Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mattoidz Gŵyl Menter Bro Dinefwr 2004
Gorffennaf / Awst 2004
Edrych yn ôl ar ŵyl Menter Bro Dinefwr mewn erthygl lawn am yr wythnos yn ei chyfanrwydd.

Cliciwch yma hefyd i edrych ar yr ŵyl mewn lluniau.

Pleser yw cael dweud bod cyfanswm o dros 1,800 o bobl wedi mynychu'r digwyddiadau oedd yn rhan o ŵyl Bro Dinefwr 2004. Roedd hyn yn cynnwys pobl o bob oed a chefndir a bu'r ŵyl gyfan yn llwyddiant ysgubol. Gwelwyd amrywiaeth o artistiaid gyda llawer ohonynt yn hannu o fro Dinefwr, a bu'r safon yn gyson wych.

Prif nod yr ŵyl oedd rhoi cyfleoedd ychwanegol i drigolion yr ardal drwy gydweithio â nifer o fudiadau a oedd yn trefnu gweithgareddau eisoes, a threfnu rhai digwyddiadau newydd. Yn ogystal a hyn rhoddwyd llwyfan i nifer fawr o ddoniau lleol - rhai yn newydd ac eraill yn fwy profiadol, a chafwyd perfformiadau safonol tu hwnt gan bawb.

Perfformiodd Côr Rhianedd Rhys, Llanymddyfri yn Noson Lawen yn Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm ar nos Wener, 2 Gorffennaf, yn ogystal â'r grŵp grŵp Celsain, eto o ardal Llanymddyfri yn canu ar noson olaf yr ŵyl o flaen tua 500 o bobl.

Cafwyd ystod eang o weithgareddau yn ystod yr wythnos gan rai o brif artistiaid Cymru.

Diolch i'r holl artistiaid, y gwirfoddolwyr, y busnesau, y mudiadau lleol a'r cynulleidfaoedd a gefnogodd holl weithgareddau'r wythnos ac i Tywys am ei gefnogaeth ariannol i nifer o'r digwyddiadau. Edrychwn ymlaen yn awr at Å´yl Bro Dinefwr 2005.

Gŵyl Bro Dinefwr - yr hanes yn llawn

Cafwyd wythnos i'w chofio wrth i ni ddathlu gŵyl gyntaf Menter Bro Dinefwr yn ddiweddar. Cynhaliwyd nifer fawr o weithgareddau ar hyd a lled y fro gyda rhywbeth at ddant pawb a thua deunaw cant o bobl yn mynychu'r digwyddiadau.

Digwyddiad agoriadol yr Ŵyl oedd noson yng nghwmni Martyn Geraint yn Ysgol Gynradd Llansawel i ddathlu 25 mlynedd Cylch Meithrin Llansawel. Diolch i'r Cylch am drefnu'r noson a'i chynnwys fel rhan o weithgareddau'r ŵyl. Yn hwyrach yr un noson cafwyd perfformiad cofiadwy gan Elin Fflur a'i band yng Nghlwb Rygbi Llandeilo, fel rhan o'i thaith o amgylch Cymru. Gyda thua 70 o bobol yn bresennol, cafwyd noson safonol o gerddoriaeth fyw gan gyn-enillydd Cân i Gymru a chefnogaeth gan Alun Tan Lan.

Cynhaliwyd Miri Myrddin ym Mharc Caerfyrddin ar 26 Mehefin ac er gwaetha'r tywydd daeth nifer dda ynghyd i'r diwrnod teuluol a drefnwyd gan Fentrau Iaith Myrddin. Fel rhan o slot talentau lleol Radio Cymru, fe wnaeth y band Amlder o Ysgol Tre-gib, Llandeilo berfformiad arbennig iawn i godi ysbryd y gynulleidfa wlyb, cyn mynd ymlaen i gynrychioli bro Dinefwr yn ail rownd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Yn rhannu'r un llwyfan ar y noson oedd band arall o Ysgol Tre-gib, Trydan sydd eisoes wedi cael llwyddiant yn yr Eisteddfod.

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu yn y Capel Newydd, Llandeilo ar nos Sul ddilynol dan drefniant Eglwysi Annibynnol Llandeilo a'r cylch. Gwyn Nicholas oedd yr arweinyd gwadd a chafwyd cwmni Côr Llanpumsaint a'r cylch hefyd. Roedd yn noson lwyddiannus, yn ddiweddglo teilwng iawn i benwythnos cynta'r ŵyl.

Llongyfarchiadau i Glwb Criced Llanymddyfri a enillodd gwis chwaraeon blynyddol Menter bro Dinefwr ar y nos Lun. Cafwyd noson o ddiddanwch dan arweiniad Emyr Wyn wrth i ryw ddwsin o dîmau'r ardal ddod ynghyd i rannu eu gwybodaeth a'u diffyg gwybodaeth!! Dilynwyd hyn ar y nos Fawrth gan noson wych o adloniant ysgafn yn Nhafarn y Drovers, Ffarmers yng nghwmni Tudur Dylan Jones. Bu wyth o feirdd yr ardal yn cystadlu am darian her Stomp y Beirdd, ond Aled Williams o Gaerfyrddin aeth â hi eto, gyda'i gerddi yn dod i'r brig am yr a flwyddyn yn olynol.

Cafwyd perfformiadau arbennig o sioe dafarn newydd Ysbryd Glyndŵr gan Gwmni Theatr Bro Dinefwr ar y nos Fercher a'r nos Iau yng Ngwesty'r Castell, Llanymddyfri. Roedd y tocynnau wedi eu gwerthu'n llwyr ar gyfer y ddwy noson a braf oedd gweld y cwmni Theatr yn mynd o nerth i nerth, a chymaint o drigolion yr ardal ar y llwyfan unwaith yn rhagor. Edrychwn ymlaen at eu perfformiad nesa'.

Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm oedd lleoliad penwythnos ola'r Ŵyl, ac ar y nos Wener cafwyd Noson Lawen i'w chofio dan arweiniad John Gwynne, Closglas, yng nghwmni Côr Rhiannedd Rhys, Aled Edwards, Heather Jones a'r Henneseys gyda'r gynulleidfa o dros ddau gant o bobl yn mwynhau noson o safon uchel.

Daeth yr ŵyl i ben ar nos Sadwrn, 3 Gorffennaf gydag uchafbwynt addas iawn ymhob ystyr gyda bron i bum cant o bobl yn mwynhau noson wych yng nghwmni Bryn Fôn a'r Band., Mynediad am Ddim, Mattoidz a Celsain. Roedd hon hefyd yn noson arbennig i Mynediad am Ddim sydd yn dathlu eu pen-blwydd yn 30 oed eleni. Diolch i bawb a gefnogodd yr ŵyl mewn unrhyw ffordd ac edrychwn ymlaen at ailadrodd y llwyddiant y flwyddyn nesaf.

Ewch i edrych ar luniau o'r ŵyl trwy glicio yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý