TALWRN TAFWYL
Trydargerdd: Gwrthod Gwahoddiad
Clera
Daeth yr amlen drwy’r drws – ro’n i’n gwybod,
Roedd y sgwennu’n rhy hawdd ei adnabod.
Cais am RSVP
Ges i’w diwrnod mawr hi,
Rhaid oedd derbyn y gwir – a rhaid gwrthod.
Mari George – 8.5
Bragdy’r Beirdd
Fe hoffwn ddod i’r briodas
ond byddai’n gryn embaras
pe down a’m stumog dal yn wan.
Bod wrth y pan sy’n addas.
Gwennan Evans - 8
Cwpled caeth ar yr odl ‘-el’ (neu ‘-êl’)
Clera
Rwy’ moyn bwrw mewn barel
I Ddyfi ddofn Ddafydd Êl.
Eurig Salisbury – 8.5
Bragdy’r Beirdd
Pan ddaw, fe ddaw yn dawel
Ein diwedd oll, doed a ddêl.
Osian Rhys Jones – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n awr yn ystyried ymfudo’
Clera
Pan gampiais yn byrcs yn Sir Benfro,
Yn sydyn fe welais yn pasio
Fws Merched y Wawr,
A’u llygaid mor fawr
Rwy’n awr yn ystyried ymfudo.
Aneirin Karadog – 8.5
Bragdy’r Beirdd
Mae’r Pwyllgor Apêl yn fy mlino.
Rwy’n awr yn ystyried ymfudo
i gornel o’r gofod
lle nad oes Eisteddfod,
oes rhywun yn ffansi ymuno?
Gwennan Evans – 8.5
Cywydd (rhwng 12 a 18 llinell): Datganiad rheolwr neu chwaraewr mewn cynhadledd i’r wasg
Clera
Ie, collon ni, er trial yn galed, galed i ga’l y win. O’n nhw jyst yn well,
on’d ife, a ma’r stafell newid yn gytid, na’r gwir. Ie, i guro, rhaid sgori’r mwya’ bob tro, fi ofan. A wel, odd, odd y gêm mla’n o’r off.
Nawr, odd y reffo wir yn iawn? Sa i’n siΕµr, no. A obviously, ewn ni nôl unweth fydd ongl wa’nol, chi ’mo, gwylio ’da’n gilydd.
Ond, wel, ar ddiwedd y dydd, falle do’n ni’m digon da’n neilo’r cyfleon ola’ ’leni i ga’l y winyr.
Ie, mla’n at y nesa’ nyr.
Eurig Salisbury – 9.5
Bragdy’r Beirdd
Yn dilyn penderfyniad amddiffynnwr Spurs a Lloegr, Danny Rose, i drafod ei iselder.
Ym mharêd eich camerâu
yn fynych, cadwaf innau
rhag cyfweliad pnawn Sadwrn
hyd fy maich a lled fy mwrn;
gêm ddi-ball, arall yw hi
a gêm mor unig imi.
Ni welwch mai anelu
o gornel ei dwnnel du
yn ei ôl, wna’r hen elyn
â’i ergyd hir, gyda hyn
ar erwau lleddf, ger y llwch
yn nherasau fy nryswch.
Taro’r rhwyd a wnaiff bob tro,
ni all aros i’m llorio
bob un darn, heb ddyfarnwr
na’r un saib, ac rwy’n o siΕµr
y daw ar wib i dir haf
uwch y bêl, heb chwib olaf.
Aron Pritchard – 10
Triban beddargraff darllenydd newyddion
Clera
Be am stwffio’r eitem fama
Rhwng Brexit, Trump a Syria?
Neu fama? O di o jest ddim iws
Fe neith i’r ‘news where you are’
Gruffudd Antur - 9
Bragdy’r Beirdd
Ar ôl ei stori dd’wetha
erioed, rho’dd wên i’r camera
a dweud nos da fel gwna hen ffrind
gan fynd, tan y tro nesa.
Gwennan Evans -8.5
Parodi ar ‘Y Cwm’ gan Huw Chiswell
Clera
Wel, sut wyt ti'r hen goes?
Dwi ddim 'di dy weld di yma ers oes.
Mae blynyddoedd, mae'n rhaid,
Ers iti ddod draw i gynhadledd y Blaid.
Dwi'n dy gofio di
Efo Gwynfor yn '73,
Yfed am y gore
Tan bump o'r gloch y bore,
O, la la la la.
Fe ddaeth colled i'th ran
Pan gollaist y ras i ferch fel Leanne.
Ac ers tro, gwyddem ni
Fod y Blaid yn rhy gul i rywun fel ti.
Ond ti'n cofio'r tro
Rôl ennill yn '74?
Meddwi'n dwll ar wisgi
A snogio Dafydd Wigley?
O, la la la.
CYTGAN
Y wers i bawb yw hyn: mae'n rhaid
Dy garu di dy hun cyn caru gwlad a phlaid.
Fe fu newid, myn Duw,
Ers inni gael merch fel hon wrth y llyw;
Fel y gweli dy hun,
Mae gwir angen bôls, mae gwir angen dyn.
Rwyt tithau wedi magu awch
Am ragor o rym, a diawch,
Mond drwy werthu dy enaid, yn awr, wele ti'n
Dywysog ar dy bobol,
O, la la la la.
BAND PRES
CYTGAN
Y wers i bawb yw hyn: mae'n rhaid
Dy garu di dy hun cyn caru gwlad a phlaid.
Y wers i bawb yw hyn: mae'n rhaid
Dy garu di dy hun cyn caru gwlad a phlaid.
Mae'r wên fach ar dy wyneb yn dweud
Ti'n dy garu di dy hun yn fwy na'th wlad a'th blaid.
Gruffudd Antur - 10
Bragdy’r Beirdd
Sgwennais hon yn ystod y cyfnod yr oeddwn wedi herwgipio Hywel Llywelyn o Gwmderi.
Wel shwmai’r hen ffrind
mae’n dda cael dy weld mewn cyffion fel hyn.
Dani ddim wedi cwrdd,
ond mae’n bwysig nad wyt ti’n rhedeg i ffwrdd.
Rwyt ti’n cofio nawr,
mai fi oedd ‘di aros 10 awr
wrth giatiau’r Βι¶ΉΤΌΕΔ
a thithau’n cerdded heibio heb sylwi.
O camgymeriad mawr.
Doedd neb yn sicr o’r gwir
paham fod gen i... ddarn o dy wallt,
a pham roedd ‘na staen
lipstig ar dy wydrau’n Deri, lle nad oedd o’r blaen.
Ac wyt ti’n cofio’r tro
ges di lythyr heb stamp arno fo?
Fy ngeiriau yn gelfyddyd,
ac fe’i rwbiais dan fy nghesail i hefyd.
O arogl chwys.
Mae Hyw yn sownd o dan fy nhΕ·,
fy nghariad yn y Cwm sydd bellach gyda mi.
Hyw sy’n sownd o dan fy nhΕ·,
fy nghariad at y Cwm sydd bellach gyda mi.
Do fe ddaeth newid mawr,
un noson arbennig, cyn toriad y wawr.
Nes i’n siwr nad oedd tyst,
wrth dorri i mewn a llyfu dy glust.
A minnau wedi magu blas,
nes ti ddeffro a throi yn gas.
Felly doedd genim dewis ond dy daro efo’r lamp,
a nawr ti yn fy selar tamp.
O Hywel fy nghâr.
Mae Hyw yn sownd o dan fy nhΕ·,
fy nghariad yn y Cwm sydd bellach gyda mi.
Hyw sy’n sownd o dan fy nhΕ·,
fy nghariad yn y Cwm sydd bellach gyda mi.
Anni LlΕ·n – 10
Llinell ar y Pryd – Es i yurt, ges i harten
Clera
Es i yurt, ges i harten
Heibio’r aeth Llywelyn Bren
0.5
Bragdy’r Beirdd
Es i yurt, ges i harten
nid yma mae’r Lolfa lên!
0.5
Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Twrw
Clera
Deffro
ac ymhél â thawelwch
sydd y tu hwnt i oriau.
Sawl tro y gofynnais,
pan fyddai’r dydd yn crawcian,
am lonydd fel hyn.
Ond mae stΕµr yn fy nistawrwydd i,
stΕµr fy meddwl fy hun
yn twrio mewn hen stormydd
er mwyn codi
darnau o ddifrod
a daw llygaid fy holl gawodydd
yn ôl
i syllu arnaf.
Estynnaf yn gyflym
am awr y brain a’r bore.
Mari George - 10
Clera
Yn y machlud drud yw trydariadau
Y Gymru ranedig. Mae'i marwnadau
Yn stΕµr diobaith. Ein hystrydebau
yw'n storïau 'twp' a'n stereoteipiau.
Yn niweidiog ein nodau fel adar
Yn rhwym i'n galar a'r rhimyn golau.
Ar awr lugoer fe ddaw'r lloer i'n llorio
A'n holl ffraeo'n wag. O'r gwyll ffyrnigo
Wna'r galw o hyd i'r Cymry glwydo.
Wedi Brexit fe wneir cocyn hitio
O adar sydd am heidio ar wifren
Neu'r hen, hen gangen sydd nawr yn gwingo.
Ni fedrwn heno ond ceisio cusan,
Anwesu amser ein golau simsan.
Dolennu gafael ein dwylo'n gyfan
I herio'r sêr a llawer tylluan.
Yn ara' deg daw gwawr o dân llachar.
SΕµn hyder adar, o'r nos, yn drydan.
Osian Rhys – 10
Englyn ar y pryd – VAR
Clera
VARadona
Faradona adeiniog, diolcha di,
Walch dewr, nad oedd hebog
yn yr aer pan oet ynghrog
Yn llaw yr Hollalluog.
9.5
Bragdy’r Beirdd
Heb fistar ar Mistar Mostyn y beirdd,
mae bai ymhob englyn.
Rhaid, Ceri, unioni hyn.
CAR rhown i feuryn
9.5