Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dennis Edwards "Hyd ei fainc ydyw ei fyd"
Ebrill 2005
Portread o'r crydd Dennis Edwards, Llangadog (1920-2005)gan Handel Jones
Cofiwn yn annwyl am grefftwr dawnus a hynaws, y diweddar Dennis Edwards (1920-2005) o Langadog.

Cyhoeddwyd portread o'r cymeriad amryddawn yn Llafar Gwlad, Rhif 59, Gwanwyn 1998, a phleser yw cynnwys yn Y Lloffwr ran o'r portread hwnnw yn gof amdano.

Ddiwedd haf 1920, roedd tristwch llethol yn Gwestfa, tÅ· urddasol a safai yng nghanol Maenordeilo, Sir Gaerfyrddin. Mewn ystafell wely, roedd y meddyg yn brwydro i achub bywyd mam a oedd wedi dioddef genedigaeth anodd.

Er gwaetha'r argyfwng, llwyddodd y rhai a oedd yn yr ystafell i gytuno ar enwau i'r bychan druan. Cafodd yr enw Alfred ar ôl brawd ei fam, a laddwyd yn yr Aifft yn y Rhyfel Byd Cyntaf. A mynnodd gwraig o'r enw Mrs Ding, athrawes mewn ysgol breswyl leol lle gweithiai'r fam fel cogyddes, y dylai'r baban rannu enw â'i mab Dennis.

Roedd ei fam, Margaret, yn ferch i Dafydd Lloyd, y gof ym Maenordeilo, a'i dad, David Tom, yr hynaf o bymtheg o blant, yn fab i gipar o'r Ystâd Dolau Cothi yn ardal Cwrtycadno. Doedd David Tom ddim eisiau gweithio ar y tir, ac aeth i Gastellnewydd Emlyn i ddysgu i fod yn grydd.

Yna, cafodd gyfle i weithio fel improver, hynny yw, perffeithio crefft ar ddiwedd prentisiaeth. Ei gyflogwr newydd oedd Rhys Thomas, Cymro Cymraeg o Gaerdydd, a oedd wedi codi gweithdy a siop yn Llangadog, Gwnaeth David Tom argraff dda, a chymerodd y fusnes drosodd yn 1920.

Aeth Dennis Edwards i weithio gyda'i dad yn syth ar ôl gadael Ysgol Llangadog yn 14 oed. Dilynodd Dennis ei dad i sawl cyfeiriad - i'r Lluoedd Arfog, i'r sêt fawr yng Nghapel y Methodistiaid, ac i fod yn athro Ysgol Sul, yn ogystal ag i siop y crydd,Yng nghyfnod ei dad, esgidiau'r wlad - esgidiau hoelion i ffermwyr a gweision - oedd yn cael eu gwneud a'u trwsio yn Llangadog, "Roedd y sgidie hoelion yn gorfod dal dŵr. Cip, sef y lledr mwyaf trwchus a chaled, oedd yn cael ei ddefnyddio, gyda bloneg mochyn i'w gadw'n sych. Byddai'r rhan fwyaf o'r lledr yn dod o danerdy yn Rhaeadr Gwy (sydd bellach yn Sain Ffagan). Roedden ni'n cael y lledr fesul bend, sef ochr gyfan creadur, Ond roedden ni hefyd yn defnyddio lledr wedi cael ei wneud o'r gwt, y bochau. y bol a'r tafod," meddai.

"...Wedi'r Ail Ryfel Byd y daeth y wellingtons, a nhw wnaeth y gwahaniaeth mwya' i'r gwaith yn y gweithdy. Roedd digon o waith o hyd, dim ond ei fod wedi newid. Oe'n ni'n riparowellingtons hefyd - gyda chlytiau rwber i ddechrau, a nawr plastig. Mae'r gwaith yn newid fel mae'r esgid neu'r wellington yn newid."

Canolbwynt y gweithdy bach yw hen fainc yn llawn droriau i gadw hoelion, a llwyfan pren o'i blaen i ddal darnau o ledr sy'n cwympo. Mae yna feinciau isel, hefyd, pob un â drôr, a ffwrwm ar un pen. Mae Dennis wedi cyflwyno un i'r amgueddfa yn Sain Ffagan.

Ymhlith y peiriannau, mae peiriant rholio lledr a wnaed yn yr Almaen o gynllun Prydeinig. Roedd hwn yn un o'r peiriannau a ddefnyddiwyd gan Rhys Thomas, ac sy'n dal i weithio'nddi-ffael. Mae'n syndod faint o beiriannau ac arfau sydd yn y gweithdy bychan: dwsinau o barau o lastiau, pinsiyrnau, cyllyll, astell hogi, morthwyl unpen a morthwyl deupen.

Mae'r darnau o farddoniaeth sy'n papuro un o waliau'r gweithdy'n dystion i ddiddordeb mawr Dennis Edwards, Er ei fod yn rhy wylaidd i arddangos ei waith ei hun, gŵyr pobl y pentref - a thu hwnt - am ei ddawn. Mae hyd yn oed ei hysbysebion yn cynnwys ambell gwpled. Yn eu plith mae:
"Mae 'n wir mewn bedd mae llawer gŵr
Am fod ei sgidiau'n gollwng dŵr.

Ac

"Esgidiau gwerth eu gwisgo
Sydd hefyd werth eu trwsio."

Meddai Dennis, "Mae'r gweithdy'n fan cyfarfod i'r pentref - lle byddwn ni'n trafod pregethau, yn cael dadleuon gwleidyddol ac yn pwyso a mesur gemau rygbi. Nid bywoliaeth yw'r gwaith nawr, ond rhywbeth i'ng nghadw i rhag gwneud drygioni."

I orffen dyma englyn gan T. M.Thomas, Tirallen, Llanwrda.

"Hyd ei fainc ydyw ei fyd - ac o raen
Ei grefft caiff ddedwyddyd;
Taro fu trwy ei fywyd
I draed ein gwlad rodio'n glyd.

Cydymdeimlir yn ddifuant â theulu Dennis Edwards yn eu colled.

Handel Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý