Cerddi Rownd 2
Trydargerdd: Neges i Atgoffa
Y Ffoaduriaid
Rwy’n trydar llun o fy nghinio
y gΕµr, y babi a’r ci
er mwyn cael atgoffa pawb arall
mor berffaith yw ‘mywyd bach i.
Gwennan Evans - 8
Glannau Teifi
Nodyn oddi wrth Carwyn i’w olynydd
Bydd sarrug wrth bob Tori glas.
Wrth UKIP cei fod ‘run mor gas.
Kirsty fechan sydd fel y gwynt
Ond Dafydd Êl sy’n werth pob punt.
Elfed Evans – 8
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘llym’ neu ‘llem’
Y Ffoaduriaid
Ryw adeg, gwell, mi gredem,
hogi llais na'r gyllell lem.
Llyr Gwyn Lewis - 9
Glannau Teifi
Yn Oernant gyda’r hwyrnos,
Awel lem sy ar y clos.
Elfed Evans – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae tipyn o steil gan Landeilo’
Y Ffoaduriaid
Mae tipyn o steil gan Landeilo,
wel, dyna a gredwn tan heno.
Bu Gruff, fi a Cash
bron iawn â chael crash
pan welsom Huw Ffash yn torheulo.
Gwennan Evans – 8.5
Glannau Teifi
Mae yna ryw gynnwrf ‘ma heno,
Cynghanedd mewn limrig yn trigo,
Siwts croen crocodeil,
Selebs sy’n werth peil –
Mae tipyn o steil gan Landeilo.
Terwyn Tomos-8.5
Cerdd ar fesur yr englyn penfyr: Gwareiddiad
Y Ffoaduriaid
Dôi rhyw long drwy awel ha’ i’w cludo,
o’u caledi, yma:
dod i ganfod eu gwynfa.
Siwtiau a hetiau heb ffitio, cesys
a hancesi’n chwifio
eu llwybyr aur i well bro;
a rhoed gwaith i’w pryd a’u gwedd, a harbwr
i’w derbyn, drwy’n dannedd
melynion. Saith deg mlynedd
yn ôl, a sylweddolent nad i wyrth
o wlad wâr yr hwylient?
Drwy’r niwl o draw, ni welent
nad oedd ’ma wynfyd iddynt, ond y glaw’n
dod i gloi amdanynt,
a thir gwag, a rhuthr y gwynt.
LlΕ·r Gwyn Lewis - 9.5
Glannau Teifi
Cofio Waldo
Rwy’n cymryd un funud fach yn y Dail,
A dod at gyfrinach;
Geiriau heb eu rhagorach.
Mynd i’w gwrdd, ond mewn dau gae ni welaf
Ond olion y gwarchae,
Ac adar yn cyd-chwarae.
Adar dur, adar ar dân i lywio,
I lawio cyflafan;
Adar cyrff, nid adar cân.
Daw yna gân sy’n dwyn i gof obaith
Rhag y rhaib; troi’n angof
Y rheg yn nwfn yr ogof.
O’r gwlith sy’n iro llawr gwlad, daw golau,
Daw golud ei gennad:
Ei rodd i bob gwareiddiad.
Terwyn Tomos – 9
Pennill Mawl neu Ddychan: Cefnogwyr
Y Ffoaduriaid
Cefnogwyr Marathon Llundain
Er i gyllell gaeaf fflachio’i llafn
daeth rhain â haul a chariad lond eu bron
gan sychu dagrau’r misoedd fesul dafn
a hawlio unwaith eto’r ddinas hon.
Casia Wiliam - 9
Glannau Teifi
Mae’n braf eu gweld nhw yma
Yn gefen cadarn i’r tîm,
Ac rwy’n falch eu bod wedi cofio
Prynu, i’r Meuryn, ‘ice cream’.
Y maen nhw’n ein cymeradwyo
Beth bynnag rΕ·’n ni’n ddweud,
Ond aros yn fud neu dwt-twtian
Bob peth mae’r Ffoaduriaid yn ’neud.
Gobeithio ar ddiwedd y noson,
Os bydd hi’n ornest deit,
Na fyddan nhw, fel y tro diwetha,
Yn mynd ati i ddechre ffeit!
Terwyn Tomos – 9
Cân ysgafn: Enwau Lleoedd
Y Ffoaduriaid
Mae credu yn yr ‘Awen’ erbyn hyn yn reit hen ffash,
os ti’n safi, mae barddoni nawr yn bennaf am y cash.
Mae breindal cerddi Talwrn yn dipyn bach o sham,
cic yn din a tΕµ pownd ffiffti ac efallai bechdan Jam.
Nei ac Eurig aeth yn corporate (neu ‘Aneirug’ os oes raid)
gath y ffernols hanner milwn am wneud adfyrt Nation-wide!
Mae eu cyfoeth mor sylweddol bod nhw werth, os gwir y gair
tua pedwar Hywel Gwynfryn (neu neu bron un Angharad Mair.)
Mae Eurig nawr yn sgwennu propoganda i’r Polîs,
dwi’m yn siwr os ydio’n bosib...ond dwi’n fodlon suddo’n is!
Os caf nawdd gan ‘rhen Dywysog, sgwennaf folawd hir i’w bont
heb gyfeirio at Lywelyn na defnyddio odl front.
Dwi’m yn ffysi, molaf Putin, molaf Trump neu Mici Plwm
mi alwai Rhyl yn nefoedd (ac mae fanno’n eitha llwm).
Os yw’ch tref ag enw gwirion a di mynd yn reit ddi-raen,
(Da chi’n gwrando Plwmp a Brymbo ac wrth gwrs Penisarwaun?)
mi a sgwennaf awdlau moliant fydd yn rhoi chi ar y map,
rydwi’n addo mod i’n rhatach (ac yn well) nag Ifor ap.
Rhof heibo’r canu dychan a’r englynion trist llawn ing.
Gwerthaf f’enaid fel Aneurig oll dan ganu, ‘Cash is King’!
Gruffudd Owen - 9
Glannau Teifi
Fe adewais i Gymru i ddechre crwsâd
I ledaenu’r heniaith tu hwnt i’r hen wlad.
Fe setlais yn Somerset, sy’n sir ddigon braf,
A newidiais ei henw i ‘Machlud Haf’.
I dref Bridgewater, sy nawr yn ‘Pont-ddΕµr’,
Yr es i i fyw, gan feddwl yn siΕµr
Y gallwn newid holl enwau’r lle
I iaith ddealladwy a chall, onide?
Aeth ‘Coleridge Cottage’ yn ‘Esgair Glo’,
‘Bason Bridge’ yn ‘Pont Ddysgl’, ‘Fell Turn’ yn ‘Cwymp Tro’.
Fe drodd ‘Wills Neck’ yn ‘Gwegil Wili’
‘Mount Street’ yn ‘Mwntstryd’, ‘Cossington’ yn ‘Trecosi’.
I ‘Melin Bônbont’ y trodd ‘Stembridge Mill’
‘Hel Sarnu’ yn awr yw enw ‘Huntspill’;
‘Tre-pawen’ yw ‘Pawlett’, ‘Lower Lakes’ yw ‘Y Llyn’
A ‘Heol yr Ystlum’ yw ‘Bath Road’ erbyn hyn.
Yr oeddwn i’n i’n disgwyl cael ffws a ffair
Wrth newid yr enwau, ond na – dim un gair;
Er ‘mod i’n fewnfudwr, fe ges i rwydd hynt
I waredu o’r ardal yr enwau fu gynt.
Terwyn Tomos – 8.5
Llinell ar y pryd: Nid taeog Afon Tywi
Y Ffoaduriaid
Er mai llwyd yw grym ei lli
Nid taeog Afon Tywi
0.5
Glannau Teifi
Nid taeog Afon Tywi
Mud yw’r hud sydd ynddi hi
Telyneg: Lle Tân
Y Ffoaduriaid
Doedd dim amser da i ddweud
ond gan i ti wyro ar dy gwrcwd
a thorri’r newydd
wrth wthio’r fatsien
rhwng y priciau a’r papur
datgelu’r gwir yn y mwg taro
ac yngan ei henw
wrth i’r fflamau lyfu’r glo
pan ddaw pawb yma
â’u tanllwyth o gysur
af allan i’r ardd
gan adael fy nghôt ar y bachyn
i drio oeri’r hyn
sy’n llosgi pob atom
o fy mod.
Casia Wiliam – 9.5
Glannau Teifi
Lle tân Mari Berllan Biter
Wrth gerdded drwy y goedwig
Un noson gyda’r gwyll,
A’r llwybr yn ymdroelli
At sgerbwd clwyd fach hyll,
Fe welais wedyn ddim ond drain
Yn llenwi’r lle a chuddio’r llain.
Wrth gamu yn ofalus
Yn ymyl Afon Arth
Synhwyrais ysgyfarnog
Yn syllu drwy y tarth,
A theimlais ias hen gastiau gynt
A siffrwd swynion ar y gwynt.
Ond yna, dyna lannerch
A chragen wag o dΕ·,
A mantell rhyw gysgodion
Yn dawnsio oddi fry,
Ac yno’n aros, hen le tân
Yn dal i herio ’n sΕµn y frân.
Nerys Llywelyn Davies - 9
Englyn: Yr Odliadur yn Ddeugain Oed
Y Ffoaduriaid
Yn gaeth i’r dalennau gwyn, - trio gair
fel troi goriad cyndyn
ond o’i glywed daw wedyn
air i ryddhau’r gerdd ei hun.
Gruffudd Owen - 9
Glannau Teifi
Wrth law dros y degawdau, - pob stacan
Mewn ydlan o odlau,
A dail hwn sy'n dal i hau
Ei wyddor yn gywyddau.
Nia Llywelyn – 8.5