鶹Լ

Llygru'r gadwyn fwyd

Biogynyddiad (Biogronni)

Llygrydd yw cemegyn sy'n halogi'r amgylchedd. Dyma enghreifftiau o'r rhain:

  • plaleiddiaid - mae ffermwyr yn defnyddio'r rhain i atal plâu rhag bwyta eu cnydau
  • metelau trwm - cael eu defnyddio mewn diwydiant

Mae'r mathau hyn o lygryddion yn effeithio ar organebau mewn proses o'r enw .

Dyma un ffordd mae llygryddion yn gallu mynd i mewn i gadwyn fwyd.

  1. Mae'r llygrydd yn cael ei olchi i mewn i afonydd a llynnoedd.
  2. Mae'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd drwy lynu at gynhyrchwyr neu gael ei amsugno ganddyn nhw.
  3. Pan mae'r cynhyrchydd yn cael ei fwyta, mae'r llygrydd sydd ynddo'n cael ei drosglwyddo i'r lefel droffig newydd. Nid yw’n cael ei dorri lawr ac felly mae’n aros ym meinweoedd y corff.
  4. Y llygrydd yn parhau i gronni, gan gynyddu mewn crynodiad, wrth iddo symud i fyny'r gadwyn fwyd.
  5. Erbyn iddo gyrraedd y cigysydd uchaf, bydd y llygrydd wedi cynyddu i'r fath raddau nes ei fod yn wenwynig, gan leihau ffrwythlondeb neu hyd yn oed achosi marwolaeth.

DDT

Plaleiddiad cemegol yw DDT, ac roedd ffermwyr yn arfer ei ddefnyddio i reoli plâu pryfed oedd yn bwyta eu . Gallwn ni ei ddefnyddio i ddangos sut mae biogynyddiad yn gweithio, fel yn y diagram hwn.

Diagram pyramid yn dangos sut mae crynodiad plaleiddiad yn cynyddu ddeg miliwn gwaith o ddŵr i algâu i nymff cleren Fai i bysgodyn haul i'r crëyr mawr glas
Figure caption,
Mae'r diagram yn dangos crynodiad y DDT mewn rhannau y filiwn (ppm)

Roedd y crynodiadau DDT uchel mewn adar ysglyfaethus yn gwanhau plisg eu hwyau, roedd eu hepil yn marw ac roedd eu poblogaethau'n lleihau.

Question

I'r rhif cyfan agosaf, sawl gwaith yn uwch yw crynodiad y DDT yn yr adar ysglyfaethus nag yn y dŵr?

Question

Alli di ysgrifennu'r rhif hwn mewn geiriau?