Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Gair o Gyngor Ffasiwn
Y Prentisiaid
Mi dd’udodd rhywun wrtha’i dros sigarét
nad wyt ti’n fardd go iawn nes ti’n gwisgo het.
Iestyn Tyne – 8.5
Llanrug
Mae’r labeli cyfarwydd yma, o Marcs a Next a Laura. Pob lliw a maint am fargen, heidiwch draw i’n siop elusen.
Richard Lloyd Jones - 8.5
Cwpled Caeth yn cynnwys enw unrhyw wlad
Y Prentisiaid
Cacerolazo
España, clywch sosbenni
ein hundod annatod ni.
Gethin Wynn Davies – 8.5
Llanrug
Malurio mae haul eirias
Seiliau oer yr Ynys Las.
Dafydd Williams – 9
Limrig yn cynnwys y llinell “Nid oeddwn yn teimlo’n ddiogel”
Y Prentisiaid
Mi es i ar drip draw i Frwsel.
Nid oeddwn yn teimlo’n ddiogel
gan fod un hen Εµr
Yn cadw rhyw stΕµr,
ac enw’r gwamalwr oedd Nigel.
Alun Williams -8
Llanrug
Nid oeddwn yn teimlo’n ddiogel
Yn y Slate Quarry Arms rôl saith barel;
Swn dyrnau’n y ffeit
Fel clec deinameit,
A minnau ddim cweit ‘n cwt mochel.
John Roberts – 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Traddodiad
Y Prentisiaid
(mab ffarm)
Yn oer, fel adnabod neb,
‘Na’, eto - dyna’i ateb;
mynn y gair fel min y gwynt
estyn ei lwydrew drostynt.
Â’r dalar yn galaru,
yntau’r tad sy’n troi o’r tΕ·.
Wrth y bwrdd mae gwerth y byd;
mae ei fab, ac mae’i febyd
ei hun yn eistedd yno.
Yn lle hyn, am na all o
wynebu ei adnabod
yn ei boen - nid ydyw’n bod.
Iestyn Tyne - 10
Llanrug
Ddaw cynnwrf Oesoedd Canol
drwy y niwl a’n hyder ‘nôl?
Ger y ffin oes gwΕ·r â ffydd
Mewn aelodaeth mân wledydd;
O un ffydd all lunio’n ffawd
I Gymru fod yn Gymrawd?
Gweld ei lle fel gwlad â’i llys
yn dΕµr ar adeg dyrys.
Pwy heno wel lith Pennal?
a chΕµyn fod Ewrop ar chΕµal.
Er ei ble, ar ôl chwe chant,
ai myth, ai eicon methiant?
Richard Lloyd Jones – 9
Pennill ymson wrth eirafyrddio
Y Prentisiaid
Mae gen i gogls sbeshal
a helmed dros fy ngwallt,
a llond fy mlwmin trowsus
wrth blymio lawr yr allt.
Gethin Wynn Davies – 8.5
Llanrug
Rydwi’n teimlo’n rel meipen
Mynd i sglefrio mewn peipen
A dim ond ‘i hanner hi sy’no
Be wnai pan fydd eira?
Dafydd Whiteside Thomas – 8
Cân ysgafn: Ffobia
Y Prentisiaid
Mae Sali TΕ· Capal ofn gadal y tΕ·
Gan fod ei ffobia o weinidogion mor gry’.
Ar ddydd Sul mae drysau y tΕ· dan glo,
y ffenestri ’di duo a sbeics ar y to.
Daeth y ffobia i’r amlwg ym 1973
Pan aeth y gweinidog draw ati hi
Ond yn y gawod oedd Sali ar y pryd
A gwelodd y gweinidog hi’n gwisgo dim byd.
Lle anffodus i fyw gyda ffobia fel hyn,
Fel cael ffobia o ddΕµr a byw ger llaw llyn.
Mae’r ofn yn un gwirion, mae hynny yn wir,
Ond gawni neud un peth bach yn glir,
Mae Sali wedi trio cydymffurfio ’fo’r ‘parch’
Pan ddaeth yr amser i’w mam fyw mewn arch.
Fe waeddodd Sali wrth weld coler wen
A thaflu llyfr hymns yn syth at ei ben.
Ers hynny, mae Sali yn waeth yn ei hofn,
A chraith y gweinidog yn hunlle’ ddofn.
Mae’n drueni ofnadwy ar Sali ‘n y bôn,
Wrth ofni pob gweinidog o Fynwy i Fôn.
Alun Williams - 8
Llanrug
Mae gen i ffobia am bob math o ffobias
O’r ysfa i redeg bob tro gwelaf heddwas
A chyfarch pob dieithryn drwy weiddi ‘Hawddamor’,
A chusanu pob llyffant – ond dim ond ym mis Chwefror.
Gen i ofn gwirioneddol methu agor fy sgidia;
Dyna pam rydwi wastad yn nhraed fy sana.
Mae hynny yn broblem bob tro mae hi’n glawio
Dwi’n ofni gwlybaniaeth ers cael fy medyddio.
Ac oherwydd hynny, animal dwi’n molchi
( Mae ‘na duedd gan rai i ddeud mod i’n drewi)
Er hynny caf sesiwn sy’n breifat – ond costus
Mewn londri ‘ dry cleaning’ caf folchi afieuthus.
A choeliwch chi ddim fod ‘na grocodeilod
Â’u cegau ar agor yn cuddio’n fy nghysgod.
A rhaid i mi ganu y dôn ‘Bryn Calfaria’
Cyn mentro o gwbl ar gwch i bysgota.
A dalltwch mod i’n diodda o feicroffonobia
Dyna pam rydwi’n rhuthro i ddarllen y gân ‘ma.
Af yn fwystfil cynddeiriog os na wnawn ni ennill
Cysidrwch, O Feuryn – a their tasg yn weddill!
Dafydd Whiteside Thomas - 8.5
Ateb llinell ar y pryd: Am wn i damwain yw hyn
Y Prentisiaid
Am wn i damwain yw hyn
A’i hatal, ni all Putin.
0.5
Llanrug
Am wn i damwain yw hyn
Rwy'n hwyr meddylia'r meuryn
Telyneg (heb fod dros 18 llinell) - Cadw Cyfri
Y Prentisiaid
(Er cof am Doris, a gadwai’r General Store yng Ngharmel. Ni fuodd na gyfrifiannell rioed wrth gyfyl y lle, a segur oedd y til hefyd gan fwya)
Mai’n socan potsh o bnawn
a sΕµn y glaw yn ddalan poethion ar y ffenest.
Tu ôl i leino’r cownter
mae hi’n cyfri pic a mics
i fag- “tΕµ a ffôr is sics,
a ffôr is ten” mewn murmur isel.
Mewn cardigan liw mint
mesura bwys o garamels
i gwdyn gwyn. Papurau aur
yn gwenu fel morladron
rhwng y weiran gaws
a photeli lwcosêd.
Cyfrifa, yn ei sgrifen crafanc dryw
ar ddarn o hen focs carbod. Ei symiau’n llifo’n gerddi
mewn mesurau rhydd.
Grug Muse – 9.5
Llanrug
Antur annisgwyl
Oedd cyrraedd Glan Clwyd
Hyd y scenic route;
Fy halio mewn hofrennydd
I’r ward lle gorweddaf
Dan gagl o wifrau;
Cnul bipian peiriannau
A gogwydd graffiau’n
Mapio cyfuchlinellau
Llwybr fy nyfodol.
Ar fy fforiad disymwth
I Barc Gweddill F’oes
Mae nodwyddau cwmpawdog
Yn atal f’erydu;
A’r wardeiniaid yn datgan
Fod ffordd ymlaen.
Wrth i’r niwl godi oddi ar y gefnen hon
A feiddia’i ofyn, “ Pa hyd yw’r daith?”
John Roberts – 9
Englyn: Cerflun
Y Prentisiaid
Gure Aitarean Etxea - Eduardo Chillida (1988)
(sef cerflun a welais yng Ngernika ar daith berfformio yng Ngwlad y Basg fis Hydref 2017, a gomisiynwyd yn wreiddiol i nodi 50 mlwyddiant y bomio)
Dwy wal yn llawn nodau galar - lle bu’r
holl boen ar y ddaear
yn gweu tân drwy sΕµn gitâr
yn llef o gordiau llafar.
Iestyn Tyne - 9
Llanrug
(Cofeb Tryweryn – John Meirion Morris)
Eiriol â wna’r aderyn – dros y gwir,
Dros gof Capel Celyn;
Herio llif galar y llyn,
Dyfaru pob diferyn.
John Roberts - 9.5