Cerddi Rownd 1
Trydargerdd – hysbyseb ar gyfer gwarchodwr/wraig (babysitter)
Glannau Teifi
Os blond a gweddol siapus
Mi fyddwn i'n reit hapus
Ond gorau fyth (cei waith yn syth)
Os medri newid nappies.
Elfed Evans - 8
Y Diwc
Nid chwarae plant yw’r gorchwyl,
ni’n byw yn ninas Prâg
ond chwiliwn ni am rywun
sy’n rhugl yn Gymra’g.
Martin Huws – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dim’
Glannau Teifi
Weithiau y weithred ddoetha’
Yw dweud dim am dy waith da.
Geraint Volk – 9.5
Y Diwc
Eistedd yn llawn diflastod
Yw byw a dim byd yn bod.
Dewi Rhisiart – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell “Er ‘mod i o blaid hawliau dynol”
Glannau Teifi
Er mod i o blaid hawliau dynol
Nid felly mewn cyffwrdd corfforol;
Rho'th law ar fy nhin,
Fe gei di yn flin
Ben-glin mewn man go ddirdynnol!
Nia Llewellyn – 8.5
Y Diwc
Er mod i o blaid hawliau dynol
A hawliau i fen’wod rhesymol,
I’r bwji a’r ci
A phawb yn tΕ· ni,
Mae hawliau darlledu’n wahanol.
Dewi Rhisiart – 8
Cywydd : Tîm
Glannau Teifi
Daw’r gwaith â rhyw bedwar gΕµr
I’r adwy, pedwar rhedwr;
Gwibwyr trosglwyddo gobaith
Yn rhannu nod, rhannu iaith
Sy’n gefnlen i’n hangen ni
Yn y ras i oroesi.
I’r tîm gael bob chwarae teg,
Rhaid i bob un sy’n rhedeg,
Heb allu mynd yn bellach,
Yn fodlon, roi’r baton bach
Yn llwyth sy’n esmwyth i’r neb
A ranno’r un taerineb.
Terwyn Tomos - 9
Y Diwc
Arwrol yw’n brawdoliaeth
Yn ein ffrwd o ‘banter’ ffraeth.
Celu poen er mwyn cael parch
A gafael wrth longyfarch.
Daliwn i ysbrydoli
Gan mai nawr yw ein hawr ni,
Ac erfyn ar i’r garfan,
Yn uned rhwydd, wneud eu rhan.
Yna fin nos, cofio wnaf –
Uned, mor gre’ a’i gwanaf.
Dewi Rhisiart - 8
Pennill ymson wrth yrru am y ddinas
Glannau Teifi
Mae’r togs yn ddiogel yn y gist.
Pob pennill wedi’i ‘llnau.
Pa hwyliau heno ar y reff?
Sut gyflwr sydd i’r cae?
Elfed Evans - 8
Y Diwc
Shwd yffarn maen nhw’n erfyn
fy mod mewn hwyliau da?
Mae Tommo ar y radio
a’r dagfa’n hir. O na ...
Martin Huws – 8.5
Cân ysgafn: Y Feddygfa
Glannau Teifi
Rwy'n cyrraedd yn y bore yn barod am fy ngwaith
I weld y ciw'n ymgynnull, a hithau'n ddim ond saith.
I ddechrau rhof flaenoriaeth i'r holl achosion brys,
Y cleisiau a'r codymau a datgymaliad bys,
Y bilsen a anghofiwyd ( y ci oedd wedi'i dwyn),
Y pishyn punt a lyncwyd a'r bysen lan y trwyn.
Mae gan flaenwr y tîm rygbi gabetsen yn lle clust
A dau ag anafiadau cas 'rôl colli gêm o chwist.
Mae Johnny bach yn blastar o'i ben i'w draed â'r frech,
A Davies y gweinidog yn methu torri.... gwynt.
Ac ar ôl amser coffi, a'r ciw yn mynd yn hwy,
Daw'r cwynion mwy cyffredin sy'n plagio yr holl blwy'.
Mae Mari'n boeth o flushes, yn methu cysgu'r nos,
A'i gΕµr yn diodde'r Man-flu - eleni'r pumed dos.
Rwy'n ceisio cydymdeimlo â'r seithfed cefen tost
A golchi cΕµyr o glustiau fu gynt yn fyddar post.
Wrth wynebu arolygiad mae'r athrawon oll dan stress
Ac 'rôl plentyn afreolus mae'r stafell yn un mess.
Rwyf wedi blino erbyn hyn a'r lle yn dal yn llawn.
Fe ddaw yn amser cinio chwap, ac yna - gwaith prynhawn!
Nia Llewelyn – 8.5
Y Diwc
Roedd gen i bloryn aeddfed ar ymyl boch fy nhîn
Ac nid oedd dim amdani ond mynd i gael ei drin.
Mae cownter croeso ffurfiol i’m cyfarch pan yn dost
Ond nid oes gwen na ch’nhesrwydd – daw hynny’n ormod o gost;
Cam astrus yw cael mynediad i’r gwybodusion rai
Mae Doctor G’rot yn brysur tan ddeufis i ddydd Iau!
Rhaid troi am adre’n union i ddefnyddio’r llinell frys
A deialu gant o weithiau nes bod poen yn awr yn fy mys.
Y llinell ffôn sy’n brysur, mae fel torri i mewn i ‘vault’
Ac wedi aros oriau daw llais, mae hynny’n dipyn o jolt!
Y llais saetha res o gwestiynau, ond beth yw’r ateb iawn -
Rhif chwech i ordro tabledi neu rif naw am syrjeri’r pnawn?
“Clinig babis sy’ pnawn ‘ma” medd unben, rhaid i mi ffonio’n ôl,
Mae fel cracio croesair cryptig, af yn awr drwy’r un rig-ma-rôl!
Mae’n enigma sut ces i apwyntiad, ond fe’m galwyd at Doctor MagΕµr;
Fe’m corniwyd o’m corun i’m sawdl a gofyn am sampl o ddΕµr,
Recordiodd fy mhwysau a’m pwysedd ac yna cymerodd fy ngwres
Cyn datgan ei farn am fy mhloryn a’i bryder am fy iechyd a’m lles.
Achos does gen i ddim ploryn bellach ar ymyl boch fy nhîn
Dim ond pwysau gwaed sy’n rhy uchel, a hwnnw sy’n cael ei drin!!
Mererid Williams - 8.5
Ateb llinell ar y pryd: Pa ateb a rydd Putin
Glannau Teifi
Pa ateb a rydd Putin
Dyma trobwll, tell eich tîn
0.5
Y Diwc
Pa ateb a rydd Putin
Ffefryn sy’n dynn yn ei dîn
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pentwr
Glannau Teifi
Rhaid clirio'r cwpwrdd dillad,
Didoli bob yn ail
Y topiau hafaidd lliwgar
O wyliau yn yr haul,
A'r siaced wlanen gynnes,
Siwmperi meddal clên,
Ffrog laes a siwt briodas,
Maent wedi mynd yn hen.
Ond yn y cornel pellaf
Mae un dilledyn cudd
Ag arno staen barhaol
Ac ambell fotwm rhydd.
Rwy'n gwelwi'n chwil am ennyd
A'm byd yn stopio'n syn;
Ail-osod wnaf yr haenau
A chau y drws yn dynn.
Nia Llewelyn - 9
Y Diwc
Pan oeddwn gartref, bob dydd Llun
Ai mam a’m dillad bryntion ni
I’w golchi’n lân mewn twba sinc
A’r trochion lynai wrth ei breichiau hi.
Ac wedi gwaith y gwynt a’r haul
A’u rhoi mewn basged ddarn wrth ddarn,
Fe eilwaith godai’r gwisgoedd crimpiog ma’s
Gan stilo’r crychau’n gelfydd gyda’r harn.
Os oeddwn angen tei, neu hances wen,
Neu ddillad parch, neu grys i fynd i’r ddawns,
Fe fyddai’r rhain i gyd yn ôl eu trefn
Ar silffoedd cynnes yn y cwpwrdd, siawns.
Â’i eiddo oll mewn cwdyn Tesco crych
A’r eira’n bygwth o’r cymylau du,
Yn ffenest oer y siop roedd rhith o wên
A rhywun, rhywle’n twtio’r tΕ·.
Gwilym Williams – 9
Englyn: Crefft
Glannau Teifi
Crefft ( Tad-cu)
Pâr cymen o'i ganwyllbrennau - o'r Somme
Nawr sydd yn drysorau,
Yn brawf, er ei iechyd brau,
O erfyn trech nag arfau.
Nia Llewelyn – 9.5
Y Diwc
(Van Gogh)
Archif o liwiau ardderchog o aur
Ag oren godidog;
Er gwychder ei nos serog
Gwaglaw’r llaw ddaeth cymaint llog.
Gwilym Williams – 8.5