Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Hysbyseb ar gyfer Gemau’r Gymanwlad
Hiraethog
Traeth Euraid: rhaid parêdio doniau gwâr
dynion gwyn di-guro.
Heb ’r un Arab nag Abo,
yn ddi-fraw, dowch draw am dro.
Eifion Lloyd Jones – 8.5
Y Tir Mawr
Emoji gwên a chusan ar bob boch:
Pob croeso, Gymry, i chwifio eich Draig Goch:
Does dim yn wleidyddol amdani hi
Yma â'r Goron yn dal mewn bri.
Myrddin ap Dafydd – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘clic’
Hiraethog
Ar ôl nosi, clic y clo
Sy’n sydyn ei arswydo.
Glyn Jones - 8
Y Tir Mawr
Wedi “clic”, daw ystictod:
Nid i’w fam mae’r text i fod.
Carys Parri – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell: Anghofiais i dsiecio’r dyddiadur
Hiraethog
Anghofiais i dsiecio’r dyddiadur
oherwydd fy mod i mor brysur:
dwi yn rwla o hyd
yn cyflawni dim byd -
sy’n hyfryd, neu ’faswn i’n segur.
Gwenan Prysor – 8.5
Y Tir Mawr
Mae’n ginio blynyddol y Brodyr
Anghofiais i jecio’r dyddiadur
Yr oll sydd gen i
Ydy tin o Jic Pî
Mae ‘na gant dau ddeg tri yn y ffreutur
Gareth Jôs - 9
Cywydd: Ymgyrch
Hiraethog
Dyn wyf am gadw’n ifanc;
meddu llam a meddwl llanc.
Felly ces ffics Elixir,
a bath mwd yn boeth, am hir;
stwytho, cwyro’r cyhyrau; -
nofio wnes fy hun yn iau.
Yoga brwd, a magu brôn,
a secs, a liposycsion,
i wneud hync... Ond gwn, tu ôl
y llun t-cut allanol
o’r cawr â’i nerth a’r croen iach,
rwyf yn refio’n arafach.
Rhys Dafis - 9
Y Tir Mawr
(i David Attenborough)
Nid yw gΕµr sy'n naw deg un
yn ei bethau'n benboethyn
oni bai fod sail bywyd
heddiw yn llaw baw y byd.
Agorodd lygaid gwirion
i gyflwr y dΕµr a'r don,
a chwerwder rhodd aderyn
o garthion i'w gywion gwyn.
Yn nhai grym, cwyd geiriau hwn
gywilydd, ond mwy, gwelwn
mai wrth angor mewn môr mae'n
wenwyn ein plastig ninnau.
Myrddin ap Dafydd – 9
Pennill ymson llygoden Ffrengig
Hiraethog
Bu’n fordaith braf ar Brutania
cyn sôn am y mynydd iâ;
doedd Dave ddim ’di’i weld o’n dwad,
er bod Nigel yn bygwth Ta-ta!
Teresa a darodd y Brecshit
tra bo Boris yn gwenu’n slei;
ond dwi am nofio’n ôl adra
cyn i’r llong ’ma suddo’n y cei.
Eifion Lloyd Jones - 8
Y Tir Mawr
Pa, neith riw ddarn o gaws o LΕ·n
Ddim mo fy nal i neno’r dyn,
Mae angen blas ru’n fath a Bri(e)
Neu Rocfort i fy nhemtio i,
Na, neith tyddynwr ai gaws crap
Byth ddenu connoisseur i’w drap.
Huw Erith – 8.5
Cân ysgafn: ‘Yr Eira Mawr’
Hiraethog
Eira mân yn eira mawr:
Cwrlid gwyn ar hyd y llawr;
Mam yn llithro ar ei thîn,
Pawb yn tΕ· yn ista’n flin.
Mae’n dawel a dim cynnwrf ’chwaith -
Dim ysgol; methu mynd i’r gwaith.
Sut all bywyd fynd ymlaen
Heb ddim wi-fi? Diawl o straen.
Methu mynd, does neb a ddaw;
Codi saith a gwely naw.
Mewn carchar oer rhaid cadw’n glyd
A derbyn pa mor wyn ein byd.
A’r trydan wedi mynd i ffwrdd,
Rhaid chwarae cardiau wrth y bwrdd;
Siarad, sgwrsio a chwerthin braf -
Atgofion melys hirddydd haf.
Unwaith cilia’r cwrlid gwyn,
Fe ddown yn ôl i drefn ar hyn,
A chawn roi’r gorau i fyw’n gytûn -
Caiff pawb fynd ’nôl i’w fyd ei hun.
