Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Porthmyn. Llun o bapur bro Y Lloffwr Llwyddiant Llanymddyfri
Mai 2007
Ar ddydd Sadwrn, 28 Ebrill, cipiodd Llanymddyfri fuddugoliaeth hanesyddol o ddwylo'r 'ffleiars' dinesig Caerdydd yn Stadiwm y Mileniwm wrth ennill gêm derfynol Cwpan Konica.

Roedd hi fel y bedd yn Llanymddyfri ar brynhawn Sadwrn gan fod y rhan fwyaf o'r trigolion yng Nghaerdydd yn cefnogi'r Porthmyn.

Cafwyd perfformiad llawn penderfyniad, ias a chyffro gan y tîm a throdd y freuddwyd yn realiti wrth i'r Porthmyn sicrhau'r fuddugoliaeth unigryw.

Viv Jenkins, yr Asgllewr oedd y cyntaf i sgorio wrth gicio drwyddo i'r asgell cyn cael cais yn y gornel dde. Yn dilyn hyn, rhoddodd trosgais y gwib-hanerwr Howard Thomas Llanymddyfri 7-0 ar y blaen. Datblygodd yr hanner cyntaf yn ornest glos ond llwyddodd Caerdydd i grafangu nôl gyda dwy gic gosb cyn i Lanymddyfri gael un cic gosb a gorffen hanner amser 10-6.

Erbyn yr ail hanner roedd Caerdydd yn fwy hyderus a'r cefnwyr yn arbennig yn edrych yn eithaf peryglus. Ond cafodd Llanymddyfri hefyd adegau cofiadwy a dylsent fod wedi sgorio cais pe bai Tom Walker wedi ildio'r bêl ar linell Caerdydd. Wrth i'r gêm dynnu at ei therfyn, oherwydd y pwysau cynyddol gan Gaerdydd, trodd y sgôr 13-12 o blaid Llanymddyfri yn 13-18 i Gaerdydd wrth i Craig Evans sicrhau dwy gic adlam raenus. Roedd hi'n edrych fel petai 'ffleiars' y ddinas am fynd â hi.

Ond, dangosodd Y Porthmyn yr un penderfyniad a oedd wedi eu cynnal trwy gydol y gêm a brwydro nôl gydag un ymdrech fawr olaf. Enillodd Llanymddyfri y bêl yn agos at llinell Caerdydd a diolch i waith pasio bendigedig aeth Endaf Howells ymlaen i sgorio cais. Fe droswyd gan Howard Thomas a sicrhaodd hyn fuddugoliaeth hanesyddol 20-18 i'r Porthmyn.

Casglwyd y cwpan gan y capten Arwel Davies ac yna dathlwyd y fuddugoliaeth hyd at oriau mân y bore yn Llanymddyfri a go brin y byddai hyd yn oed y Ficer Pritchard wedi gwarafun hyn ar achlysur mor unigryw.

Ry'n ni yma o hyd a cherddwn ymlaen!!!

Meic Davies

  • Adroddiad ar wefan Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý