Cerddi Rownd 3
Trydargerdd: Cais am Drwydded
Y CΕµps
Cais i Trump am drwydded gwn
Ai set Star Wars i’r iard yn grwn
A’r holl Wild West, a’m llaw yn wn.
Ga’i drwydded eto’i fynd am sbri?
Bang-bang! Ti’n ded. Ti’n ded! Go fi!
Rocet Arwel Jones - 8
Tir Iarll
Gwnaf gais am drwydded reiffl,
rwy’n addfwyn iawn fy mryd,
ond os na chaf y drwydded
fe’ch saethaf chi i gyd.
Tudur Dylan – 8
Cwpled caeth yn cynnwys y talfyriad ‘C. I. D.’
Y CΕµps
Ar unwaith gallaf ffroeni
Os yw dyn yn C.I.D.
Iwan Bryn James – 8
Tir Iarll
Y CID sy’n deall:
Noddi beirdd sy’n fraint ddi-ball.
Emyr Davies – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae mannau anghysbell yng Nghymru’
Y CΕµps
‘Rôl parcio ger Brechfa i garu
Aeth fy llaw yn araf am fyny,
Ond cyn mynd ymhell
Ce’s slap heb ei gwell;
Mae mannau anghysbell yng Nghymru.
Iwan Bryn James – 8.5
Tir Iarll
Mae mannau anghysbell yng Nghymru
Sy ddim ar un map gallwch ‘brynu;
Cewch weld y ffyrdd culaf
A throellog o araf,
A’r satnav i’ch arwain i’r rheiny!
Emyr Davies - 8
Cywydd (rhwng 12 a 18 llinell): Palu
Y CΕµps
Yn gynnar, fel bob gwanwyn,
Draw y mae’n ei randir mwyn.
Dyn â’i raw yn dwyn yr ha’n
Agosach rhwng dwy gusan
Y gwlith a’r haul bendithiol,
Dyn crwm a’i hirlwm o’i ôl.
Ac o’i randir clyw gryndod
Y dref fawr ar odre’i fod.
Dyn a gwaed dadeni’n gwau’n
Drugarog drwy’i gyhyrau,
A dyn sy’n mesur y dydd
Uwch arafwch rhaw ufudd ...
Dyn diarth o dan garthen
Nad yw’n byw ond yn ei ben.
Fe’i gwêl ei hun drwy nef glaf-
Gan-niwl y gwanwyn olaf
O hirbell, a’i ysgerbwd,
Fel ei raw, yng ngafael rhwd.
Huw Meirion Edwards - 10
Tir Iarll
Â’r ddalen wag ar agor,
rwy’n ysu y daw geiriau’n stôr
ddiddiwedd o ddelweddau,
geiriau cur all ganu’r gwae
a rhoi awch fel llafn yr og
i gloddio cerdd gelwyddog
i fin fy mhensil tila,
ond ni ddônt, ac nid yw’n dda,
a pha iws? Ni wnaiff fy iaith
fyth ildio’r wylo’r eilwaith;
’mond daear Εµyr alar oes,
llinell y colli einioes
a chΕµyn cae a’i flodau’n floedd,
cΕµyn yr haf drwy’r canrifoedd;
mae miwsig oer maes y gad
yn gur rhy sur i’w siarad -
rhaid palu’r pridd anniddig
i eiriau’r briw ddod i’r brig.
Mererid Hopwood 10
Triban beddargraff plastrwr
Y CΕµps
Bu farw Clem y llynedd
Yn nhoilet cefn Dôl-annedd.
Fe blastrodd dros y drws am mas:
Peth cas yw gorfrwdfrydedd.
Geraint Williams – 8.5
Tir Iarll
Wrth blastro dros y pared
(Ei waith oedd werth ei weled)
Ni wyddai Wil pan drodd ei dro’d
Ei fod yn cicio’r bwced.
Emyr Davies – 8.5
Cân ysgafn: Yr Amddiffyniad
Y CΕµps
Dafydd Llywelyn rwy’n dod i’th Bencadlys
Fel cyn ‘ddrwgweithredwr’ yn dra gwyliadwrus,
Fe weli o chwilio drwy ffeiliau yr heddlu,
I mi ‘gamfihafio’ ar hyd a lled Cymru,
Ond, gwneuthum hynny, rhaid dweud, fwy nag unwaith,
Yng nghwmni afieithus dy dad yng nghyfraith.*
Ac oherwydd y cyswllt hwn rwyf yn erfyn
Ar i ti a’th blismyn heddiw f’amddiffyn;
F’amddiffyn rhag y pryfetach sy’n ffond
O ddweud, “Rwy’n Gymro i’r carn.” Ac yna daw’r “OND!”
A’r Saeson clên sy’n fy ngwneud i yn flin
Trwy holi “Daffit? What’s your name mean?”
Ar ôl fy ngwarchod rhag hyn o ddynionach,
Gofynnaf am un gymwynas bellach;
Mae’r Prince of Wales Bridge yn fy ngyrru yn wirion,
Ac fe hoffwn chwythu’r bont i’r entrychion.
Ond ar y noson y byddaf fi yn gwneud hynny
Tybed wnei di a’th heddweision daeru,
Mod i filltiroedd i ffwrdd o’r alanas
Yn tawel bendwmpian yn fy mhyjamas?
Dafydd Morgan Lewis – 9
Tir Iarll
Achos llys rhif un dau wyth dau –
Y bobol yn erbyn Alun Cairns.
“Eich anrhydedd, yn gyntaf a ga’ i
nodi fod gen i lawer o frêns,
a bod hyn o fudd i Gymru
yng nghabinet ein mam, Theresa
heibio’r aeth y byw ar lymru,
bellach â minnau’n right old geezer.
Mwynhau llu o freintiau newydd
mae ein gwlad fach o fewn Prydain Fawr,
fi yw’r adeiladwr pontydd
sy’n brexiteiddio ein draig yn awr.
Ond nid pawb sy’n gwerthfawrogi
y bu’n rhaid imi gael dwy law front.
Hoffai’r nashis weld fy nghrogi
A chlywais un yn fy ngalw’n bont!
Yn lle sôn am drydaneiddio
a byw yng nghyffion diwydiant dur,
mwynhewch yr holl brydaineiddio
a chewch fy ngalw i’n syr, cyn hir.”
Aneurin Karadog – 8.5
Ateb llinell ar y pryd: Dilys oedd y bleidlais hon
Y CΕµps
O gyfri yr holl son
Dilys oedd y bleidlais hon
Tir Iarll
Dad waharddiad Iwerddon
Dilys oedd y bleidlais hon
0.5
Telyneg (mewn mydr ac odl a heb fod dros 18 llinell): Sbectol
O gofio ymweliad, flynyddoedd yn ôl bellach, â gwersyll Majdanek yng Ngwlad PΕµyl
Y CΕµps
Cabanau pren yn llawn twmpathau clyd:
dilladau, ‘sgidiau plant a gwallt; a’r rhain,
yr holl sbectolau. A down ni yn stryd
o frwdfrydedd iach, lle bu baw a chwain
a diawledigrwydd tân yn llenwi’r llun.
Mae’n anodd, wrth eu miloedd, gweld y rhai
â’u gwisgodd unwaith, eto, bob yn un
yn symud trwy’r bwystfildod heb un bai.
Ond ar y cyrion, wedi’i gwaedu’n rhydd,
mae hon a’i ffrâm a chof ei gwydrau pΕµl
a welodd hyn i gyd, a’r colli ffydd;
a minnau yn fy nagrau’n ddall, y ffΕµl,
gan fod yr hyn a welodd hon mor fyw,
yr oes a welodd mwy na marw Duw.
Dafydd John Pritchard – 9.5
Tir Iarll
Mae rhai yn gweld yn agos
i ddarllen y geiriau mwyn
heb orfod gwisgo’r gwydrau
yn daclus ar y trwyn.
A gorfod eu cario wedyn
yn gynnes yn eu llaw
er mwyn troi o’r gweld fan yma
i edrych i’r fan draw.
Ond mae ambell un gwahanol
sy’n llwyddo i’w cario’n well,
os mae’i dalcen biau’r sbectol
mae hwnnw’n gweld yn bell.
Tudur Dylan – 9.5
Englyn: Gwaharddiad
Y CΕµps
I bobl Catalonia
Uwch y sen lledaenwch Sí – a’i droi’n waedd
Drwy neuaddau’r meistri
A bledodd â’u bwledi
Ryfyg eich dychymyg chi.
Huw Meirion Edwards – 9.5
Tir Iarll
Gwaharddiad ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn siop
Af â her yn fy arian i dalu
Wrth dil…ac rwy’n mymblan
Yn ddewr, heb feiddio herian:
Dyma iaith y newid mân.
Emyr Davies – 10