Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Edward Griffiths Diolch am wasanaeth hir
Hydref 2005
Mae rhai pobl yn edrych ymlaen at ymddeol ac eraill yn ei ofni'n fawr. Yr olaf sydd yn wir ym mhrofiad y Parchedig Edward Griffiths, Llandeilo.

Nid oedd yn edrych ymlaen at ymddeol o gwbwl, er ei fod wedi mynd heibio i oedran swyddogol ymddeol! Ond er nad oedd yn edrych ymlaen at y diwrnod, fe ddaeth dydd Sul, 25 Medi yn sydyn iawn, diwrnod ei oedfa olaf yn y Capel Newydd ar ôl bron i 19 mlynedd o wasanaeth. Dim ond dwy oedfa a gollodd yn yr amser hynny oherwydd salwch - tipyn o record.

Oedfa yng ngofal yr Ysgol Sul a'r blaenoriaid oedd yn y Capel Newydd y bore hwnnw, ac er nad oedd Edward yn dymuno unrhyw ffws, nid oedd yn bosib gadael i'r achlysur basio ynGwbl ddi-ddigwydd. Cyflwynwyd rhoddion i Rhiannon Griffiths ei wraig, gan y Chwaeroliaeth, y Gymanfa Ganu a hefyd yr Ysgol Sul. Cyflwynwyd rhodd i Edward gan y Capel a darllenwyd llythyron o werthfawrogiad a chefnogaeth i'r dysteb gan y capeli lle bu'n gweinidogaethu ynddynt dros y blynyddoedd.

Yn ystod yr oedfa hefyd, cyflwynwyd rhodd i Owen Phillips, cyn -drysorydd y Capel am ei 15 mlynedd o waith diflino i'r achos, ac yntau nawr yn rhoi heibio'r dyletswyddau hynny.

Yn ail hanner yr oedfa, cymerwyd rhan gan blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Cafwyd cân i Edward - lle diolchwyd iddo gyflwyno'r neges i'r bobl ifanc - fod Iesu yn ffrind. Actiwyd hanes ei fywyd cynnar - yn Soar Penboyr a'r ffaith ei fod yn hoff o bêl droed, yn mynd i bysgota yn lle mynd i wersi piano, ac yn dda am chwarae snwcer hefyd!

Yn rhan o'r perfformiad roedd cyflwyniadau ar DVD drwy sgrîn fawr yn y capel a hynny gan ffrindiau bore oes, cyd-fyfyrwyr yn y coleg, ffrindiau, cyd-weinidogion a hefyd atgofion pobl o'r gwahanol ardaloedd lle bu'n weinidog. Ar y diwedd cafwyd cân i gloi'r perfformiad gan yr Ysgol Sul - gan ddweud yn anad dim arall - fod Edward yn ffrind i'r plant a'r bobol.

Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Nancy Thomas, Eleri Davies, Shân Evans, Merfyn Jones, Dyfrig Davies, ac Arwyn Evans, gydag Owain Gruffydd wrth yr organ, a Nia Clwyd yn cyfeilio ar y piano. Trwy gymorth Teledu Telesgop, Cwmni Cudyll Coch, Rhodri Gruffydd, a Robin Owen ffilmiwyd, golygwyd a dangoswyd y DVD, gyda Lowri Jones a Ffion Rees, dwy athrawes ifanc yr Ysgol Sul yn arwain y perfformiad. Roedd bron i 25 o blant a phobl ifanc yn rhan o'r perfformiad.

Er mai achlysur trist ar un llaw oedd y gwasanaeth, roedd hefyd yn gyfle i ddweud diolch ac i ddangos gwerthfawrogiad i weinidog sydd trwy ei frwdfrydedd a'i gyfoesedd wedi sicrhau fod y Capel Newydd heb ddisgyn o ran aelodau a heb golli bwrlwm ei hysgol Sul.

Dymunwn iechyd ac ymddeoliad hir a hapus, gan ddiolch iddo ac i Rhiannon ei briod am eu holl waith caled.

W.D.D.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý