Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Siôn Ifan Llwyddiant unigolion lleol
Gorffennaf / Awst 2007
Bu dau o fro'r Lloffwr yn arbennig o lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin eleni.

Croesawodd Sir Gâr Eisteddfod yr Urdd i'n plith eleni a chawsom wledd o dalent o bob cwr o Gymru. Bu'r cystadlu'n frwd, a phobl ifanc yr ardal yn gosod safon aruthrol ar y llwyfan ac yn yr adran gwaith cartref. Llongyfarchiadau mawr i bawb o fro'r Lloffwr a gafodd lwyddiant a llongyfarchiadau arbennig i'r ddau isod a ddaeth i'r brig yn rhai o'r prif gystadlaethau.

Siôn Ifan
Un o'r unigolion disglair yma oedd Siôn Ifan, prif fachgen Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae'n siŵr y bu Sion, sydd yn byw yn Nryslwyn, yn un o gystadleuwyr prysuraf yr ŵyl eleni wrth iddo baratoi ar gyfer yr holl gystadlu. Ymhlith rhai o'i uchafbwyntiau yn yr Eisteddfod oedd dod yn fuddugol ym Monolog B1.10-13, a Chyflwyno Alaw Werin Unigol B1.10¬ - 13, dod yn ail yn yr Unawd allan o Sioe Gerdd B1.10-13, ac Ensemble Lleisiol Bl.13, ac yn drydydd yn y Côr Bechgyn TB Bl.13 ac iau.

Ynghyd â hyn, roedd yn chwarae un o'r prif rhannau yn y Sioe Gerdd 'Dagrau'r Coed'. Ar nos Sadwrn olaf yr Å´yl cafodd Sion ei wobrwyo gyda Thlws Gwobr Talent Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru. Roedd hi'n noson gofiadwy wrth i Ray Gravell gyflwyno'r tlws iddo o flaen pafiliwn llawn. Dymunwn pob hwyl i Sin wrth iddo ddechrau ar ei yrfa colegol a gobeithiwn weld llawer mwy ohono ar lwyfan ac ar sgrin yn y dyfodol.

Rhiannon Marks
Rhiannon MarksLlongyfarchiadau mawr hefyd i Rhiannon Marks o Gil-y-cwm ar ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007, am ysgrifennu tri darn o ryddiaith ar ffurfiau gwahanol ar y testun "Dod yn ôl". Mae Rhiannon yn aelod o Aelwyd Llyn y Fan, Llanymddyfri - aelwyd newydd sbon a gafodd ei sefydlu ar gyfer yr Eisteddfod ac sy'n siŵr o dyfu o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.

Addysgwyd Rhiannon yn Ysgol Gynradd Rhys Pritchard ac Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri cyn graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae newydd dderbyn ôl-radd yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen ac ym mis Medi, bydd yn dychwelyd i Gymru ac i Adran y Gymraeg, Aberystwyth lle bydd yn treulio tair mlynedd yn gwneud doethuriaeth ar waith beirdd benywaidd cyfoes Cymraeg.

Mae Rhiannon yn hoff iawn o lenydda ac wedi cystadlu droeon mewn Eisteddfodau lleol a mwy. Enillodd y gadair deirgwaith yn olynol yn Eisteddfod Ysgol Pantycelyn ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi dod yn ail ac yn drydedd yng Nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd.

Disgrifiodd y beirniaid sef Dylan Iorweth a Mari Stevens, Rhiannon fel "awdur hyderus" a chanddi "fflach dychymyg". Dywedasant "Dyma gasgliad disglair, dychmygus a deallus".

Estynnwn ein llongyfarchion cynhesaf i Rhiannon ac rwy'n siŵr y caiff y goron gartref braf ym mro'r Lloffwr.

  • Coron i Rhiannon
  • Adolygiad o Dagaru'r Coed
  • Mwy am Eisteddfod yr Urdd 2007

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý