Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
J. Eirian Davies Cofio Cawr - J. Eirian Davies
Mai 2004
Cofio'r Parch J. Eirian Davies wrth ddadorchuddio cofeb iddo yng nghapel MC, Nantgaredig.
Ganwyd James Eirian Davies yn blentyn ieuengaf teulu llengar Y Llain, Nantgaredig ar 28 Mai 1918.

Y drasiedi o golli ei frawd Emrys yn ei arddegau, tra roedd y ddau yn nofio yn afon Tywi a arweiniodd Eirian Davies rai blynyddoedd yn ddiweddarach i fynd i'r weinidogaeth. Aeth i Goleg Trefeca ac yna i Goleg y Brifysgol, Abertawe. Tra yn y Coleg enillodd gadair a choron yr Eisteddfod Ryng-golegol ddwy waith. Parhaodd â'i hyfforddiant yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth.

Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Methel, Hirwaun; Morea, Brynaman cyn symud i Fethesda'r Wyddgrug. Roedd yn bregethwr arbennig a'i wreiddioldeb yn golygu bod pob un yn deall ei neges. Er iddo wisgo'n llachar yn y dyddiau cynnar, ei lais cyfareddol cynnes sy'n aros yng nghof y gynulleidfa.

Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth "Awen y Wawr" yn 1947 yn ystod ei ddyddiau coleg. Fe'i dilynwyd gan bedair cyfrol arall o farddoniaeth: - "Cân Galed", "Cyfrol o Gerddi", "Darnau Difyr" (cyfrol i blant) ac "Awen yr Hwyr". Cyfrol o ddeunydd ar gyfer eglwysi oedd "At eich Gwasanaeth".

Priododd â Jennie, merch fferm "Llandre", Llanpumsaint, a'r ddau yn cydweithio yn hwylus yn yr eglwysi ac Eirian am gyfnod yn cynorthwyo ei wraig i gyd-olygu'r Faner. Ganwyd iddynt ddau o blant, Siôn a Guto. Gŵr addfwyn heddychlon oedd Eirian. Mae'r rhan fwyaf o'i gerddi yn ymdrin â chyflwr crefydd, yr iaith, y genedl ac heddychiaeth.

Wedi dychwelyd i Sir Gâr, parhaodd i bregethu yn achlysurol, darlledu ar y radio ac ysgrifennu'r golofn hynod o ddiddorol "Gair neu Ddau" yn y Western Mail. Bu farw dydd Sul, 5 Gorffennaf 1998. Yn ôl ei ddymuniad gwasgarwyd ei lwch yn afon Tywi, yn y fan lle boddwyd Emrys.

Yng ngeiriau ei gyfaill agos Gwyn Erfyl:- "Pan fu farw Eirian, fe gollodd Cymru fymryn o'i lliw". Ar nos Wener, 7 Mai dadorchuddiwyd cofeb iddo yng nghapel MC Nantgaredig am 7.00 o'r gloch.

Elonwy Phillips


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý