Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Ymholiad
Caernarfon
Un petrus oedd cyn gofyn dim:
ymm...pryd mae te? ymm...be ’di sim?
ymm... lle yn union mae'r arholiad?
fo roes yr ‘ymm...’ ymhob ymholiad!
Ifor ap Glyn - 8
Tegeingl
Pam rhaid ‘madael â hen ffrindiau?
Pam rhaid credu hen gelwyddau?
Pam rhaid gwneuthur, flwyddyn nesaf
Brydain fach yn Brydain dlotaf?
Dafydd Efan Morris – 8
Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd ‘dow-dow’
Caernarfon
Arafa! Mwya'r afiaith
Wrth fynd dow-dow ar dy daith.
Llion Jones – 8.5
Tegenigl
Fe elwais ddoe am falwod…….
A dow-dow, y maent yn dod.
Dafydd Efan Morris - 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pe elech i Neuadd Bro Garmon’
Caernarfon
Ped elech i Neuadd Bro Garmon
Fe welech chi’r waliau yn geimion
a’r llechi yn llac.
Darllenwch y plac:
Fe’i codwyd gan gwmni Carillion.
Emlyn Gomer - 8
Tegeingl
Ped elech i Neuadd Bro Garmon
Ni ddylech fynd drwy Aberdaron
Nac i lawr dro Fro Gwyr
Rhag bod, Duw a wyr
Rhyw fymryd yn hwyr i’r Ymryson
Pedr Wyn Jones - 8
Cywydd (heb fod dros 12 o linellau): Cenhadon
Caernarfon
Oedom ar lan Llyn Llydaw’n
gwylio hynt y cwmwl glaw
bnawn Sul dros grib yn nesáu,
a’i wylio’n gwlychu’n hwyliau.
Yna, o gopa’r mynydd,
heibio, nes ail-danio’r dydd,
daeth, ar garlam, blant tramor;
llamai’u hiaith fel pwll y môr.
Fe wenais, roedd y faner
ar gefnau eu sachau’n sêr
melyn heb ddim cymylau
bnawn Sul dros grib yn nesáu.
Ifan Prys - 10
Tegeingl
Jim Jones – Jonestown 1978
Rhes r’ôl rhes, heb lais na chri
Yn daer i’w genadwri.
Yn ddiofn, rhaid ufuddhau
I’w dduw a’i ffug weddïau.
Er eu lles, mewn rhyw lesmair
Yn ei rwyd; ac ar ei air,
Rhoi’u hunain, a rhoi’u heinioes
Yn ei law i leddfu’r loes.
Yma, mor hawdd eu cymell
Gam wrth gam at fywyd gwell,
Ar drywydd rhyw hirddydd ha’n
Anwylo’r weithred ola’.
Marc Lloyd Jones – 8.5
Pennill ymson mewn bwyty byrgyrs
Caernarfon
Mac hyn, Mac llall, ’dyn nhw’m yn gall –
a dyma ydi’r trwbwl:
’Di’r Big (Mei) Mac ddim mwy na snac,
hyd’n oed ’fo byrgyr dwbwl;
A’r Nygets Cyw fel ceilliau dryw
neu gerrig Barney Rwbwl:
Ma’r lle ’ma’n crap – pam ddim Big Ap?
Pryd hapus? Pryd o gwbwl?
Geraint Lovgreen – 8.5
Tegeingl
Rwy’n amau byrgyrseidion
Byth er clwyf y gwartheg gwirion,
Ond caf heno yn fy stecsen
Hen flas od- fel cig llygoden.
Dafydd Efan Morris – 8.5
Cân ysgafn: Cwyn Swyddogol
Caernarfon
Ambell waith mi ydw i’n teimlo fel yr ymerawdwr Nero’n methu gneud dim byd ond ffidlo tra mae’r byd yn troi yn dân;
Diolch byth fy mod yn ddiogel yma’n bell o unrhyw ryfel yn fy ngwlad fach hardd a thawel gyda’m rhyddid a’m dΕµr glân.
Ond mae’n anodd bod yn ddiolchgar pa fo ciwed anfaddeugar yn protestio yn aflafar am ryw fanion bron bob dydd;
Dwi ’di trio’u hanwybyddu ond mae’u clochdar yn cynyddu, felly does ’na ddim amdani ond cysylltu â Chaerdydd.
Mae gen i gΕµyn (mae ganddo gΕµyn); ma’i’n un swyddogol (mae’n un swyddogol) -
Dwi ’di ca’l llond bol ar udo yr holl winjars proffesiynol
Tu ôl i’w mur gwleidyddol gywir yn cystwyo a fflangellu,
Ac yn giamstars ar ddarganfod pob un ffordd o gael eu pechu.
’Dan ni’n gwbod fod gormodedd o reolau mewn cynghanedd; does na’m pwrpas rhincian dannedd dros bob anaf Gareth Bale;
Does dim pwynt mynd i ffrygyda am fastardeiddio hen emyna; a pha bwrpas hyd ’noed dechra dadansoddi Dafydd Êl?
Mae selebs yn byw ar weniaith; mae sêr pop yn sgut am lediaith; fedar Trump ddim rhoddi araith heb lambastio’i gyfaill Kim;
Fedar dreifars Audi’m parcio; fedar Ceri Wyn ddim marcio – fel’na mae y byd yn gweithio, waeth chi heb â swnian ddim.
Mae gen i gΕµyn (mae ganddo gΕµyn); ma’i’n un swyddogol (mae’n un swyddogol) -
Am ryfelwyr allweddellau y cyfryngau cymdeithasol;
Yn lle hedfan i dop caetsh ynghylch eich obsesiynau bach,
Be am fynd am dro i’r parc i gael ’m bach o awyr iach?
Mae gen i gΕµyn (mae ganddo gΕµyn); mae hyn yn hynod (o mor hynod) –
Dwi mor flin ynglΕ·n â’r pwnc fel mod i’n gorfod newid c’weirnod;
Tra mae’r byd yn mynd i’r diawl ’dach chi’n baldorddi am eich lol:
Trïwch syllu ar y darlun mawr yn lle eich bo-twm booool!
Emlyn Gomer – 8.5
Tegeingl
Rwy’n deall eleni fod y Steddfod yn Sblot
A beth ydi fy marn i? Wel, dim lot.
Rwy’n garafaniwr pybyr ers saith deg saith
Ac wedi mynychu’r cwbwl heblaw un waith
I mi fynd i Loereon ar fy nhaith
A Werddon, a’r Alban a Llydaw sawl gwaith.
Ond ‘rhyn sy’n fy mhoeni Elfed bach
Yw sut wnai ‘leni gymysgu â’r crach?
Bydd Dafydd El ar Royal Yacht yn y bae
A phawb ar chwâl heb ffens ac heb gae.
Bydd y Babell Lên mewn rhyw hofal o le
Ond dyna sy’ ddigwyl pan awn tua’r De.
Mae Cerrig yr Orsedd ger Neuadd y Ddinas
Sut wnai gyrraedd Pafiliwn finna ‘di gwisgo fel dynas?
Mae nhw ‘n dweud fod y Lle Celf draw yn y Senedd,
Mae fan honno’n iawn i ddangos petha rhyfedd.
Mae Llwyfan y Maes, mi glywais mewn rhyw dwll,
Be dach chi ‘di wneud? Ei roi o mewn hen bwll.
A chitha Elfen ar fin riteirio
Ga’i ofyn yn garedig i chi ail gysidro.
A rhoi i ni faes lle cawn ni gyd gwyno
Am gyflwr pob dim, dyna pam da ni yno.
Bryn Jones - 8.5
Llinell ar y Pryd: Eira ar lawr sy’n cau’r lôn..
Caernarfon
Eira ar lawr sy’n cau’r lôn
I rai nerfus Caernarfon
0.5
Tegeingl
Eira ar lawr sy’n cau’r lôn...
’Rhoswch, mi gawn ymryson!
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Parsel
Caernarfon
Pan oedd amser yn doreithiog
a'r dyddiau'n troi yn rhwydd ar echel blwyddyn,
daeth angau yn barsel at dy dΕ·.
'Welais i mo'r agor gennyt,
y bwrw bol ar garreg drws,
cario dy ymysgaroedd wedyn
yn gowlad poeth a gwlyb i'r tΕ·.
Ac wythnos galar yn ddiweddarach,
'chlywais i mo glep haearn giât y fynwent,
nac ateb cras y brain.
Bûm yn ceisio mwstro'r ystrydebau
cyn mentro draw, er mwyn y byw...
..canys cariad-tu-chwith ydi galar;
'nid yw'n cenfigennu'
nac yn 'ceisio'i ddibenion ei hun',
ac mae sgyrsiau y ni sydd ar ôl,
yn barhad o'r rhai aeth o'n blaen,
wrth araf wingo ar echel blwyddyn...
Ifor ap Glyn – 9.5
Tegeingl
Mae’n cyrraedd yn ddirgelwch,
Yn anrheg dlos i’n byd,
Yn barsel o botensial,
Yn syndod oll i gyd.
Cawn weled y dadlapio,
Cawn fagu’r egin ddawn,
A gwylio’r hir ymagor
Nes gweld y pictiwr llawn
Ie, rhyfedd yw datblygu
Holl deithi hen yr âch
O fwndel o enynnau
Ynghudd mewn plentyn bach.
Dafydd Efan Morris – 8.5
Englyn: Partneriaeth
Caernarfon
Lennon & McCartney
Dau hogyn o’r chwedegau â chemeg
dychymyg y glannau
a ddaeth ar un donfedd iau
i ysgwyd byd â’u disgiau.
Llion Jones - 9
Tegeingl
Un nos oer mi aeth Sharon i lamu’n
Noethlymun i’r afon;
Ac yn ei awch, jawch, aeth John
I’w dynwared yn wirion.
Moi Parry – 9