Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Cyfaddefiad

Beirdd Myrddin

Cyfansoddiad menyw,
Peth gwyrthiol a rhyfedd yw,
Tra bod hi â ‘bach o annwyd’,
Rwyf innau'n glaf â'r ffliw.

Bryan Stephens - 8

Y Derwyddon

Rwy'n Gymro mor frwd ar fy nhaith,
a chredaf mewn gwarchod Yr Iaith,
Ond paf af i gaffi,
i'r banc neu dΕ· cyri,
yn Saesneg rwy’n holi - ‘na’r ffaith!

Siw Jones - 8

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘mwg’ neu ‘mαΊg’

Beirdd Myrddin

Y mαΊg â'i 'Yma o Hyd':
Myn edliw imi'n wawdlyd.

Aled Evans – 8 (Ann Lewis)

Y Derwyddon

O gelu’th dân o’r golwg,
anodd fydd cuddio ei fwg.

Meirion Jones -8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n bwysig eich bod chi’n ymchwilio’

Beirdd Myrddin

Mae’n bwysig eich bod chi’n ymchwilio
Am ffyrdd a all atal epilio.
Y gorau o’r rhain?
Llenwi’i bants gyda chwain
A ffugio pen tost cyn noswylio.

Ann Lewis – 8.5

Y Derwyddon

Mae’n bwysig eich bod chi’n ymchwilio
rhag ofn i’r “sales rep” yna’ch twyllo,
mae’r ffenestri’n rhai clwc,
ac mae’r boi yn rîl crwc,
ond trwy lwc fe welais i trwyddo.

Meirion Jones– 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 o linellau): Trysor

Beirdd Myrddin

Yn swp yng nghefn y cwpwrdd
ysa Gwyn am wΕ·s i gwrdd,
â'i wên gam yn dwyn i 'go
fynyddoedd fy heneiddio.
Ac oerni'n gaddug arnaf
daw'r pwythau brau â gwres braf;
o'i fwytho, daw cyffro cudd
yn wanwyn o lawenydd.
Â'n hysu'n un am ennyd ...
am oes o atgofion mud,
minnau'n iau'n ei gwmni o,
gwefr ddoe'n gyfaredd heno.

Lowri Lloyd – 8.5

Y Derwyddon

Yn ei chof roedd ei chyfoeth:
Caem wlanen yn garthen goeth,
A ffynnai ei gorffennol
Yn gwilt mor lliwgar ar gôl.
Hanesyn pob achlysur
Oedd dwt mewn edafedd dur
Yn addas i’w gwehyddu
Yn gain o enau mam-gu.
Ond creu twyll o hen rwyllau
Wnaeth gwyfyn i’r brethyn brau
A nawr, does ond celwydd noeth
Yn ei chof lle bu’i chyfoeth.

Elin Meek -9

Pennill ymson mewn gêm ryngwladol

Beirdd Myrddin

Cerddaf yn falwen flinedig
i bob sgrym, a sgarmes a maul
cyn clywed Gatland yn gweiddi
'Mae saithdeg naw munud ar ôl'.

Garmon Dyfri – 8.5

Y Derwyddon

Gêm Rygbi, Cymru v Seland Newydd
‘Rwy’n disgwyl ers blynyddoedd
i weld diweddu’r loes,
a gweled Cymru’n ennill
am unwaith yn fy oes.
Mae gennym y chwaraewyr,
mae gennym ddoniau lu,
na drueni n’allwn newid
y crys o goch i ddu.

Meirion Jones - 8

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Casgliad

Beirdd Myrddin

‘Ga'i nôl y bocs o gwpwrdd y gegin
Cewch roi’r stori unwaith eto datcu
Am y geriach chi ‘di hel ers fy ngeni
Fydd rhywbryd yn waddol i fi …’
Mae ynddo docynnau o’r Strade
A’r llyfryn o nodau clust wyn
Llofnod Tom Pryce yn ei Shadow
A darn o Mount Etna ‘di ddwyn.
Ac yn llechu ymysg y trysorau
O’r Talwrn, ambell bennill bach ffraeth,
Dau wyth ac un wyth a hanner
(Cafodd llawer un naw am rai gwaeth.)
Ac i lygaid yr Εµyr daeth un deigryn
Ac mewn llais oedd grynedig a tha’r,
Meddai, ‘Rhowch un cynnig arall
Cyn rhoi’r pensil am byth yn y drar.’
Felly dof ger eich bron unwaith eto
Ac mewn gobaith, os nad wyf mewn ffydd,
Caf gau’r clawr ar y casgliad; bydd gyflawn
Pan ddaw’r deg marc chwedlonol .. ryw ddydd.

Bryan Stephens - 9

Y Derwyddon

Os ych chi ngwlad y Cardis – bob amser rhaid osgoi
cyhoeddi bod na gasgliad cyn bo nhw gyd yn ffoi!
Os digwydd ca nhw’i dala, a rheini’n rhai mor dynn,
fe ddo nhw mas o’r picil – fel y tri o Synnod Inn
a ath am wylie tawel – am wthnos neno’r tad!!
i yfed dΕµr Llanwrtyd, chi’n gweld – ma hwnnw’n rhad!
A’r tri hen ffarmwr yno; i’r Capel fore Sul
heb gofio dim fod casgliad yn nhrefn y llwybr cul.
Ac yna cyn y bregeth, cyhoeddwyd apêl – do!
a chasgliad go arbennig tuag at ail godi’r to.
Yn sydyn bu cythrwfwl – roedd un o’r tri ‘ny bac
heb esgus, wedi ffeinto, a’th pawb yn etha crac!
Doedd dim amdani wedyn, ar ôl ei bwl bach cas
ond i’r ddau ffrind caredig i gario’r Cardi mas.
Pan ddath e rownd mhen amser, diolchodd ef i’w Dduw
fod casgliad y to drosodd, ac ynte’n dal yn fyw!
Mae’n rhyfedd shwt ma’ gweithred yn gwir ypseto rhai,
i’r Cardis yn Llanwrtyd – Y CASGLIAD gath y bai.

Peter Hughes Griffiths - 8.5

Llinell ar y pryd: Da o beth o hyd yw bod

Beirdd Myrddin

Da o beth o hyd yw bod
Un ‘n’ yn enw Synod

0.5

Y Derwyddon

Da o beth o hyd yw bod
Yn onest wrth feirynod

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Encilio

Encilio

Rho i'm iaith yr oriau mân,
ennyd i mi fy hunan
i rifo awr arafach
a dal byd yn dawel bach.
Rho i'm awr mewn storm eira
a thro'r haul yn llethrau ia,
i gau y gwynt yn ei gell
a gollwng llafn ei gyllell.
Rho i'm oed wrth donnau'r môr,
rho ras i mi yn drysor.
Ga'i orig heb sΕµn geiriau,
dim ond cydio dwylo dau.
A ga'i ffoi o olwg ffin,
a heria daith pererin,
a byw heb ôl yn y byd
na hanes am un funud.

Aled Evans - 9

Y Derwyddon

Ar goll yn y tân
Gwylio’r mwg yn newid gwawl y lleuad
yn troelli ar ei ffordd i dagu’r sêr,
fflamau’r tân yn cynnal dawns y chwaliad,
colsynnau coch fel minlliw, brysiog, blêr;
Cym’ryd cam yn nes i dwymo’r dwylo
a benthyg gwres ei olau rhag y nos,
edrych ar y gwreichion yn taflunio
eu patrwm poeth, yn loyw dros y rhos.
Droriau glan bu’n cadw starts y Saboth
mewn crysau gwyn dilychwyn fesul un,
lludw nawr - yn ulw tan yr ysgoth,
ysglyfaeth bore bach i’r awel blin.
A heno daw rhyw wewyr drosof i
wrth losgi cwpwrdd dillad hen famgu.

Emlyn Dole – 9.5

Englyn: Recordiad

Beirdd Myrddin

Ace of Spades (bu farw Fast Eddie Clarke ar 10 Ionawr eleni, yr olaf o leinyp clasurol Motorhead)
Lemmy, clyw'r dôn gyflymaf a'i rhyddm
yn dadwreiddio'r gaeaf,
a gwêl un, ac yntau'n glaf,
yn delio'r cardiau olaf.

Aled Evans

Y Derwyddon – 9.5

Recordiad (David Lloyd yn canu ‘Elen Fwyn’)
Mae’i lais fel sidan amdanaf – a’r dôn
mor daer fel dychmygaf
nad cân, ond ei gusan gaf:
Anwes i’w Elen fwynaf.

Elin Meek – 9.5

Beirdd Myrddin – 69.5

Y Derwyddon - 69