Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Andrew Evans wrth ei waith yn y stiwdio yn ei gartref yn Ffairfach Portread o arlunydd
Tachwedd 2007
Dechreuodd diddordeb Andrew Evans mewn arlunio pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Tre-gib. Ei ysbrydoliaeth yw bywyd gwyllt lleol yn adar, anifeiliaid a golygfeydd y tymhorau.

Defnyddia acrylic a dyfrliw, ond ei hoff gyfrwng yw olew. Arddangoswyd ei waith yn eang o Landeilo i Vermont.

Oherwydd amgylchiadau teuluol, trist bu rhaid iddo adael yr ysgol yn 16 oed ac anghofio unrhyw uchelgais i barhau gyda'i addysg. Am ugain mlynedd bu'n gweithio yn y diwydiant adeiladu gan dreulio tair blynedd a hanner yn Llundain. Drwy'r cyfnod hwn, parhaodd ei gariad at gelf.

'Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd' meddai'r ddihareb. Ym 1994 cafodd Andrew gyfle i fynd i arddangosfa o waith arlunwyr bywyd gwyllt ymysg y gorau ym Mhrydain fel David Shepherd, Owen Williams a Terence Lambert. O ganlyniad i drafodaeth gyda'r arlunwyr penderfynodd ail afael yn ei ddiddordeb. Er na chafodd fawr o addysg ffurfiol, dysgodd drwy ddarllen ac astudio ar ei liwt ei hun ac, wrth gwrs, ymarfer y grefft.

Daeth y trobwynt yn y flwyddyn 2000. Penderfynodd fod yn arlunydd proffesiynol, llawn amser ac o'i stiwdio yn Nheras Tywi, Ffairfach ynghyd â chymorth ei wefan llwyddodd eisoes i wneud enw iddo'i hun yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n arddangos a gwerthu ei waith mewn tair galeri yng Nghymru, dwy yn Lloegr ac un yn Vermont, UDA.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf bu Andrew yn gweithio ar brosiect y Cynulliad Cymreig 'Dynamo', sy'n golygu cwrdd â disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg fel model o entrepreneur sydd wedi llwyddo mewn byd busnes. Caiff bleser mawr o'r prosiect ac o'r cyfle i helpu'r genhedlaeth nesaf i fagu hyder i fentro.

Bu Andrew yn byw yn ardal Llandeilo erioed ar wahan i'r tair blynedd a hanner yn Llundain. Ganed ef yn Llandeilo yn fab i Peter a Rita Evans. Yn dilyn y brofedigaeth o golli ei rieni symudodd i fyw at ei dad-cu a'i fam-gu, Fred a Sarah Jones, i Bailey Â鶹ԼÅÄ Farm yng Ngwynfe. Portread i'w barhau yn rhifyn Rhagfyr o'r Lloffwr

Mae rhai o luniau Andrew Evans i'w gweld yn rhifyn Tachwedd 2007 o'r Lloffwr.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý