Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Capel Newydd, Llandeilo Dathlu Canmlwyddiant Capel
Rhagfyr 2002
Cynhaliwyd oedfa i ddathlu canmlwyddiant adeilad y Capel Newydd yn Llandeilo ar brynhawn Sul, 17eg o Dachwedd. Can mlynedd a diwrnod ynghynt y cynhaliwyd yr oedfa gyntaf yn yr adeilad, a hynny ar 16eg o Dachwedd, 1902. Deg diwrnod yn ddiweddarach mae'n debyg y cynhaliwyd dros ddau ddiwrnod, oedfaon i agor y capel yn swyddogol.
Can mlynedd yn ddiweddarach gwahoddwyd Eleri Davies i sôn am yr hanes a chafwyd cyfarchion gan Bob Roberts ar ran y Tabernacl, Eifion Morgan ar ran yr Ofalaeth a hefyd, trwy lythyr, gan ddau a godwyd i'r weinidogaeth o'r Capel Newydd, a chyfarchiad eto trwy lythyr ar ran Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog.

Llywyddwyd yr oedfa gan y gweinidog - y Parch. Edward Griffiths, a chymerwyd rhan gan Parch. Wyn Morris, Salem, Shan Evans ac W. Dyfrig Davies ar ran yr Ysgol Sul.

Yn dilyn atgofion y ddau gyn-weinidog - y Parchedigion Raymond Williams a Walford Jones, cafwyd unawd gan Nia Clwyd a pherfformiad gan bobl ifanc yr Ysgol Sul.

Cyhoeddwyd y Fendith gan y Parch. Kathryn M. Price, Memorial Hall ac Owain Gruffydd oedd wrth yr organ.

Wedyn fe fwynhaodd y gynulleidfa o tua 200, de yn y festri a chyfle i grwydro ac edrych ar yr arddangosfa o luniau a dogfennau yn ymwneud â hanes y Capel ac i ddarllen llyfryn y dathlu o waith Eleri Davies.

Mae'r ffeithiau moel yn gwneud i'r cyfan swnio mor rhwydd, and bu criw bach wrthi'n ddyfal am fisoedd yn paratoi, ac er mai peth peryglus yw enwi, rhaid cydnabod gwaith diflino ac amyneddgar yr ysgrifennydd, sef Arwyn Evans.

Roedd sawl uchafbwynt i'r oedfa ac atgofion y Parchedig Walford Jones yn sicr yn un o'r rheiny. Mewn modd rhwydd, diymhongar ond difyr iawn, fe ddaliodd sylw'r gynulleidfa. Uchafbwynt arall, heb os, oedd perfformiad plant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Teitl eu perfformiad oedd " Beth am yfory".

Hanes 1902 cyfnod o newid a datblygu
Mae'n werth oedi ychydig gyda'r perfformiad a hynny oherwydd mai llais yr ifanc yw lleisiau'r dyfodol. Drwy berfformiad syml and effeithiol fe atgoffwyd pobl am yr hanes gan ei roi ynghyd destun yr hyn oedd yn digwydd yn y gymdeithas yn 1902.

Cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor a T. Gwyn Jones yn cael ei gadeirio, er nad oedd yno, gan nad oedd hi'n arfer hysbysu'r enillydd ymlaen llaw bryd hynny. Y mudiad dirwest yn gryf iawn a hyn yn arwain at ddiwygiad Evan Roberts yn 1904-05; clefyd y frech wen (small pox) ar gynnydd ym Mhrydain; llifogydd mawr ym Mhatagonia gan arwain at nifer o'r Cymry oedd yno, yn symud i Ganada i fyw.

Dirwy i un gyrrwr am yrru'n rhy gyflym, ac yntau yn teithio ond 25 milltir yr awr; dechrau ar gyfnod y ffôn; trosglwyddo ysgolion i ofal y Cynghorau lleol; Prydain yn ennill rhyfel y Bwr yn Ne Affrica; dyfeisio'r batri; coroni Edward y 7fed; Arthur Balfour yn brifweinidog. Ie cyfnod o newid ac o ddatblygu.

Cyfoeth a sefydlogrwydd y cyfnod Fictorianaidd o gymorth i bobl, a thân crefyddol yn cael ei sefydlogi gan reolau dirwest cyn ymfflamychu eto mewn diwygiad bach.

Ni ellir ond gweld y car, y ffôn a'r batri fel dyfeisiadau a oedd i chwyldroi ein bywydau. Teithio a symud, cyfathrebu a goleuo yn llythrennol gan ddileu plwyfoldeb, anwybodaeth ac ofergoeliaeth tywyllwch, am byth.

Fe ellid yn hawdd trafod arwyddocad hyn oll a'i berthnasau i godi capel, ond mae gofod ac amser yn brin.

Ffydd a blaengarwch ein cyndeidiau
Rhag creu argraff anghywir, prif fyrdwn a neges perfformiad yr Ysgol Sul oedd dangos ffydd a blaengarwch ein cyndeidiau canrif yn ôl, yn mynd ati i godi adeilad newydd.

Prin fod pethau wedi newid rhyw lawer ers hynny, ambell got o baent, gwaith cynnal a chadw a gosod trydan yn yr adeilad. Seddi yr un mor galed. a ffurf ar wasanaeth sydd prin wedi newid. Wrth gwrs nid dim and yn y Capel Newydd mae hyn, ond mae'n wir yn gyffredinol dros Gymru i gyd.

Beth am y dyfodol?
Ond nid edrych nôl ar wychder ddoe, nac ychwaith cael ein diflasu gyda chaethiwed y presennol oedd neges bwysicaf y perfformiad. Dangoswyd dwy wedd ar y dyfodol - sef yr un o weld y capel yn wag, yn adfeilion gyda'r gair Condemniwyd arno,ond hefyd y posibilrwydd o foderneiddio ac o symud gyda'r oes gan wneud yr adeilad a'r eglwys yn un fyw, deinamig ac yng nghanol y gymuned.

Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan bawb o'r plant a'r bobl ifanc, and mae'n werth nodi dwy yn arbennig - sef Kate Lloyd a Lowri Jones. Roedd y canu yn effeithiol, a'r gwisgoedd o dan ofal Maureen Rhys yn hynod o drawiadol. Yng ngeiriau'r ifanc "mae'r dathlu'n her ar gyfer yfory."

W. Dyfrig Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý