Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tatŵ Tabŵ y Tatŵ !
Mawrth 2004
Does dim dwywaith - mae'r hen arfer o addurno'r corff â darluniau neu batrymau wedi dod yn ôl!

Fel arfer, mae'r llun lliwgar wedi ei guddio o dan ddilledyn ac allan o'r golwg (tan fisoedd yr haf beth bynnag), ond fe synnech chi faint o bobol annisgwyl sydd wedi cael tatŵ - pwy sy'n eistedd wrth eich ymyl chi wrth ddarllen Y Lloffwr ar hyn o bryd? Ydych chi wedi gweld cefn eu hysgwydd neu dop eu braich yn ddiweddar?!

Mae pobol yr ardal hon fel arfer yn mynd i Gaerfyrddin er mwyn cael tatŵ, at ŵr o'r enw Nobby. Mae 70% o'i gwsmeriaid ef yn ferched a'r rhestr aros yn faith iawn. Dim ond rhyw 4 person mae'n gallu gweithio arnynt bob dydd gan ei fod yn cymryd balchder mawr yn ei waith ac yn rhoi o'i orau bob tro.

Ond pam bod mwy a mwy o bobol yn dymuno coel tatŵ y dyddiau hyn? Mae'n debyg mai ffasiwn yw'r prif reswm. Gyda ninnau'n byw mewn cymdeithas sy'n rhoi cymaint o fri i'r byd celeb-aidd, mae'n debyg ein bod ni am efelychu eu edrychiad nhw. Mae Nobby wedi cael sawl cwsmer yn gofyn am datŵ Celtaidd yn ddiweddar, ar ôl gweld yr actor George Clooney, yn y ffilm From Dusk Til Dawn.

Mae rhai cwsmeriaid yn gofyn am datŵs digon gwahanol a bryd hynny mae'n rhaid i Nobby ddefnyddio ei synnwyr cyffredin. Mae e wedi gwrthod rhoi tatŵ siâp y swastika i un dyn, ac mae'n gwneud yn siŵr ei fod yn cadw at y gyfraith - dim tatŵ i blant o dan 18 oed.

Tatŵ Dramor
Beth mae'r tatŵ yn golygu mawn gwledydd eraill?
Borneo
Y tywyllaf yw'r tatŵ ar ferch, y prydferthaf yu gwelir gan gymdeithas.

Siberia
Mae'r llwythi, hyd heddiw, yn rhoi tatŵ i lawr eu cefn er mwyn gwella poen cefn.

Samoa
Mae'r tatŵs yn arwydd o allu dwyfol oddi mewn.

Maori
Hen draddodiad i beintio wynebau cyn mynd i ryfel.

Tabŵ'r Tatŵ
Y man mwyaf poenus : Arennau
Lleiaf poenus : Top y fraich (dynion) a'r bronnau (merched)
Patrwm mwyaf poblogaidd : Draig a phatrwm Celtaidd

Gan : Heledd ap Gwynfor (Prosiect Papurau Bro.)

Profiad personol- gallwch ddarllen profiad Siân Davies yn rhifyn Mawrth o'r Lloffwr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý