Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Galwad am Gymorth

Gwylliaid y Llew Coch

Dwi yma’n nainti wan mewn lifft
yn sdyc ar ben fy hunan;
Mi fyddai’n nainti tΕµ fan hyn
os na ddowch yn ‘o fuan.

Rhiain Bebb - 9

Dros yr Aber

Mae hyn yn ddifrifol. Dwi’n styc yn y bog yn rhannu y loo roll â Jacob Rees-Mogg.

Rhys Iorwerth - 9

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd ‘wir yr’

Gwylliaid y Llew Coch

Teithio’r wyf ar gant a thri,
Wir, yrrr yrrr rwyf Ferrari.

Tegwyn Pughe Jones - 9

Dros yr Aber

Er i rai fy ngweld, wir yr,yr own yn tΕ·, Your Honour.

Iwan Rhys - 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe syllais yn hir dros yr aber’

Gwylliaid y Llew Coch

Mi syllais yn hir dros yr aber
A gweld gwraig y gw’nidog a’r ficer
Ar b’nawn eitha poeth
A’r ddau bron yn noeth,
Ond y ficer yn dal yn ei goler.

Rhiain Bebb – 9

Dros yr Aber

Wrth fwyta fy mhicnic o’m hamper
fe syllais yn hir dros yr aber,
yna glaniodd ’na fom
ar fy siocled Nom Nom
o din gwylan drom. Ond ti’n arfer.

Marged Tudur – 9

Cywydd: Pensaer

Gwylliaid y Llew Coch

O'r ffeil yma daw'r fflamau'n
ysgarlad drwy'r caead cau,
rhwygo'n dân er ei gau'n dynn;
bu'n neidio o bob nodyn
yn y cof tra'n ailbrofi'r
cladio crych: clywed eu cri'n
ôl fy llaw. Gwelaf eu llun
a'u hunllef yn fy ngynllun.
Am mai cri fu'r fflamau crog,
er deall, er dieuog
o'r ffeil yma daw'r fflamau'n
ysgarlad drwy'r caead cau.

Tegwyn Pughe Jones – 9

Dros yr Aber

 phensel dawel, bu’r dyn
yn hael â phob manylyn
wrth greu’r llun, wrth ddylunio
ei freuddwydion union o.
Lein wrth lein bu’n amlhau
yn frwd ei holl fwriadau,
a’r dudalen yn llenwi
yn drwch o blaniau di-ri.
Eto’r rhain aeth yn eu tro
yn rhithiau; yntau’n britho
uwch pensel dawel, a’r dyn
yn gadael ei ddesg wedyn.

Rhys Iorwerth – 9.5

Pennill ymson mewn parc solar

Gwylliaid y Llew Coch

Dim bwydo, na godro, na theilo,
Na chneifio, na thocio, na ffensio;
Dwi wedi arloesi
Mewn ffermio ffenestri
Daw haul cyn bo hir, dwi’n gobeithio.

Alun Cefne - 9

Dros yr Aber

Pan hoeliwyd y mil paneli, er troi
At yr haul am ynni,
Trydan heb ein hôl troed ni'n
Y dail, nid yw'n bodoli.

Iwan Rhys - 9

Cân ysgafn: Cadw SΕµn

Gwylliaid y Llew Coch

[i’w chanu ar Llwyn Onn]
Cadw amser cadw tafarn
Cadw golwg cadw draw
Cadw cyfri cadw’r newid
Cadw’r ffynnon rhag y baw
Cadw’r saeson yn Gibralta
Dyna job yr hen fabΕµn
Ond yr hyn sydd yn fy mhoeni
Lle dwi fod i gadw swn?

Cadw’r dorth ym mocs y bara
Cadw Mot yng nghut y ci
Cadw’r llestri yn y cwpwrdd
Cadw llygad arno chi
Cadw amser cadw rhythm
Cadw mlaen i fod yn llon
Cadw curiad at y diwedd
Cadw mlaen i ganu hon

Cadw tamed bach at eto
Cadw llawer llawer mwy
Cadw cwmni efo’r mawrion
Cadw draw o’r rhai a’r clwy
Cadw mewn a chadw allan -
Cadw’r ciathod ffwrdd o’r cΕµn
Ar ôl ffindio crefft cerdd-dantio
Fe gawn ninnau gadw sΕµn.

