Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tim y cwis chwaraeon gydag Eleri Sion Gŵyl lwyddiannus
Gorffennaf / Awst 2005
Wel am wythnos! Ers sefydlu'r Å´yl y llynedd, mae'n wir i ddweud ei bod wedi mynd o nerth i nerth. Cafwyd wythnos yn byrlymu o weithgareddau gwahanol gyda rhywbeth at ddant pawb.

Dechreuodd yr wythnos pan ddaeth bron i 300 o bobl i Gymanfa Ganu fawreddog yn y Capel Newydd, Llandeilo dan arweiniad medrus Gwyn Nicholas, Llanpumsaint gydag Owain Gruffydd wrth yr organ. Daeth aelodau nifer o gorau'r ardal ynghyd ac fe gafwyd sain hyfryd wrth i'w lleisiau atseinio o fewn muriau'r capel mewn dathliad o leisiau'r ardal.

Dywedodd Llywydd yr Ŵyl, Adam Price, AS yn ei anerchiad agoriadol, "Mae'n bwysig cael digon o fwrlwm cymdeithasol yng nghefn gwlad er mwyn sicrhau bywyd cymunedol llawn a llewyrchus a denu pobl ifanc yn ôl i'r ardal."

Ar y nos Lun, cynhaliwyd Cwis Chwaraeon yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri gydag un o brif ohebwyr chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru, Eleri Siôn, yn llywio'r cyfan. Bu llawer o grafu pen wrth i'r timau geisio ateb y cwestiynau a osodwyd, ond er gwaethaf eu hanhawster fe lwyddodd Eleri Siôn i gynnal y diddanu a'r chwerthin drwy'r nos. Y tîm buddugol oedd 'Yr Hen Borthmyn', sef rhai o gyn chwaraewyr rygbi Llanymddyfri a diolch iddynt am gyfrannu eu gwobr ariannol yn ôl tuag at gostau'r Å´yl.

Stomp y BeirddAr nos Fawrth, cafwyd noson o fwynhad pur yn Stomp y Beirdd a gynhaliwyd yn Neuadd Pumsaint, o dan arweiniad y Prifardd Tudur Dylan Jones. Difyrrwyd y gynulleidfa niferus mewn naws gartrefol a chyfeillgar wrth i wyth bardd lleol adrodd eu cerddi. Dewiswyd John Rees Evans gan y gynulleidfa fel yr enillydd a llongyfarchiadau mawr iddo yntau - braf yw gweld y darian yn aros ym Mhumsaint!

Roedd Tafarn Pen-y-bont, Llanfynydd yn byrlymu nos Fercher mewn noson o sgwrs a chân yng nghwmni Dafydd Iwan. Gyda'r canu'n codi a'r cwrw'n llifo cafwyd noson i'w chofio gyda'r dorf o ryw 150 ar eu traed yn ymuno yn canu clasuron Dafydd Iwan, un o fawrion y byd cerddoriaeth Cymraeg. Anfonwyd llythyr at Fenter Bro Dinefwr gan frodor o Lanfynydd yn eu llongyfarch ar y noson, yn dweud, "Mae'n glod aruthrol i'r Fenter ei bod yn dod â'r digwyddiadau mawrion yma mas o'r trefi, ac i mewn i bentrefi ac ardaloedd cefn gwlad. Fe dynnodd y digwyddiad nifer o bobl at ei gilydd ac fe'u hatgoffodd am eu Cymreictod. Gwiw i neb ddweud wrtha i o hyn allan fod Menter Iaith yn wastraff amser - ry'ch chi'n gwneud pethau hynod o werth-chweil, ac yn gwneud argraff bositif gynyddol ar bobl Bro Dinefwr."

Cafwyd noson hamddenol nos Iau yng Nghwm-du yng nghwmni un o frodorion yr ardal sef Wyn Davies o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Diddorwyd y gynulleidfa wrth iddo sôn am ei waith a dyfodol yr ymddiriedolaeth a Thafarn Cwm-du dan ei sang.

Cyrhaeddwyd uchafbwynt yr wythnos gyda'r Penwythnos Mawr ar Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm ger Llanymddyfri. Mwynhau!Cafwyd hyd yn oed mwy o gynulleidfa na'r llynedd gyda'r fferm yn llawn dop a thros 1,000 o bobl yn gwrando ar rai o fandiau mawr Cymru ynghyd â rhai bandiau lleol.

Ar y nos Wener, cafwyd perfformiadau gan Celsain o Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri; Quidest, band ifanc o'r gogledd; Mattoidz sydd â rhai o'r aelodau o'r ardal hon; ac un o sêr mwyaf canu ysgafn Cymraeg, sef Bryn Fôn a'r Band.

Ar y nos Sadwrn bu'r gynulleidfa yn gwrando ar Amlder a ffurfiodd o Ysgol Tre-gib; Tangwystl o Ysgol Bro Myrddin; Bob Delyn a'r Ebillion a gafodd ymateb gwych dan arweiniad y Prifardd Twm Morys; a Mynediad am Ddim yn cloi'r ŵyl mewn steil, gyda pherfformiad cofiadwy arall.

Peintio wynebauDaeth rhyw 50 o blant a'u rhieni at ei gilydd brynhawn dydd Sadwrn i fwynhau sesiwn chwaraeon dan ofal Aled LlÅ·r, castell bownsio, paentio wynebau ac ymweliad arbennig gan Superted.

Er nad oedd y tywydd ar ei orau bob amser, daeth criw da ynghyd i wersylla dros y penwythnos a braf oedd gweld hyn wedi tyfu'n sylweddol eleni! Diolch i Fenter Bro Dinefwr a fu'n gyfrifol am drefnu'r cyfan ac i'r criw brwdfrydig o wirfoddolwyr am eu holl cefnogaeth a'u cydweithrediad. Diolch hefyd i bawb a gymerodd ran ac a fynychodd y digwyddiadau yn ystod yr wythnos - ni fyddai'r cyfan wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth trigolion yr ardal - rhyw 2,000 ohonynt i gyd.

Llongyfarchiadau i enillwyr cystadleuaeth fawr yr ŵyl, sef Delia Hughes o Gellan, Llanbedr Pont Steffan a gipiodd y brif wobr sef cryno-ddisgiau diweddaraf prif artistiaid yr Wyl wedi eu llofnodi; i Heulwen Lloyd, Pumsaint a gafodd yr ail wobr sef pecyn C2; ac i'r deg aenillodd becyn Menter Bro Dinefwr fel trydedd wobr, sef Wendy Davies, Dafydd Davies, Menna Dyer, Maureen Rowlands, Humphrey Edwards, Goronwy Davies, Eurwyn Humphreys, Laura Hughes, Kim Price ac Eifion Jones.

Bu Gŵyl Bro Dinefwr 2005 yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen yn fawr at Ŵyl 2006!

Fuoch chi yn rhai o ddigwyddiadau Gŵyl Bro Dinefwr eleni? Dwedwch wrthon ni sut hwyl gafoch chi trwy lenwi'r ffurflen isod.


Cyfrannwch

Sioned
Gwyl arbennig iawn. Wedi mwynhau bob noson a fynychais yn fawr iawn, yn arbennig y penwythnos olaf a Stomp y Beirdd! Gobeithio bydd gwyl blwyddyn nesaf 'run mor lwyddiannus!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý