Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Crynodeb o Feirniadaeth

Criw’r Ship

Y fi ydi Ceri, y meuryn call,
a edrychodd ar dasg a sylwi ar wall.
Roedd proest a chamdreiglad a 3 hen draw,
ond i blesio’r cynhyrchydd mi gaiff o 9.

Sian Northey - 8

Y Tir Mawr

Di syniad a di grebwyll,
Di ddeall a di glem,
Rhoi perl o flaen y mochyn
A wnes i gyda’m gem.

Huw Erith – 8

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘urdd’

Criw’r Ship

Ar Faes yr Urdd, nid murddun
ond to iau yw'r erwau hyn.

Annes Glynn – 8.5

Y Tir Mawr

O Fôn hyd at y Fenni
Mae’r Urdd dros fy Nghymru i.

Carys Parri – 8.5

Englyn yn cynnwys y llinell 'mae hanner diferyn yn ddigon'.

Mae rhai beirdd yn chwysu diferion
Wrth weithio eu holl gynganeddion
I safon arobryn,
Ond yn achos y meuryn
Mae hanner diferyn yn ddigon.

Arwel Roberts - 8

Y Tir Mawr

Mae'r jin sydd dan gownter y Goron
Di'i wneud o grwyn tatws a moron;
At y rhwd sydd yn drwch
Ar waelod hen gwch
Mae hanner diferyn yn ddigon.

Myrddin ap Dafydd - 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn penfyr: Cloddio

Criw’r Ship

"Pwy wyf fi?" Mae apiau fil i'n harwain
drwy'n fforio a'n hymchwil,
yn hudo rhai rownd y rîl;

minnau eisiau'r hen ffasiwn – y turio
drwy'r twr o emosiwn.
Yno mae'n sawl haen, mi wn,

mewn amlenni'n gyfrin, gaeth – dalennau'n
dylunio carwriaeth
dau hwyliodd fy modolaeth.

Serch ifanc, gwres archifau yn wridog,
mor frwd eu cusanau! -
y côd iaith sy'n cydio dau.

O chwilio archaeoleg y galon
datgelwyd telyneg;
eu heneidiau'n ail-'hedeg.

Annes Glynn – 9.5

Y Tir Mawr

Mae'r digar acw'n aros yn ei gae,
Ei fraich gam yn dangos
Egni wedi'i ddal gan nos.

Cab gwag, a ffos heb ei hagor i'w phen,
Gwaith ffarm wedi'i hepgor;
Hyn o rwyg a dim rhagor.

Cae mud lle bu cymydog, – nos a dydd
Yn stond a diysgog
Yn y glaw ar ros gleiog.

Nos ydoedd ddaeth yn sydyn – a gorwel
Y gΕµr yn cau wedyn
A du heddiw ei dyddyn.

Ai ar y rhos mae'r ffarwél yn aros?
Dim ond peiriant tawel
Yn ateb gyda'i fetel.

Myrddin ap Dafydd – 10

Pennill Mawl neu Ddychan: Trefnwyr Cynadleddau

Criw’r Ship

'Rôl misoedd o ymbilio
a threfnu diwrnod llawn
rhoist ddeugain baj ar ddechrau’r dydd
a thê i bump 'n y pnawn

Nici Beech – 8.5

Y Tir Mawr

Ni, Llundain, sy'n galw cyfarfod dros ffarmwrs dwy wlad gytûn
I setlo ar rôl archfarchnadoedd, sydd hefyd bellach yn un;
Ar frig yr agenda mae gwarchod y canol mawr meddal llawn maeth –
Dan Unrhyw Fater Arall: pris cig a chaws a llaeth.

Carys Parri – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Sied

Criw’r Ship

Ers y Talwrn y tro dwaetha, mi ddaeth Cocni i fyw drws nesa,
I be sydd yn Clapham Villa ond be oedd yn Coed y Glyn.

Mae bob blydi dim gan Conrad, yn cynnwys polyn hyll i’r llygad
I chwifio fflag ei annwyl famwlad fatha ffenast goch a gwyn.

Yn llwyr lenwi gardd ei gartref, mae sied fawr sy’n peri hunllef –
“Ain’t a shed, mate, it’s a man-cave.” Does na’m lle i wair na chwyn.

Tebyg iawn yw hon i gapel, crib y to yn brwshio’r gorwel,
Ac mae’n rhaid bownsio’n uchel, uchel i weld Llanddwyn erbyn hyn.

