Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rhai o'r ardal gyda'r Arglwydd Faer a'i briod Sioe yr Arglwydd Faer
Ionawr / Chwefror 2008
Mae rhai amserau a dyddiadau yn aros yn y cof am byth. I griw o ardal Y Lloffwr bydd 10 Tachwedd, 2007 yn un o'r dyddiau hynny.

Teithiasant i Lundain i weld Sioe yr Arglwydd Faer. Teulu a ffrindiau yr Henadur David Lewis oeddent, wedi cael gwahoddiad personol ganddo i weld yr orymdaith ryfeddol ar y dydd y cymerodd y llw i'w wneud yn Arglwydd Faer Llundain 2007/8. Gwelsant yr orymdaith ryfeddol o 143 gwahanol adran (Ysgol Glanaethwy oedd yno dros Gynulliad Cymru), yr Arglwydd Faer yn teithio yn ei goets aur, cael pryd o fwyd arbennig yn y Mansion House a gweld Tân Gwyllt bythgofiadwy dros yr afon Tafwys.

Mae'r tsaen a wisgir yn aur pur a phob dolen wedi ei selio ar y llythyren 's' yn dyddio'n ôl i gyfnod y Tuduriaid. Hon oedd tsaen Sir Thomas More a ddienyddiwyd gan Harri'r wythfed. Mae'r tlws yn y canol yn cynnwys arfbais y ddinas ac o'i gwmpas mae 254 o ddiemwntau. Mae ganddo ddau warchodwr bob tro mae'n gwisgo'r tsaen!

Dyma gychwyn blwyddyn brysur du hwnt y gŵr bonheddig hwn yn Faer Dinas Llundain. Swydd ddi-dâl yw hon a fydd yn golygu cyfarfod brenhinoedd a llywyddion byd eang yn gyson bob mis. Bydd yn cyfarfod prif weinidogion yn wythnosol ac eto swydd yn rhydd o bob cysylltiad a phlaid boliticaidd yw. Yr Arglwydd Faer yw pennaeth Corfforaeth Dinas Llundain sy'n gofalu am weinyddu holl wasanaethau cyhoeddus o fewn y filltir sgwâr yn cynnwys meysydd fel cynllunio, yr heddlu, Llys yr Old Bailey ac Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall. Bydd yn cael ei gynorthwyo gan ddau Siryff, Henaduron a Llys y Cyngor Cyffredinol.

Disgwylir iddo'n bersonol fynychu rhwng wyth a deg cyfarfod y dydd a gwneud tua mil o areithiau'r flwyddyn. Dim rhyfedd fod angen dau berson arno ymhlith y 57 o staff sydd ganddo yn y Mansion House i ymchwilio a pharatoi'r areithiau! Rhan arall bwysig o'r swydd yw cadw a datblygu statws y Ddinas fel canolfan fusnes orau'r byd ac felly bydd yn treulio tua 100 diwrnod yn teithio ar draws y byd yn hybu busnes rhyngwladol ar gyfer y Ddinas. (Dinas sydd â'i gwasanaethau ariannol yn cyfrannu £25 biliwn i'r economi yn flynyddol.)

Tras Gymreig
Dyma'r tro cyntaf ers dros ganrif i un o dras Gymreig gael ei ddyrchafu i'r swydd unigryw hon a dim ond wyth Cymro sydd wedi'i ethol ers dewis y Maer cyntaf yn 1189.

Cafodd David Lewis ei eni yn Hong Kong a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Malaya lle'r oedd ei dad yn Gyfarwyddwr Addysg y Wlad. Mae ganddo atgofion hyfryd am fyw yno ynghanol pobl gyfeillgar, tymheredd cynnes iawn a bywyd gwyllt rhyfeddol. Cafwyd gwyliau cyson yn ôl yng Nghymru drwy'r blynyddoedd ac mae'n cofio amdano yn blentyn yn dychryn a gwrthod mynd i mewn i ystafell un o'r teulu yng Nghymru pan welodd ben teigr yn gorwedd ar lawr!

Yn wyth oed cafodd ei anfon i Loegr i'r 'Dragon School' a 'St. Edward's School' yn Rhydychen cyn dilyn ôl troed ei dad i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Astudiodd y Gyfraith. Tra yn Rhydychen daeth i nabod ei briod Theresa ac mae ganddynt fab Tom, merch Suzannah ac wyres fach, Olivia sy'n gannwyll llygad ei thad-cu a'i mam-gu.

Yn 1969 dechreuodd weithio gyda chwmni 'Norton Rose' yn y ddinas gan arbenigo mewn cyllido corfforaethol. Dringodd drwy'r rhengoedd yn y cwmni ac erbyn 1979 ef oedd rheolwr y cwmni yn Hong Kong. Daeth yn ôl i Lundain yn 1983 gan arbenigo mewn prynu a gwerthu cwmnïau. Daeth yn Gadeirydd y Cwmni a'r partner hŷn yn 1997. Bu ei gyfraniad yn allweddol wrth i Norton Rose fod y cwmni cyfreithiol cyntaf erioed i dderbyn y 'Queen's Award for Export Achievement'. Erbyn hyn mae'n ymgynghorydd i'r cwmni ac felly'n cael amser i ehangu ei waith gwirfoddol. Ymhlith y rhai hynny mae'n Gymrawd o Goleg yr Iesu, Rhydychen; yn Henadur yn y Ddinas; Ynad Heddwch; Warden yn Eglwys St. Margaret Lothbury; Llywodraethwr ysgolion Dragon a Christ's Hospital a Phrifysgol Brookes, Rhydychen; yn Ymddiriedolwr Uned y Gyfraith Prifysgol Rhydychen; yn Gadeirydd Cyngor datblygu Adran y Gyfraith Prifysgol Rhydychen, ac yn aelod o dri Cwmni Lifrai.

Er gweithio ar draws y byd mae David Lewis yn ymwybodol iawn o'i dras Gymreig ac yn gallu olrhain ei achau yn ôl o leiaf 450 mlynedd yn yr ardal. Mae'n siŵr fyddai ei dad-cu, David Lewis arall, byth wedi gadael am Lundain. Ganwyd iddo dri mab a phan oedd yr hynaf, Thomas, ond yn wyth oed, bu farw David a dychwelodd y teulu at deulu'r fam i Birdshill ger Llandeilo. Felly yn Ysgol Llangathen cafodd Thomas ei addysg gynnar. Treuliwyd gwyliau'r haf gyda theulu'r tad yn Nyffryn Cothi. Yn 17 oed enillodd ysgoloriaeth i astudio hanes yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Roedd hwn yn chwaraewr rygbi addawol a chafodd dreial ar gyfer tîm Cymru.

Oherwydd prinder swyddi yn y 20'au ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil a'i anfon allan i'r Dwyrain pell ac yno bu'n gweithio gweddill ei oes hyd ymddeol i Aberystwyth. Deuent yn ôl i Ddyffryn Cothi yn gyson.

Geiriau Cymraeg ar Arfbais
Wrth i'r Maer hwn baratoi ei arfbais bersonol a gynlluniwyd gan ei briod , tynnodd sylw at ei gefndir Cymreig trwy gael geiriau Cymraeg arno -'Cyfuwch a'r haul bo'r nod'. (Y Maer cyntaf i wneud hyn.) Yn y wledd gyntaf a drefnodd ar gyfer 550 gyda'r prif weinidog, Gordon Brown yn brif westai cyfieithwyd y geiriau i'r gwesteion ledled y byd gan yr Archesgob Rowan Williams.

Defnyddiodd y wledd hefyd i gyflwyno cynnyrch rhagorol yr ardal i'r gwesteion sef, caws gafr 'Cothi Valley', cig oen Dolau Cothi, siocledi 'Heavenly', Llandeilo. Fe gafwyd chwisgi a licar Cymreig cyn gorffen.

Enwebodd dwy elusen ar gyfer Apêl y Maer 2008 sef 'Wellbeing of Women' ac 'Orbis'. Gobeithia godi pum miliwn iddynt. Cytunodd y Tywysog William fod yn Noddwr Anrhydeddus yr Apêl. Gyda'i bersonoliaeth dawel, gadarn, foneddigaidd a chefnogaeth lwyr ei briod bydd David Lewis yn sicr o lwyddo ym mhob maes mae'n ymwneud â hwy.

Er yn byw yn y Ddinas does dim yn well ganddo wedi gorffen gwaith y dydd a chyn noswylio na mynd â'i Labrador du, Cothi allan am wâc. Cawsant gyfle i ymlacio yn ôl yn ein plith dros y Nadolig ond ar ddechrau'r flwyddyn bydd y gwaith yn ail-ddechrau gyda threfnu parti calan i 500 o blant.

Dymunwn i gyd 2008 hapus a llewyrchus i'r Arglwydd Faer David Lewis a'i briod Theresa a disgwyliwn ymlaen am eu gweld yn ymddeol i Ddyffryn Cothi.

Esme Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý