Cerddi Rownd 3
Trydargerdd: Cydnabyddiaeth neu Cydnabyddiaethau
Dros yr Aber
Diolch i bawb fu yno
tu ôl i’r foment hon:
rhieni, ffrindiau, athro,
a Duw ac Yncyl John.
Yn olaf, ac yn fwyaf un,
diolch hiwj i mi fy hun.
Iwan Rhys - 8
Gwylliaid y Llew Coch
Dros Yr Aber diolch ichi
Am y wers a roesoch inni
Bod stwff sâl a gwamal bennill
Weithiau’n ddigon da i ennill.
Ifan Bryn Du – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘sgriw’
Dros yr Aber
Iesu Grist, mae ambell sgriw
yn rhydd yng Nghymru heddiw.
Carwyn Eckley - 9
Gwylliaid y Llew Coch
Gocheled sgriw heb edau,
hoelion cam a pholyn cau.
Mari Lisa – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mor braf yw cael cwmni hen ffrindiau’
Dros yr Aber
Mor braf yw cael cwmni hen ffrindiau
i’ch dilyn drwy’r wlad i Dalyrnau.
Lle bynnag y boch
bydd criw y Llew Coch
yn aros amdanoch, rwy’n amau.
Iwan Rhys – 8.5
Gwylliaid y Llew Coch
Mor braf yw cael cwrdd â hen ffrindiau
Oedd llinnell arobryn y tasgau,
Fe hoffwn gytuno
Ond dwi wedi blino
Gweld eto yr un hen wynebau.
Rhiain Bebb – 8
Cywydd (rhwng 12 a 18 llinell): Papur
Dros yr Aber
Ym mhen y dre mae ’na dro
a lôn. Mi weli yno
yn eu heddiw difreuddwyd
rai bob awr â’u papur bwyd
ar y ffordd i hawlio’r ffa
a sbarion sleisys bara:
i Gibyn, mynd a gwybod
bob cam mai fama ma’i fod.
Eu hosgoi wnaf; haws gen i
arddel fy mhapur cerddi
a’r byd llên ger y Fenai;
haws dweud dim am stad o dai
wrth ddarllen, yn wên, fy narn
diofid dan do’r dafarn
yng Nghaernarfon fodlonach
berw’r beirdd yn y Bar Bach.
(*Cibyn – y stad ddiwydiannol lle mae Banc Bwyd Caernarfon. Y drws nesa iddi mae stad Sgubor Goch)
Rhys Iorwerth - 10
Gwylliaid y Llew Coch
Edrych yn ôl yw solas
hen glwyf; rhwng llinellau glas
dawn y gwyn yw dwyn i go'
ei luniau ar law heno.
Mae'r hen brint ar femrwn brau'n
welw, ond dwed gyfrolau.
Arni mae ôl cri; 'mhob craith
o'i chroen mae chwarae uniaith -
yr ôl wrth nôl am hoelion
i nhad; â'r llythyren hon -
chwarae fum, ac awch ar fys
yn lliwio godre'r llewys.
Heddiw mae ôl diweddar
lond y dweud a'i liwiau'n dar;
'does gen i'm cof, er gofyn,
Am y rhwd na’r mwyar hyn.
Tegwyn Pughe Jones – 9.5
Triban beddargraff perchennog siop ddillad
Dros yr Aber
O’i gownter, aed â’i gipio
i’r changing room a’i stripio,
a chyda’i dâp – a’i Farn – bydd Duw
yn dweud a yw yn ffitio.
Marged Tudur – 8.5
Gwylliaid y Llew Coch
'Rôl brecsut yn LlanBraDach
Aeth pethe tyn yn dynnach,
A does na'm hyd 'noed ddillad parch
Mewn arch i finne bellach.
Rhiain Bebb - 8
Cân ysgafn: Yr Ystafell Gefn
Yn ail rownd y Talwrn yn Nolwyddelan
Fe luniais i benillion dychan
Yn tynnu coes y beirdd o Fawddwy
Â'u "dau" dîm Talwrn (cerdd dda, gofiadwy).
Ond wedyn, dyma glywed mai'n erbyn y Llew
Y byddwn ni eto! Y tîm di-ben-drêw!
I geisio deall hirhoedledd y gelyn,
Es yno i ysbïo mewn wig mawr melyn.
Syfrdan y safodd y barman yn syn
(Chwarae teg, ro'n i yn edrych fel Arfon Wyn).
Wrth grwydro i'r cefn, mewn ystafell ddiffenestr
Gwelais olygfa frawychus a sinistr
Sef cant o wylliaid coch y Llew
Yn sefyll mewn cylch, lew yn llew,
Ac yn eu canol, roedd Pair y Dadeni!
Safai blew'r wig yn stond ar fy mhen i!
Ac wrth ymyl y Pair yn arwain y sioe
Mewn dim byd ond Wellies roedd Arwyn Groe.
Felly dyna sut maen nhw yma o hyd.
Jyst trueni nad ydyn nhw'n blwmin fud!
Iwan Rhys - 10
Gwylliaid y Llew Coch
Yn rownd gynta'r Talwrn fe'n curwyd ni'r Gwylliaid
Gan ryw egin-feirdd - tîm newydd ddyfodiaid.
Yn ail rownd y Talwrn aeth pethe yn waeth
Pan sgwenon nhw gân - iddyn nhw - roedd hi'n ffraeth.
Roedd gwawdio ein tylwyth yn hynod ddi-foes,
Cans brodyr i'w gilydd fydd Gwyllied pob oes.
Ac onid hen ffasiwn fu'r bardd gyda llëw
Wrth feddwl am odli 'Llew' efo 'drëw'.
A honni yn haerllug fod ein tactegau ni'n hyll
Grafodd waelod y gasgen er mwyn odli 'fo 'gwyll'.
Mae'n siwr iddynt ddathlu eu lwc ar y pryd
O'n curo ni eto, ond den ni yma o hyd.
Cywir. Gwyllied yw Gwyllied heb dafod mewn boch,
Does 'na ddim cogio ym mar y Llew Coch.
Mae croeso i ffrindie i'n ffatri creu beirdd
A hyd yn oed i chithe y Gog-yn-feirdd.
Ond rhag ofn i'r Dinasyddion eich gweld yn dynesu
Ewch rownd i'r drws cefen, ar ôl iddi d'wyllu.
Ac os byddwn ni'n ffodus i'ch curo chi heno
O leia, diolch byth, chwrddwn i ddim eto.
Rhiain Bebb – 9.5
Ateb Llinell ar y pryd: Pan o’n i dipyn yn iau
Dros yr Aber
Pan o’n i dipyn yn iau
I Fawddwy gallwn faddau
0.5
Gwylliaid y Llew Coch
Mor rhwydd oedd sythu ‘sgwyddau
Pan o’n i dipyn yn iau
0.5
Telyneg (mewn mydr ac odl a heb fod dros 18 llinell) Chwarae
Dros yr Aber
Bryd hynny, roedd yr haf yn hir,
y dyddiau ’nhraed eu sanau
a sΕµn piano’r tylwyth teg
i’w glywed dros y caeau.
A ninnau’n tri yn herio’r byd,
ei ddrain a’i ddanadl poethion,
nes deuai’r nos i’n hel i’r tΕ·
yn ras o fochau cochion.
Aeth tri yn ddau yn hiraeth haf;
mae’r dyddiau’n gwisgo clocsiau
a nodau piano’r tylwyth teg
sy’n siwrwd ar y cloddiau.
Marged Tudur - 10
Gwylliaid y Llew Coch
Un pnawn dydd Sul mi fynnodd Nel,
drwy stomp a stremp anaeddfed,
gael bod yn Flaidd, un mawr a chas -
aeth pawb ar ras i gwtsied.
Carlamais draw i’r stabal bach
a’m calon yn fy nghlustie.
Ymlithrodd Wyn i gut y ci,
aeth Ann i’r tΕ· i rywle.
’Mhen hir a hwyr, amheuwn i
a allai’r Nel-flaidd larpio,
a mentrais un o’m naw byw cath,
ac ambell frath, i bipo.
Ymfaglai Nel i ffwrdd o’r helm.
Roedd gwelltach yn danheddu’i
dwy blethen goch, a’i harddwrn wen
ym mhawen Wncwl Tomi.
Mari Lisa – 9.5
Englyn: Helfa Drysor
Dros yr Aber
Ar fap y nos mae posau cwrs y sêr
yn creu set cwestiynau,
a phenbleth dyn sy’n dwysáu
wedi clywed y cliwiau.
Rhys Iorwerth – 9.5
Gwylliaid y Llew Coch
Ei danfon at droed ei henfys – a wnes
Un waith; yn oedrannus
Ei chael yn laddar o chwys
 gronyn o aur graenus.
Tegwyn Pughe Jones – 9.5