O gael cip fach mewn drwy’r ffenest, gallwn weld yn glir mai gloddest
Oedd y thema, ac nid dirwest, ac nad oedd y pres yn brin.

Yn y sied, roedd bar a phympia’, dewis gwych o gwrw cartra’,
Cesus gwirod yn bentyrra, lagyr drafft a lagyr tun.

Yn y diwedd, ces wahoddiad mewn i gysegr sanctaidd Conrad
I glywed am ei dri ysgariad a’i “latest lady, luscious Lynn”.

Wn i ddim os all o sgwennu, dio’n bendant ddim yn cynganeddu,
Ond mae’n sgut am gyflythrennu. Deud y gwir, o’n i’n reit syn.

Teg dweud ei fod yn Ewrosgeptig, yn erbyn lleiafrifoedd ethnig,
Yn bell o fod yn Εµr bonheddig, ei ben yn foel a’i fest yn dynn.

Naw wfft os nad ‘dio yn barddoni, mae ‘nghalon fach i’n saff o lonni
Bob tro mae potel yn llaw Connie yn cynnig arllwys mwy o jin.

Arwel Roberts - 9

Y Tir Mawr

R’ôl ch’lota drwy’r dydd am gamp bed, “Dwi wedi cael digon” medd Ned
“Sna’m posib rhoi ‘macha ar ddim oll yn fa’ma, dwi’n meddwl y coda i sied”

Roedd Nedw yn hordar o fri. Nid un cwt oedd ganddo ond tri
Pob un wedi’w sdwffio’n llawn dop hyd at fysdio ‘fo hen betha’ bildio di-ri.

O grombil y cytia mewn chwinc daeth coediach a hen shitia’ sinc,
sȇt fawr a ffenestri o wyth o gapeli, paent bitsh a galwyni o binc.

Aeth ati fel Christopher Wren. Symudodd dunelli o bren
A thoc cododd deml , anferthol ond syml, a gola’ bach coch ar ei phen

‘Yr Hafod’ fu ‘rioed yn le mawr, ond w’annwl fe dyfodd yn awr
Bu’n fawr fwy na chadach ond gwelwyd o bellach o’r gofod wrth edrach i lawr.

Y sied – doedd hi ddim yn un dlos, a’i gola’ yn fwrn ar Dre’r Rhos
Rhag ofn i rhyw asshole o’r Θ‡r ffors brenhinol fynd iddi yng nghanol y nos

O’r sied ogoneddus o fawr does dim byd i’w weled yn awr
Oherwydd doedd ganddo ddim bellach i’w hordio ac felly fe’i tynnodd i lawr

Gareth Jôs - 9.5

Llinell ar y pryd: Dewi Llwyd sy’n deall hyn

Criw’r Ship

Nid soch yw llais pob mochyn
Dewi Llwyd sy’n deall hyn

0.5

Y Tir Mawr

Mochel rhag perl i’r mochyn
Dewi Llwyd sy’n deall hyn

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pwysau

Er na chawsant, yn y bwlch rhwng bomiau,
barchusrwydd y bais bren,
na chwaith garreg a rhifau’n gain,
na marwnad, nag emyn, na blodau,
na the, na sgwrs, na ffrindiau’n
codi peint a mynd i hwyl,
mae ar bob un,
ble bynnag mae,
bwys o bridd
a dagrau.

Sian Northey - 10

Y Tir Mawr

Mae lifft y neuadd yn griddfan
dan faich y llwyth pentymor.

Trysorau'r cyw'n dod adref
i nyth yr haf.

Mae angen dau ohonom
i drin y domen
o fagiau duon.

Rwyf innau'n crwydro
at adael y ddinas hon
ugain mlynedd yn ôl,
tithau'n bluen mewn basged
rhy drom i un.

Myrddin ap Dafydd - 10

Englyn yn cynnwys enw unrhyw anifail

Criw’r Ship

Gweithio cerdd

Llwynog o haul: llun o gân yn treio,
yn troi yn ei unfan
nes daw glaw â chynfas glân,
a'r rhodd gaf yw cerdd gyfan.

Annes Glynn – 9.5

Y Tir Mawr

Traed simsan sydd o dana'i; – y mae ofn
y cae mawr reit drwydda'i
a niwl yw'r hyn a wela'i.
Be wêl Mam yw ebol Mai.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Criw’r Ship – 71.5
Y Tir Mawr - 73