Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cadair Prosiect Tywi Afon yr Oesoedd
Gorffennaf 2009
Mae cadair wedi cael ei chomisiynu fel rhan o brosiect Tywi Afon yr Oesoedd.

Fel rhan o weithgareddau Darganfod y Tywi Prosiect Tywi Afon yr Oesoedd, penderfynwyd comisiynu cadair. Pwrpas y gadair yw bod yn ganolbwynt mewn nosweithiau dweud storïau yn nhraddodiad y 'Cyfarwydd'. Testun un o weithgareddau Darganfod y Tywi yw 'Dweud y Stori'.

Un o fwriadau'r thema hon yw ennyn trigolion lleol i adrodd storïau'r ardal yng nghwmni storïwr proffesiynol i fagu eu hyder ac i ail gynnau traddodiad y Cyfarwydd'. Yn llysoedd tywysogion y Canol Oesoedd byddai lle parchus i'r cyfarwydd er nad oedd ei statws gyfuwch â bardd neu bencerdd. Byddai'n adrodd storiau a etifeddodd drwy'r traddodiad llafar gan ddileu, newid neu ychwanegu at y chwedl yn ol ei arddull.

Disgwylid i'r cyfarwydd ddiddanu, bod yn ddramatig ac adrodd storïau mewn iaith mwy dealladwy na'r beirdd. Yn sicr, byddai croeso i'r cyfarwydd yn llys yr Arglwydd Rhys yn Ninefwr. Ar wahan i Bledri ap Cydifor a ddeuai o ardal Caerfyrddin ac felly o gyffiniau'r Tywi, yn anffodus ni wyddys braidd dim am bwy oedd y cyfarwyddiaid a'u hanes.

Ar y dechreuad fe luniwyd rhestr o anghenion cyn gwahodd nifer o wneuthurwyr lleol i gynnig cynlluniau. Ymysg y gofynion oedd yr angen i'r gadair fod yn ysgafn gan y bydd yn cael ei chludo o le i le, rhaid iddi hefyd fod o ddefnyddiau lleol a'r pren o goedwig gynaliadwy.

O ran cynllun dylai'r gadair gyfleu elfennau ardal y prosiect ac i fod yn addas i blant ac oedolion eistedd ynddi. Roedd cyfuniad o gynllun, ymarferoldeb ac estheteg yn ystyriaethau canolog wrth ddewis y gorau.

Y cynllun a ddaeth i'r brig oedd un gan Jonathan Garrard a oedd yn cyflawni'r amodau a osodwyd. Dim ond dechrau'r broses oedd dewis y gwneuthurwr a bu Elgan Jones, Swyddog Dysgu a Dehongli'r prosiect yn cydweithio yn agos gyda Jonathan drwy gydol datblygu a gwneud y gadair wrth iddo ddiweddaru agweddau o'r cynllun.

Mae'r gwneuthurwr celfi blaenllaw yn cynorthwyo i adfer y grefft hynafol o adrodd straeon yn Nyffryn Tywi. Caiff y gadair ei defnyddio gan ysgolion, grwpiau cymunedol a Michael Harvey, prif storïwr y prosiect. Mae'r gadair wedi ei gwneud o bren derw sydd wedi tyfu yn nyffryn Tywi. Mae yna ddarnau o dderw cors yn cysylltu'r ddwy styllen gefn wrth ei gilydd.

Daw'r derw cors o wely'r afon Tywi i'r gorllewin o Landeilo. Mae'r darnau ar ol eto yng nghanol yr afon ar y gadair.

Mae'r gadair yn gyfuniad o ddelweddau a dehoghliadau'r dyffryn. Mae'n todern and eto'n soffistigedig ac yn ffocws teilwng i storiwyr yn nhraddodiad y Cyfarwydd.

Gellir gweld y gadair yn Llyfrgell Gyhoeddus Llandeilo.

Mae Tywi Afon yr Oesoedd yn derbyn nawdd oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cynllun Datblygu Gwledig, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Gar, Cyngor Cefn Gwlad a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý