Cerddi Rownd 3
Trydargerdd: Crynodeb o Uchafbwyntiau Gêm
Caernarfon
Bydd un o'r naw-deg munud yn aros
Gareth, gydag ergyd
dros dy ben, sodraist y byd...
sefyll wnaeth Karius hefyd.
Llion Jones - 9
Y Tir Mawr
Ci Madryn Isa di mynd efo’r bel
Ffeit hanner amser a phawb ‘di cael Θ‡l
Canlyniad terfynol o Barc Noah Vale ?
9 yn nhŷr doctor a 4 yn jȇl.
Gareth Jôs - 9
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘lled’
Caernarfon
Llawn digon i farddoniaeth
yw hyd a lled cwpled caeth.
Llion Jones - 9
Y Tir Mawr
Nid ei aur ond lled ei wên
Yw ei oesol elusen.
Carys Parri – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth gerflun Lloyd George yng Nghaernarfon’
Caernarfon
Wrth gerflun Lloyd George yng Nghaernarfon
Fe welir gwylanod yn sgwadron
Yn dyfal gynllunio
Pa dwrist i'w fomio
Cyn deifio i fachu ei sglodion
Emlyn Gomer – 8.5
Y Tir Mawr
Mae hogan sy’n stelcian yn gyson
Wrth gerflun Lloyd George yng Nghaernarfon
Yn lwcus, wir dduw,
Nad ydi o’n fyw
I’w haslo am ryw bob un noson.
Carys Parri – 8.5
Cywydd (rhwng 12 a 18 llinell): Aderyn
Caernarfon
Mistêc oedd mentro o’r becws
â'm harlwy. Dros drothwy’r drws
gwylan lafoeriog wyliai:
gwylio’i phrae uwch toeau’r tai.
Fe sgrechiodd, fe ddeifiodd hi
am y caws - kamekasi
clep, clep, clep adenydd clau
Brychdyn-aidd leidr brechdanau!
Bwystfil pluog Hitchcock oedd:
radar yr adar ydoedd!
Daeth heidiau’r toeau at hon
a brysio i gipio’r briwsion.
Ifan Prys – 9.5
Y Tir Mawr
Colomen Neges Ewyllys Da ieuenctid Cymru
Wrth golomen rhof f'enw –
deryn uwch eu dyrnau nhw
yn y ffos, a Mai'n ei phig:
ehediad anhreuliedig
o dwll gwarchae'r hiraeaf
at degwch a heddwch haf.
Yn Yemen, lle cwymp bomiau
i'r USA ymfrasáu –
a ni Frits; yn ein ffafr hen
â Syria, bob nos oren;
yn Grenfell pob budrelwa –
lleisia di'n hewyllys da.
Trwy wawr hyll y mae'n troelli,
cigfrain ar ei hadain hi
'n bwrw gwawd, ond bore'r gwir
yw hwn, a'r byd a honnir
â'i phluen wen – daw'n plant ni
i'w ryddid wrth siarad drwyddi.
Myrddin ap Dafydd – 9.5
Triban beddargraff perchennog siop sglodion
Caernarfon
’Rôl sticio fforc i’w dalcen
a’i daenu efo halen
a’i lapio fo mewn papur llwyd
fe’i plannwyd fatha taten.
Ifan Prys – 9.5
Y Tir Mawr
Y ffrwydriad peiriant ffrio
A wnaeth i'w bysgod fflio;
Fe'i cafwyd yntau'n laswyrdd, dwtj,
Mewn twb pys slwtj yn Rio.
Huw Erith - 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yn Ôl ac Ymlaen
Caernarfon
Yn ôl fy nhad fe’m ganwyd
Ym Mlaen-plwyf yn yr ha’
Yn ôl ’n y dyddiau hynny
Ymlaen roedd popeth da.
Yn ôl ei droed y cerddais
Ymlaen trwy droeon byw
Yn olaf yn y teulu,
a byth ym mlaen y ciw.
Yn o lew oedd fy mywyd,
cyn imi ddod ymlaen,
Yn olffiwr proffesiynol
yn Costa Avante Sbaen.
Yn ôl y des i Brydain
ond ym mlaen y car ryw ddydd,
yn Oldyrshot neu rywle,
dioddefais ddolur rhydd.
Ac ers y diwrnod hwnnw
yn ôl a ’mlaen yr af
i’r tΕ· bach bob dau funud -
wps, ’sgiwsiwch fi, dwi’n glaf.
Geraint Lovgreen – 8.5
Y Tir Mawr
Roedd o ar ei draed ers oria, wedi codi ers y wawr
Ac yn edrych ar lasagne yn mynd heibio ar hyd llawr
Pwdin dolig basiodd nesa ..sosij rôl a sdrobri mΕµs
Oll yn dilyn y lasagne a’n diflanu dan y drws
Ac wrth graffu yn agosach gwelai Wil ‘Forgrugiaid Môn’
Wrthi’n brysur symud bwydiach rhai yn pwyso ‘mhell dros stôn
Roedd ei giarpad fel Camino’i Gompostella, Gogledd Sbaen
Efo miloedd yn ymuno ac yn rhuthro’n ôl a blaen
Dan chwydd wydr fe aeth deunaw â llond plat o gwstad Εµy
Cyn dychwelyd n’ôl yn waglaw efo’i mΘ‡ts i fachu mwy
Aeth ar ôl y tacla’ prysur dros wal gerrig drwy ddau bwll
Hyd at filltir o Drearddur ble ddiflano’ nhw i dwll
Wel y ffernols bach mileinig ! Gwagio’i bantri oedd eu nod
Byddai’n ffonio Heddlu’r Morgrug petai’r ffasiwn beth yn bod
Fe feddyliodd am eu trechu cyn cysidro maint y gwarth
Gan fod bob un wan yn brathu, a phob un yn gryf fel arth
Hyd y tΕ· gosododd gyllill. Efo drws ei lofft ar glo
Aeth a’r bwyd oedd ganddo’n weddill mewn i’w wely efo fo
Ac yn fan’no cafodd gysur ar hen noson ddigon mwll
Ond fe deffrodd ger Drearddur efo’r morgrug lawr y twll
Gareth Jôs - 9
Llinell ar y pryd: Anodd iawn yw ufuddhau
Caernarfon
“Callia a golcha’r ceilliau”
Anodd iawn yw ufuddhau
Y Tir Mawr
Cyn Pasg y daeth y tasgau
Anodd iawn yw ufuddhau
0.5
Telyneg: Bedydd
Caernarfon
Dwi’n sgeintio’r arch gan lyncu ’nagrau i,
a’m sgwyddau’n hyrddio’n fud i’r anthem hon.
Sawl tro cydganon ni Salm Dau-ddeg-tri,
cyn chwalu’r golled dros fy mhen yn don?
Ai ’ch ‘claddu yn y ffydd’ â boddfa iawn
o wylo llafar ’weddai’n well i chi?
Ai ‘dyfroedd tawel’ ddaw o’r ‘ffiol lawn’?
Oes ‘Haleliwia yn fy enaid i’?
Fe ddisychedwyd eich gwefusau crin
â llyfiad sbwng yn nyddiau ola’r daith:
- ai arllwys cân sy’n iawn mewn dyddiau blin,
heb obaith inni fyth liniaru’r graith?
Lle cafwyd bedydd gynt, a’ch braich yn gam,
mae’ch meibion heddiw’n ôl ’ma’n breichio’u mam.
Ifor ap Glyn – 10
Y Tir Mawr
Mae llawer o draddodiadau am Ffynnon Dudwen, Llandudwen yn LlΕ·n
Dan leuad Fai, mae blodau'r pren
Ar fwrlwm tawel Ffynnon Dudwen;
Medd hen, hen goel y ddraenen wen
Dan leuad Fai, mae blodau'r pren
Yn gariad na ddaw fyth i ben,
Mae'r geiriau yma'n fodrwy felen;
Dan leuad Fai, mae blodau'r pren
Ar gwlwm tawel Ffynnon Dudwen.
Ymhen dy dymor, down yn ôl
At gyffro'r dΕµr yn Ffynnon Dudwen;
Mae blodau'r ddraenen yn dy gôl
Ymhen dy dymor, down yn ôl
Yn dri i rannu nerth y siôl
A rhannu lloer y Garn a'r onnen;
Ymhen dy dymor, down yn ôl
At ddeffro'r dΕµr yn Ffynnon Dudwen.
Myrddin ap Dafydd – 9.5
Englyn: Maes
Caernarfon
Dadorchuddiwyd Plac ar y Maes yng Nghaernarfon i gofio streic Friction Dynamics ar 28 Mai eleni
O bell mae'n gastell i gyd, ond ar blac
draw ar blinth saif golud
ymdrech wyth-deg-chwech o hyd,
a saif ein hanes hefyd.
Llion Jones - 9.5
Y Tir Mawr
Awn at eu cytgan eto, – wynebwn
y clwb sy'n torheulo
'n ddoe'r cae; o ddaear y co'
am gweir, cawn rym i guro.
Myrddin ap Dafydd – 9.5