyfnither nain George Orwel ryw dy haf yn Llandygai.
Bu J.K. Rowling yma unwaith, nôl yn ninteen eighty four
felly gwsigwn yr Archdderwydd fatha Albus Dumbledore.
Cawn wared o Tudur Dylan (sef the poor man’s Jim Parc Nest)
a thrown ein Prifwyl Genedlaethol yn Dylan Thomas Fest.
Mae’r Amgueddfa Genedlaethol bach rhy ‘Welshie’ medda nhw.
Trown o’n Roald Dahl Experience (efo twtsh o Dr Who).
Mi agorai’r lle’n swyddogol mewn derbyniad caws y gwin
a chewch ddathlu diwylliant Cymru gyda fi a mab y cwîn.
Bydd hufen Cymru yno, Cymry Llundain ‘lly, wrth gwrs
fe fyddai talent lleol rhyw fymryn bach yn gwrs.
Mi wnaf fwy dros lên yng Nghymru nag y gwnaeth yr Arglwydd Rhys
(ac os dwedwch chi’n wahanol, mi a’ch gwelaf yn y llys!)”
Gruffudd Owen - 9
Tanygroes
Y Dug a ddaeth heb rybudd, lawr yma daeth am dro
I roi agoriad falle swyddogol lefydd bro.
Ni ’standodd bod argyfwng ariannol mwy neu lai.
Mwy addas cydymdeimlad, a phopeth wedi cau.
Rhowd iddo bâr o welis cans angen yr oedd rhaid
I agor safle newydd Ysbyty yn y llaid.
‘Ga’ i ofyn cwestiwn,’ meddai ‘Efalle mas o le?
Ailagor sy’n bwysicach ysbyty bach y dre?’
Y Dug oedd anghyfforddus, yn gwingo a thindroi,
Ar gau mae’r cyfleusterau, pob drws nawr wedi’i gloi.
Ar goll y bu wap wedyn, dim pip ’rôl chwilio târ,
’Rôl pocran pob ysgubor ac ambell gwtsh dan stâr.
Ond wir fe’i darganfuwyd mewn gardd tu fas i’r dre
Pan glywyd gwraig yn gweiddi, ‘Rwyf yn ei weld, ’co fe!
’Sdim dowt am hwn chi’n chwilio, yn wir yr wyf yn dyst -
Mae’n cwato’n llwyn gwsberis dan gysgod ei ddwy glust.’
Y Maer gynigiodd wedyn gael arbed siom a gâs,
‘Swyddogol cei di agor rhych dato ym Maes Glas.’
‘Rwy’n mo’yn peth dom,’ medd wedyn ‘I’w roi i Wil a Cêt.
I’m sure mum too would like some - rhowch fforched ar y sêt.’
Arwel Jones - 9
Ateb Llinell Ar y pryd: Pan ddaw'r haf bydd arnaf whant
Y Ffoaduriaid
Pan ddaw’r haf bydd arnaf want
Bendar, mae hynny’n bendant.
Tanygroes
Pan ddaw’r haf bydd arnaf want
Eillio, ie dyna welliant.
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dileu
Y Ffoaduriaid
Welsoch chi fi’n diflannu?
Rhywle rhwng y contraction olaf a’r geni
cefais fy nileu.
Fel anifail, pobl eraill sy’n fy niffinio nawr.
Mam. Miss Wiliam…Miss? Aeliau yn codi.
Come and join us Mummy!
Fesul clwt budur, fesul ffid,
rwy’n clywed bys yn gwasgu…
Dileu! Dileu!
Pan fyddai’n estyn bron yn lle beiro
yn gwthio coetsh yn lle reidio beic
yn trafod Calpol yn lle llyfr.
Ond flwyddyn gron yn ddiweddarach,
dyma fi’n edrych ar
y person bach yma
a ddaeth mor ddisymwth
i’m dileu fel fflach,
ac rwy’n gweld fy hun mor glir â haul ar bared.
Casia Wiliam - 9
Tanygroes
Rhyw atgof pell yw’r driniaeth,
Mae’r graith yn llinell wen
A’r teithiau i’r ysbyty
Yn awr a ddaeth i ben.
Ond er mor glir yw’r sganiau
A gaf o bryd i bryd
Ni all dileu yr ofnau
Bod canser yno o hyd.
Ann Richards – 8.5
Englyn: Clais
Y Ffoaduriaid
(Ymgyrch #METOO)
Diystyriwyd dy stori, do, ganwaith
ond gwn os gwnawn godi
fel un, daw cyfle inni
daro nôl drwy’n trydar ni.
Gruffudd Owen -9
Tanygroes
Clais Branwen
Er i’w dyn ei dirdynnu, nid ei hofn
dyfnaf yw ei dyrnu:
cwyd arswyd wrth i’r staen du
o wlad i wlad ymledu.
Phillipa Gibson – 9