Rhiain Bebb ac Ifan Bryn Du – 8.5

Dros yr Aber

Ro'n i eisiau llonydd oddi wrthyn nhw
Felly es un dydd am drip i'r sΕµ.
Ond beth oedd yno'n cadw sΕµn?
Ffeit rhwng zebra a babΕµn.

Ar din yr ab fe ges lond bola
Felly es gyda'r nos i'r Neuadd Goffa.
Ond beth oedd yno'n cadw sΕµn?
Concerto Mozart i'r BasΕµn.

Fe es ben bore i ben mynydd
I geisio tamaid bach o lonydd.
Ond beth oedd yno'n cadw sΕµn?
Pedwar twrist mewn balΕµn.

Hwyliais i ganol y Môr Tawel
I ffeindio lle oedd, wel, yn dawel.
Ond beth oedd yno'n cadw sΕµn?
Corwynt mawr a dau deiffΕµn!

Fe'm chwythwyd i Annwn, y byd tanddaearol.
Meddyliais, mor braf fydd cael heddwch oesol.
Ond beth sydd yma'n cadw sΕµn?
Blincin cΕµn!

Iwan Rhys – 9

Llinell ar y pryd: Gore ceg y geg ar gau

Gwylliaid y Llew Coch

I ladd pob rhyw gelwyddau
Gore ceg y geg ar gau

0.5

Dros yr Aber

Gore ceg y geg ar gau
A gwir gei heb y geiriau

Telyneg: Bwrw’r Bai

Gwylliaid y Llew Coch

Y mae gennym ni feirch
yn codi’n ganrifoedd oed,
pedwar o bedwar lliw,
y pedwar a fu erioed.

Yna, fe ddaethost tithau,
yn newyddion y dydd,
dod â chwip o drydariadau,
rhoi swmbwl i’r drefn.

Ac aethpwyd, yn nhrwst esgidiau,
at y blychau a’r bythau
i dorri croes i ti,
ac i ninnau,
gan lapio dy law am yr awenau.

Pan fydd y meirch yn gweryrru o draw,
eu carnau’n codi cwmwl anial
ac yn sathru ar sandal fechan, fud,
a fydd yna ofyn
pwy agorodd ddrws y stabal?

Mari Lisa - 9

Dros yr Aber

Efallai mai sgrech y larwm
chwalodd ei freuddwyd o’n dipiau
a’i ddeffro’n ddryslyd
i lafn yr haul trwy ffenestr y llofft.
Efallai iddo fethu’n lân â gwasgu’r past
o war y tiwb Colgate
neu efallai i ddΕµr y gawod
fynd yn oer mwya’ sydyn.

Aeth,
a’i esgidiau lledr yn chwibanu dros garreg y drws,
ei sws glec yn stwmp sigarét ar ei boch
a sΕµn ei henw anwes yn sownd
fel llinyn o gig rhwng ei ddannedd.

Ond, efallai mai gweld platiau
neithiwr yn nΕµr budr y sinc wnaeth o,
meddyliodd hithau
wrth syllu ar y llestri
yn sêr ar lawr y gegin.

Marged Tudur – 9.5

Englyn: Cwrteisi

Gwylliaid y Llew Coch

Pan ddaw'r haf rhaid cnoi 'nhafod - ac yfed
ac yfed y wermod,
onibai fod ffordd yn bod
i oroesi heb rosod.

Gwion Aeron – 9.5

Dros yr Aber

(Ymweliad Brenhinol 18/1/18)
Wylit, wylit eto yw hi a’r dorf
yng Nghaerdydd yn profi
mai gwerin Meg a Harry
a brid heb newid Ε·m ni.

Rhys Iorwerth – 9.5

Gwylliaid y Llew Coch – 72.5

Dros yr Aber – 73.5