Gwenan Prysor - 9
Y Tir Mawr
Ni fu ‘rioed y ffasiwn eira. Plu anferthol o Alaska oedd ‘di llywchio dros goedlana’ ffyrdd a thai
Yr oedd Nel a Bruce yn swatio yn eu gwlau ers amser cinio a’n cysidro aros yno tan fis Mai
Roedd hi wrthi’n cosi’r hogyn yna cofiodd Nel yn sydyn nad oedd gwallt heb son am locsyn clust gan Bruce
A beth welai’r delynores ond ei gΕµr mewn trwmgwsg cynnes ac yn rhochian yn ei fynwes roedd ‘na FΕµs
O fewn ugain llinell gryno fedrai’m dechrae lled esbonio sut fod MΕµs ‘di cyrraedd yno i Gwm y Glo
Ac os ydych chi’n twt twtio neu’n fy ngrhedu fi neu beidio roedd o’n FΕµs ac roedd o yno. Dyna fo.
Tra bo’r MΕµs yn chwyrnu cysgu sleifiodd Nel i’r cefn o’r gwely i nol rhaff reit gryf i’w glymu fo’n ddi oed
Roedd hi’n un o’r Geids erstalwm ac yn giamsdar am wneud cwlwm ac aeth ati’n syth i rwymo’i bedair troed
Ond pan ddeffrodd o mewn carchar dyma’r MΕµs yn colli’i dempar D’oedd y ngwas i ddim di arfar bod yn sownd
Wrth roi sbonc o’r gwely’n sydyn aeth ei ben a’i gyrn drwy’r delyn a charlamodd drwy’r holl dyddyn rownd a rownd
Fe fu’r creadur dwl am oria’n crafu paent a malu’r lloria tra bo Bruce yn trio’i ora glas i’w ddal
I gyfeiliant troi cypyrdda’ a chymysgedd od o noda’ wrth i’r delyn gnocio tylla’ ym mhob wal
O’r holl greaduriaid corniog nid y MΕµs yw’r mwya’ peniog, fe gynigwyd iddo grempog efo jam
Cyn rhoi iddo’r ffasiwn swadan ar ei frestrwyn efo’r ‘Guardian’Aeth i’r nefoedd heb ddarogan sut na pham
Aeth ei ben, ei gyrn a’i glustia’ ar y wal er mwyn dal hetia’ Fe ddaw’n handi os daw’r eira yn ei ôl
Popeth arall aeth yn ddarna’mewn i rewgell ‘Tyddyn Ycha’ arwahan i’w flew a’i garna…a’i ben ôl
Mwy o wynt a mwy o eira mae nhw’n addo’r wythnos nesa Mae ‘na beryg y bydd petha’n mynd yn fler
Be ddaw yma ar ei wartha ? storm o’r Artig fydd hi’r tro’ma ac yn fan’no mae hoff gartra’r Polar BΘ‡r.
Gareth Jôs – 9.5
Ateb llinell ar y pryd: Na rwbia’r baw ar y bêl
Hiraethog
Na rwbia’r baw ar y bêl
Daw ergyd nôl o’r dirgel
0.5
Y Tir Mawr
Un cas oedd y tric isel
Na rwbia’r baw ar y bêl
Telyneg: Llithro
Hiraethog
(cofio Meic Povey, cyfoed ysgol)
Yn gaeth i gyffuriau’i glwyf,
rhwng muriau cell y cof
llithra’r llwyd yn rhithiau lliw...
concrid Pontcanna
yn ddolydd Nant Gwynant
a bwrlwm direidi’r brodyr
fu’n gloywi Aberglaslyn.
Ond bu’n gaeth erioed...
i anwes Eifionydd,
lle bu mam a’i theulu
yn wylo am fab a brawd;
i iaith goeth Y Gegin,
lle bu Yr Hen Blant
yn creu Diwedd y Byd;
i’r Gymru Gymraeg,
lle bu ‘Nel’ a ‘Now’ a ‘Les’
yn gwarchod y gwreiddiau.
Try mur y gell yn sgrîn
i weld a chlywed a theimlo
gwynt traed y meirw
yn gwannu trwy Nant Gwynant
yn chwalu set yr aelwyd,
yn pylu parablu’r plant
a diffodd canhwyllau’r sêr.
Eifion Lloyd Jones – 9.5
Y Tir Mawr
Roedd ei chanllaw mor bell
a chenllysg yn chwip
pan gafwyd hi'n gorwedd
ar waelod y clip;
roedd hi'n mynd ac yn dod, wedi'r gnoc i'w phen,
rhwng gwynfyd cwsg a'r gynfas wen.
Daeth teulu agos
y talu hyd braich
o gylch ei gwely
i drafod y baich,ac roedd ei llygaid, yn sΕµn eu ffrae,weithiau ar agor ac weithiau ynghau.
Myrddin ap Dafydd – 9
Englyn: Ffatri
Hiraethog
Er rhoi’n ddi-dor o’i gorau, ar ôl traul
troi yr holl flynyddau,
rhy hen yw ei pheiriannau dadfeiliog;
yn drugarog daw’r Perchennog i’w chau.
Rhys Dafis - 9
Y Tir Mawr
Mae 'na dΕ·'n y Cwm yn dwyn – yr enw;
lle bu trin a dirwyn
yr edau frau, mae 'na frwyn
drwy wely ffrwd yr olwyn.
Carys Parri - 9