Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ty Newton, Llandeilo Y Dref Gymreig - Llandeilo
Ionawr / Chwefror 2009
Mae Ty Newton ym Mharc Dinefwr, Llandeilo wedi ymddangos ar raglen S4C Y Dref Gymreig, sydd yn cael ei chyflwyno gan Aled Samuel.

Doedd dim rhaid i Aled Samuel deithio'n bell i gyflwyno'r ail raglen yng nghyfres newydd Y Dref Gymreig, sy'n bwrw golwg ar hanes adeiladol nifer o drefi yng Nghymru.

Llandeilo sy'n cael sylw Aled a'r arbenigwr Dr Greg Stevenson yn y rhaglen hon, a dyma'r dref y bu Aled yn byw ynddi ers bron i 11 mlynedd. Ac fel mae'n dweud ar ddechrau'r rhaglen, "Mae ganddi hanes pensaernïol hynod o liwgar".

Ond nid dyna'r rheswm pam y cafodd yntau ei ddenu i fyw i Landeilo. Roedd y dref wedi ei gyfareddu ers iddo fod yn blentyn.

"Hyd at o'n i'n wyth oed ro'n i'n byw yn y de ac yn teithio o Bort Talbot i Fangor yn ystod pob gwyliau. Mi roedd hi'n bum awr o daith ac mae gen i nifer o atgofion gweledol o'r daith honno, mae'r atgofion yn sownd yn fy mhen i. Ac un ohonyn nhw yw tre Llandeilo. Roedd 'na rywbeth pleserus iawn o weld y dre ar y bryn o bell, ac yna mynd i fyny ati, a theithio trwyddi. Mae'n un o ddelweddau'r daith sydd wedi aros yn y cof."

Bydd Aled yn teimlo'n reit gartrefol, felly, wrth grwydro gyda Greg a'i gi Minti o amgylch y dref. Mi fyddant yn galw heibio Eglwys St Teilo a chastell Cymreig pwysig, Castell Dinefwr, a ildiwyd i Edward I ym 1277. Byddant hefyd yn crwydro i lawr Stryd Fawr y dref ac yna yn ymweld â thy Sioraidd sydd wedi ei leoli drws nesa i'r bont drawiadol a gynlluniwyd ym 1840. Adeiladwyd y ty hwn i fod yn gartref i asiant ystâd Gelli Aur.

Bydd y triawd chwilfrydig hefyd yn ymweld â Phlas Dinefwr cyn mentro i lawr i ddyfnderoedd banc yn y dref a sefydlwyd ym 1799. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan David Jones a oedd yn borthmon, un o'r rhai a oedd yn gyrru gwartheg o Orllewin Cymru i'r marchnadoedd yn Llundain. Dewisodd enw'r banc yn fwriadol er mwyn ceisio denu ei gyd-borthmyn i ymddiried eu harian i'w fanc.

Mae Aled a Greg yn gytûn fod tref Llandeilo yn parhau i fod yn lle prydferth a deniadol iawn.

"Mae pobl y dre yn amlwg yn edrych ar ôl eu pensaernïaeth," meddai Greg. "Maen nhw wedi sylweddoli ei fod yn denu pobl at eu tref."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý